Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Hanes Cefndirol

Mae pobl wedi cloddio am fetalau yn Y Mwynglawdd ers o leiaf y Canol Oesoedd (daw'r enw Saesneg Minera o'r Lladin canoloesol am gloddio neu fwyn). Cyfeirir at gloddio'n ysgrifenedig gyntaf yn Y Mwynglawdd yn 1296 pan anfonwyd cloddwyr o Ddyfnaint gan Edward I i weithio yn ei byllau arian. Roedd Edward I bob amser yn brin o arian, felly roedd angen arian arno i fathu darnau arian. Roedd problemau wrth gloddio yn Y Mwynglawdd yn aml iawn: Stopiodd y Pla Du y gwaith yno oherwydd bod prinder llafur, yn nechrau'r 15 Ganrif cododd Owain Glyndwr ofn ar berchnogion Saesnig y pwll, nes iddynt ffoi, tra yn ystod cyfnod Harri VIII, ceisiodd Syr Charles Brandon feio'i weithwyr pan fethodd ei fenter cloddio yn Y Mwynglawdd.

Ar y dechrau, roedd yr holl gloddwyr yn Gymry, ond yn y 18 Ganrif, dechreuodd cloddwyr Saesnig weithio yn Y Mwynglawdd. Bu raid iddynt ofyn am bregethwr Saesneg bob yn ail Sul, oherwydd nad oeddent yn deall y pregethwyr lleol.

Yn y 1780, gwnaeth peiriannau pwmpio stêm John Wilkinson hi'n bosibl i ehangu cloddio yn Y Mwynglawdd, ond parhaodd gorlifo i fod yn broblem fawr. Cyrhaeddodd cloddio am blwm ei anterth yn Y Mwynglawdd yn 1863-4, pan gloddiwyd 6822 tunnell o fwyn plwm a 1179 o fwyn sinc. Cafwyd elw o ychydig o dan £70,000 am y flwyddyn - cyfanswm da iawn. Ond, erbyn y 1890au, roedd pris mwyn plwm wedi cwympo ac yn 1910, gwerthwyd y peiriannau pwmpio a chaewyd y pwll yn 1914.

Yn ystod 1990-2, cloddiwyd y safle ac adnewyddwyd neu sefydlogwyd gweddillion y gwaith. Dyma ffeithiau hanesyddol y pyllau plwm yn fras. I gael gwybod mwy am fywyd y bobl a fu'n gweithio o dan y ddaear ac ar yr wyneb yno, bydd raid i chi ymweld â'r safle.

yn ôl i'r brig