Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Pobl Enwog

 

Llun o John WilkinsonJohn Wilkinson

Ganwyd John Wilkinson oddeutu 1728 yn Clifton, Cumberland. Roedd pawb yn ei adnabod fel "Iron-Mad Wilkinson". Roedd yn fab i Isaac Wilkinson, ffermwr a gweithiwr haearn. Yn hwyrach, symudodd y teulu i Backbarrow, ger Llyn Windermere lle roeddent yn gyfrifol am ffwrnais. Addysgwyd John yn y Dissenting Academy yn Kendal ac oddeutu 1748, daeth John o hyd i waith yng ngweithfeydd haearn Canolbarth Lloegr.

Prynodd y teulu Waith Haearn y Bers o'r teulu Lloyd yn 1753 ac roeddent yn byw ym Mhlas Grono, Erddig. Gweithiwyd y gwaith haearn gan lo i ddechrau ond roedd y canlyniadau'n wael ond perffeithiodd Abraham Darby o Ironbridge y defnydd o lo dros olosg ac fe ddefnyddiwyd hyn yn Y Bers yn hwyrach. Yn 1762, cymerodd John a'i frawd gyfrifoldeb dros y gwaith haearn afiach a'i droi i mewn i fusnes llwyddiannus iawn. Yn 1774, gofynnodd am batent ar gyfer tyllu canonau a dywedwyd ei fod wedi cyflenwi canon ar gyfer y ddwy ochr yn Rhyfel Annibyniaeth America. Yn ogystal, cynhyrchodd mwyafrif y silindrau ar gyfer peiriannau ager enwog Bolton a Watt. Roedd yn hapddaliwr yng Nghamlas Ellesmere ac ail-agorodd byllau plwm Mwynglawdd ac eraill ger Yr Wyddgrug.

Yn 1792 prynodd Ystad Brymbo lle sefydlodd ffwrneisi chwyth. Ef oedd Uchel-Siryf Sir Ddinbych yn 1799. Bu farw ym Mhlas Brymbo ar 14 Gorffennaf 1808 ond fe'i gladdwyd yng Nghymbria mewn arch haearn. Roedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r gwyddonydd, Joseph Priestley. Bu dadlau ynghylch ei ystad ar ôl iddo farw ac aeth lawer o'i gyfoeth mewn cyfreithiad rhwng ei nai, Thomas Jones, a'i feistres a'i 4 plentyn. Roedd gwaith Y Bers yn wag o fewn 20 mlynedd. Daethpwyd â gwaith Brymbo allan o siawnsri yn 1841 a ffurfiwyd cwmni cyfyngedig newydd.

Dychwelyd i'r mynegai

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint