Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Pobl Enwog

 

Llun o Watkin Williams WynnY Teulu Williams Wynn

Enillodd y teulu Williams Wynn yr ystad yn 1718 ac ychwanegodd Syr William Williams o Lanforda fel yr oedd bryd hynny, ail farwnig, y cyfenw Wynn ar ôl etifeddu'r ystad o Syr John Wynn o Wydir. Roedd Syr Watkin Williams Wynn, trydydd barwnig, yn AS ar gyfer Sir Ddinbych 1716-1741. Roedd yn un o brif gefnogwyr yr achos Jacobaidd yng Ngogledd Cymru. Bu farw o ganlyniad i gwympo o'i geffyl tra'n hela ym Mharc Acton. Fe'i olynwyd gan ei fab, Syr Watkin Williams Wynn, pedwerydd barwnig yn 1749. Unwaith eto, roedd Syr Watkin yn AS ar gyfer Sir Ddinbych o 1774 i 1789.

Mae'n cael ei gofio'n bennaf fel noddwr celfyddydau cain. Ganwyd Syr Watkin Williams Wynn, y pumed barwnig, yn 1772 a bu farw yn 1840. Etifeddodd ystad Wynnstay yn 1789 yn 17 oed. Roedd yn AS yn Sir Ddinbych o 1796 i 1840 ac yn Arglwydd Raglaw yn Siroedd Meirionnydd a Dinbych. Roedd ganddo fwy o ddiddordeb mewn materion milwrol na gwleidyddol. Trefnodd gatrawd o farchfilwyr yn 1794, sef yr Hen Amddiffynwyr Prydeinig, a gymerodd ran yn atal y gwrthryfel Gwyddelig. Fe'i olynwyd gan ei fab, Syr Watkin Williams Wynn, y chweched barwnig, a anwyd yn 1820 ac a fu farw yn 1885.

Dychwelyd i'r mynegai

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint