Llun: University College, Prifysgol Durham, DU
Y Barnwr George Jeffreys
Ganwyd
George Jeffreys ym Mharc Acton yn 1648, yn fab i John Jeffreys a Margaret
Ireland. Roedd ei daid yn farnwr yng Ngogledd Cymru ac yn y diwedd penderfynodd
George ar yrfa yn y gyfraith er gwaethaf anghymeradwyaeth ei rieni. Cafodd
ei addysgu yn Amwythig a St Paul Westminster a Chaergrawnt. Dechreuodd
ei astudiaethau yn y Deml Fewnol yn 1663 ac roedd yn gweithredu fel adfocad
cyn iddo gael ei alw'n swyddogol i'r bar.
Penodwyd ef yn Brif Gyfreithiwr i Ddug Efrog, James II yn hwyrach, ac
fe'i urddwyd ef yn farchog yn 1677. Daeth yn gofiadur Llundain yn 1678.
Yn 33 oed, daeth yn Arglwydd Brif Ustus Lloegr ac yn gyfrin gynghorwr
a dwy flynedd yn ddiweddarach, yn Arglwydd Ganghellor. Yn 1683, fe'i wnaed
yn Farwn Jeffreys o Wem. Roedd yn adnabyddus fel y Barnwr Crogi oherwydd
y cosbau roedd yn arfer eu rhoi yn nhreialon cefnogwyr Dug Mynwy. Yn 1688,
pan ddihangodd James II o'r wlad, rhoddwyd Jeffreys yn Nhwr Llundain er
ei ddiogelwch ei hun. Bu farw yno y flwyddyn ganlynol o glefyd yr arennau.
Roedd yn 44 oed.
Dychwelyd i'r mynegai
|