Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Adladd

Yn Ionawr 1937 cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad i'r Senedd. Mewn gwirionedd, roedd tri adroddiad gan nad oedd y naill asesydd na'r llall yn cytuno gyda darganfyddiadau Syr Henry Walker.

Ysgrifennodd Syr Henry ei gasgliadau mewn iaith ofalus. Dywedodd ei bod yn amhosibl gwybod lleoliad ac achos y ffrwydrad heb fynd i mewn i adran Dennis. Roedd yn amau tanio siot yn yr ardal o gwmpas llwybr awyr 24s ac yr ardal 95s. Roedd awyriad annigonol yn y pwll glo. Roedd ardaloedd 95s, 14s a 29s yn beryglus ac roedd y rheolwyr a'r arolygwyr wedi methu yn eu dyletswyddau. Serch hynny, nid oedd yn pwyntio bys.

"I look with grave suspicion upon the circumstances existing in connexion with 24s airway in 95s district."

Sir Henry Walker, Prif Arolygydd Pyllau Glo

Roedd John Brass, enwebai'r perchennog, yn anghytuno. Roedd y perchnogion, er gwaethaf y problemau a achoswyd gan ddaeareg y pwll, wedi gwneud eu gorau o ran awyriad. Roedd swyddogion y pwll glo yn gydwybodol ac roedd tystiolaeth y glowyr yn annibynadwy. Damcaniaeth Brass oedd bod ffôn diffygiol wedi sbarcio ffrwydrad llosgnwy yn 'Y Clutch'. Roedd y tân a ddeilliodd wrth dro 29s (gweler cynllun) wedi achosi colli bywyd. Beiodd hyn ar ddiffyg offer ymladd tân priodol yn y pwll glo.

Llun o Atodiad Adroddiad yr Ymchwiliad.

Atodiad i Adroddiad yr Ymchwiliad. Cyhoeddodd y Wrexham Leader yr atodiad hwn sy'n cynnwys fersiwn darllenadwy o ganfyddiadau'r adroddiad.
© The Wrexham Leader

Anghytunodd Joseph Jones, enwebai'r glowyr, gyda John Brass ar bron bopeth. Yn ei farn ef, yr awyriad gwael a diwylliant y rheolwyr o allbwn cyn popeth arall oedd y rheswm pam fod y pwll mor anniogel. Roedd llosgnwy wedi cronni i lefelau anniogel yn ardal 14s. Digwyddodd y ffrwydrad yno ac roedd yn ddigon mawr i effeithio'r cyfan o adran Dennis. Galwodd am gyhuddiadau troseddol yn erbyn Bonsall a chwmni'r pwll glo.

"The top end 14s cannot be described except as a place of great danger, pregnant with possibilities for ignition."

Joseph Jones

Ni fodlonodd yr adroddiad lawer a geisiodd gyfiawnder ar ran y glowyr, ond ni fyddai'r llysoedd yn gwneud hynny 'chwaith. Yn Ebrill 1937 yn Llys y Sesiwn Fach Wrecsam, cyflwynwyd 42 cyhuddiad yn erbyn cwmni'r pwll glo, y rheolwr a'r swyddogion. Yn y diwedd, cafodd y rhan fwyaf eu tynnu'n ôl neu eu dileu. Collfarnwyd William Bonsall ar wyth cyhuddiad o dorri cyfraith digoelwch mwyngloddio. Cafodd ddirwy o £140 gyda £350 mewn costau.

Trafododd y Senedd gynnig yn galw am welliannau i amodau gwaith yn y pyllau glo. Galwodd Syr Stafford am lawer mwy: gwladoli'r diwydiant.