Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Ymchwiliad

Ar Hydref 25ain 1934 agorodd yr Ymchwiliad i'r Ffrwydriad ym Mhwll Glo Gresffordd, Sir Ddinbych yn Church House ar Stryt y Rhaglaw, Wrecsam.

Syr Henry Walker, Prif Arolygydd Pyllau Glo ym Mhwll Glo Gresffordd.
© The Illustrated London News

Arweiniodd Syr Henry Walker, Prif Arolygydd Pyllau Glo, yr ymchwiliad ac roedd yn wynebu problem ddifrifol. Roedd y pwll wedi ei selio o hyd ac felly nid oedd tystiolaeth uniongyrchol i'w chyflwyno i'r ymchwiliad. Anelodd Syr Henry at geisio canfod cyflwr y pwll cyn y ffrwydriad ac archwilio unrhyw dystiolaeth am y ffrwydriad a'i achos. Gydag ef roedd dau asesydd: enwebai'r perchennog, John Brass, ac enwebai'r undeb, Joseph Jones. Erbyn diwedd yr ymchwiliad, byddant oll yn anghytuno gyda'i gilydd.

"They said they wouldn't dream of going to the inquiry because they would be blacklisted in every one of the collieries in the area."

Leta Jones, Gwirfoddolwr Cronfa Les

Roedd pwysigrwydd yr hyn a oedd yn y fantol a'r ddibyniaeth ar dystion yn golygu bod y ddwy ochr wedi chwilio am y bargyfreithwyr gorau yn y wlad. Cyflogodd y perchnogion Hartley Shawcross, prif erlynydd Prydeinig yn nhreialon Nuremburg yn ddiweddarach. Cysylltodd undeb y glowyr gyda Syr Stafford Cripps, bargyfreithiwr ac AS Llafur radical yr asgell chwith, a gynigiodd ei wasanaethau yn rhad ac am ddim.

Llesteiriwyd yr ymchwiliad nid yn unig gan ddiffyg tystiolaeth o'r pwll, ond hefyd gan ormodiaith rhethregol a bwlio llafar. I Cripps, roedd yr ymchwiliad yn gyfle i brofi bod perchnogaeth breifat y pyllau glo yn cynrychioli anfadwaith cyfalafiaeth. I'r perchnogion roedd yr ymchwiliad yn rhywbeth i'w ddioddef, gan wrthod ateb y cwestiynau.

Pobl yn aros am newyddion o'r pwll.
© The Times

Roedd yr amgylchfyd yn un cas. Teimlai'r glowyr bod y perchnogion wedi dyfeisio swyddi i'w holl swyddogion er mwyn eu cadw ar y rhestr gyflog ac felly yn dystion i'w hochr hwy. Cafodd undeb y glowyr anhawster cael glowyr i roddi tystiolaeth hefyd. Nid mater o beidio â bod eisiau cael eu croesholi gan ymenyddiau cyfreithiol gorau'r oes oedd hyn. Roeddynt yn poeni am eu swyddi hefyd.

"Our solicitors had some considerable difficulty in getting the men to sign as they were apparently all afraid of victimization when the Colliery restarted work if they had given evidence reflecting badly upon the management."

Miners' Union brief to their barristers

Roedd gobeithion yn dibynnu ar gael mynediad i adran Dennis. Gohiriodd Syr Henry yr ymchwiliad yn Rhagfyr 1934. Gobeithiai ei ail-agor pan fyddai adran Dennis wedi ei harchwilio'n llawn.

Ail-agorwyd y pwll ym mis Mawrth 1935, ac ail-gychwynnwyd cynhyrchu glo yn Ionawr 1936. Fodd bynnag, arhosodd adran Dennis wedi ei selio am resymau iechyd a diogelwch. I lawer, roedd agwedd y perchnogion yn gyfaddefiad o euogrwydd. Yn y diwedd, penderfynodd Syr Henry na allai'r ymchwiliad aros yn hirach ac fe gyflwynodd ei adroddiad terfynol ym mis Rhagfyr 1936. Fel llawer o ymchwiliadau wedi hynny, gofynnodd gymaint o gwestiynau ag a atebodd.