Johnny Basham
Ganwyd
John Michael Basham yng Nghasnewydd yn 1890 a daeth i Wrecsam yn 1912
fel milwr yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Gwasanaethodd yn y Barics yn Wrecsam am sawl blwyddyn a chyrhaeddodd
reng uwch-siarsiant. Fodd bynnag, daeth yn enwog ymysg pobl Wrecsam oherwydd
ei yrfa paffio ac fe'i enwyd "The Happy Warrior". Cynhaliwyd llawer o'i
ornestau yn y Barics neu'r Neuadd Ymarferion yn Stryt Poyser.
Yn 1914, trechodd Johnny Summers am y teitl pwysau welter a ddaliodd
tan 1920. Yn 1916, Johnny oedd y Pencampwr Pwysau Welter cyntaf i ennill
y Gwregys Lonsdale newydd ac yn fuan ar ôl hynny enillodd y Bencampwriaeth
Ewropeaidd. Yn hwyrach, symudodd i'r Pwysau Canol a daeth yn Bencampwr
Ewrop unwaith eto yn 1921. Tra yn Wrecsam, roedd yn byw gyda'i deulu yn
Whitegate Road, yn agos i'r Barics a'i reolwr oedd yr Henadur William
Dodman. Yn ystod ei yrfa, cafodd 91 gornest broffesiynol, enillodd 68
ac roedd yn gyfartal yn 6 ohonynt. Bu farw yn 1947.
Dychwelyd i'r mynegai
|