Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Pobl Enwog

 

Llun o  ErddigY Teulu Yorke

Yn 1973, rhoddodd Philip Yorke, Yswain olaf Erddig, y ty a'r ystad i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol oherwydd na briododd Philip na'i frawd Simon ac felly nid oedd unrhyw etifeddion uniongyrchol.

Ganwyd Philip Yorke yn 1905 yn ail fab i Philip Yorke a'i ail wraig, Louisa. Ei frawd, Simon, a anwyd yn 1903, oedd yr etifedd. Ganwyd ei dad, Philip, yn 1849, mab i Simon a Victoria Yorke. Roedd Philip yn Faer Wrecsam yn 1896-7. Pan fu farw eu tad, Philip yr hynaf, yn 1922 dechreuodd yr ystad ddirywio. Dechreuodd incwm o'r ystad, a oedd erioed wedi bod yn uchel, ddirywio a gorfu i'r staff adael. Dechreuodd y ty ddirywio. Achosodd problemau cloddio ym mhwll Y Bers y ty i suddo mwy ar un ochr na'r ochr arall. Daeth Simon yn enciliol ac ni chafodd ymwelwyr, yn enwedig swyddogion, groeso ganddo. Fodd bynnag, golygodd na newidiwyd y ty, er iddo ddadfeilio. Etifeddodd Philip yr ystad yn 1966. Cyn hynny, roedd wedi byw o'r llaw i'r genau braidd. Roedd wedi bod yn actor/rheolwr; gweithredwr teithiau gwyliau. Mae'n cael ei gofio am deithio o gwmpas yr ardal ar ei feic peniffardding. Roedd y rhodd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn werth £3miliwn ond bu'r trafodaethau'n hirfaith. Bu farw Philip Yorke yn 1978.

Yr aelod pwysig arall o'r teulu oedd y Philip Yorke cyntaf. 1743-1804. Etifeddodd yr ystad o'i ewythr John Meller yn 1767. Cymerodd ran ym mywyd cymdeithasol a llywodraeth leol, yn enwedig y Fyddin Sir ac eisteddodd yn y Senedd dwywaith ar gyfer bwrdeistrefi poced. Ef oedd awdur 'Royal Tribes of Wales' a gyfunodd ei ymchwil achyddol a hynafiaethol. Mae ystafell yn Erddig sy'n dangos arfbeisiau prif deuluoedd Gogledd Cymru. Dechreuodd wella'r ystad, y t a'r ystafell fwyta lle roedd ei bortread yn un o'i welliannau.

Dychwelyd i'r mynegai

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint