Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Cau

Ar 1af Ionawr 1947 atebwyd galwad Stafford Cripps. Gwladolwyd y pyllau glo. Gwnaeth y perchnogion newydd a deddfwriaeth newydd ym 1954 ddiogelwch mewn pyllau glo yn flaenoriaeth. Serch hynny, roedd amser yn brin i Bwll Glo Gresffordd. Dan fygythiad o 1969, bu i Gresffordd gau ym 1973.

Ysgogodd cau'r pwll glo ymgyrch newydd am gofeb i'r glowyr a laddwyd yn y drychineb. Roedd emosiwn yn gryf, yn enwedig pan ddymchwelwyd ben pwll i wneud ffordd ar gyfer datblygiad diwydiannol newydd. Teimlai'r perthnasau a oroesodd y byddai'r glowyr yn cael eu hanghofio. Ar ôl ymgyrch faith, dadorchuddiwyd cofeb ym 1982.

Llun o Cyril Challoner a Teddy Andrews, dau a oroesodd y ffrwydriad, ger Cofeb Gresffordd.

Cyril Challoner a Teddy Andrews, dau a oroesodd y ffrwydriad, ger Cofeb Gresffordd. © Liverpool Daily Post

Roedd y pwll glo wedi mynd, ond mae'r drychineb yn fyw yng nghof pobl. Gafaelodd ffawd glowyr Gresffordd yng nghydymdeimlad y genedl ar Fedi 22ain 1934. Nid yw erioed wedi colli hynny.

Mae statws eiconig i'r drasiedi. Mae Ballad of the Gresford Disaster ac Emyn Gresford yn enwog. Cyfansoddwyd cerddi a dramâu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r ymatebion hyn wedi dod o'r galon, ac yn aml yn hiraethlon, ond yn aml maent yn wleidyddol iawn hefyd. Rhoddwyd stop gan yr heddlu ar berfformiadau ym 1940 o ddrama radical Ewan MacColl a Joan Littlewood The Last Edition , am y drychineb ac fe ddirwywyd y cynhyrchwyr am dorri'r heddwch.

Image of a big wheel by memorial

Cofeb Trychineb Pwll Glo'r Gresffordd ar dir Clwb Cymdeithasol Gresffordd. © Liverpool Daily Post

Mae'r drychineb wedi dod yn ddyddiad mwyaf cofiadwy yn hanes Wrecsam. Mae haneswyr yn dal i gwestiynu'r adroddiadau, yr ofergoelion a'r dryswch ynglyn â stori'r drychneb. Serch hynny, mae'r hanesion hyn - tra'n ymateb i drawma a thrasiedi - wedi dod yn gofeb wirioneddol i'r glowyr a fu farw.

Llun o glo  gan Glofa'r Bers

Glo Olaf o Bwll Glo Gresffordd. Diolch i'r Daily Express, Manceinion am y llun

Yn olaf, efallai bod yr Ymchwiliad yn amhendant, ond mae pobl Wrecsam yn gwybod ar bwy mae'r bai am y drychineb.

"You have heard of the Gresford Disaster,
The terrible price that was paid,
Two hundred and sixty-two colliers were lost
And three of the rescue brigade.

Down there in the dark they are lying.
They died for nine shillings a day.
They've worked out their shift and it's now they must lie
In the darkness until Judgement day."

Darnau o Ballad of the Gresford Disaster

"Mae digon o dystiolaeth i ddangos bod perchnogion y pwll glo wedi dod i'r penderfyniad bwriadol na ddylid byth gwybod y rheswm am y ffrwydrad ac wedi selio'r ardal. Y peth lleiaf allwn ni ei wneud yn awr yw dweud y gwir wrth y rheini a ddioddefodd a'u teuluoedd."

Ted McKay, cyn Asiant Glowyr Gogledd Cymru, 2004