Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Pobl Enwog

 

Llun o Charles Harold DoddC H Dodd

Ganed Charles Harold Dodd yn Wrecsam ar 7 Ebrill 1884, mab hynaf Charles Dodd, meistr ysgol lleol a brawd Arthur Herbert Dodd. Mae Dodd wedi cael ei ddisgrifio fel ysgolor Testament Newydd Prydeinig mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Dechreuodd ei addysg yn Wrecsam ac aeth i astudio'r Clasuron yn University College, Rhydychen. Ar ôl graddio, penodwyd ef i sawl swydd academaidd ac am gyfnod roedd yn Weinidog Annibynnol neu Gynulleidfaol yn Warwick.

Yn 1930, daeth yn Athro Rylands o Feirniadaeth ac Esboniad Beiblaidd ym Manceinion lle bu tan 1935. Etholwyd ef i Gadair Diwinyddiaeth Norris Hulse yng Nghaergrawnt fel yr Athro Diwinyddiaeth cyntaf yn y ddwy brifysgol nad oedd yn Anglicanwr. Yn 1936, etholwyd ef yn gymrawd o Jesus College a daeth yn gymrawd mygedol ar ôl iddo ymddeol o'r gadair yn 1949. Derbyniodd sawl cymrodoriaeth a graddau mygedol a chyhoeddodd sawl llyfr ac erthygl ar astudiaeth feiblaidd. Mae'n cael ei nodi fel Cyfarwyddwr Cyffredinol cyfieithiad y Beibl Saesneg newydd. Am ei waith ar y prosiect, fe'i wnaed yn Gyfaill Anrhydedd yn 1961. Gwnaed ef yn rhyddfreiniwr Bwrdeistref Wrecsam yn 1963. Bu fawr ar 25 Medi 1973.

Dychwelyd i'r mynegai

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint