A N Palmer
Ganed
Alfred Neobard Palmer yn Thetford, Norfolk ar 10 Gorffennaf 1847. Cafodd
ei addysg yn Ysgol Ramadeg Thetford a hyfforddodd fel fferyllydd yn hwyrach.
Yn 1880, symudodd i Wrecsam ac fe'i gyflogwyd yng ngwaith mwnau Zoedone
yn Wrecsam. Yn 1884, penodwyd ef yn brif fferyllydd yng Nghwmni Gwaith
Dur Brymbo ond bu raid iddo roi'r gorau i'r swydd yn 1886 pan chwalodd
ei nerfau. Sefydlodd ei hun fel fferyllydd dadansoddol yn Stryt Caer.
Ymddeolodd oherwydd afiechyd ac yn ystod yr adeg hwn ymroddodd ei hun
i ymchwil hanesyddol lleol.
Cyhoeddodd 10 llyfr ar hanes lleol yr ardal, y rhai mwyaf nodedig oedd
The History of Wrexham, History of the thirteen country townships, History
of Gresford, History of the parish church of Wrexham. Mae ei ymchwil wedi
ei chofnodi mewn cyfres o lyfrau nodiadau a dyddiaduron sydd ar gael ar
microfiche. Yn ogystal, gwnaeth y gwaith maes ar gyfer tair chyfrol o'r
Royal Commission on Ancient a Historical Monuments of Wales. Yn 1905 derbyniodd
bensiwn brenhinol. Bu farw ar 7 Mawrth 1915 yn Wrecsam ac fe'i gladdwyd
ym Mynwent Wrecsam ar Ffordd Rhiwabon. Mae plac coffa iddo yng nghyntedd
Llyfrgell Wrecsam.
Cysylltiadau i Canolfan A.N. Palmer Centre
am Astudiaethau Lleol a Archifau >>
Dychwelyd i'r mynegai
|