Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Digwyddiadau i Blant

 

Ar gyfer holl weithgareddau plant, ffoniwch 01978 317 970 a chadw lle o flaen i fod yn siŵr.

Milwyr Tegan

Hyd 1af Medi 2008

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Lluniwch eich milwyr tegan hanesyddol eich hun yn y gweithgaredd hwn yn yr oriel ar gyfer plant 7-11 oed. AM DDIM. Croesewir cyfraniadau.

Llwybr Fforio’r Pobl Ifanc

17eg Gorffennaf –1af Medi 2008

Lleoliad: Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Byddwch yn barod i archwilio Pyllau Plwm y Mwynglawdd gyda’n llwybr gweithgareddau i blant. Dechreuwch y llwybr yn y ganolfan ymwelwyr.

Arian Arbenigwyr

4ydd Awst –1af Medi 2008

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Rhowch gynnig ar wneud arian, ysbrydolwyd gan docynnau John Wilkinson. Addas ar gyfer plant 5-11 oed. AM DDIM

Dychweliad Adeiladwyr y Beddrodau

Dydd Sadwrn 4ydd Hydref 2008, 11.00am – 3.00pm

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Teithiwch yn ôl chwe mil o flynyddoedd. Ardystiwch sgiliau ein cyndadau. Dewch i drin y taclau y gwnaethant eu defnyddio. Addas ar gyfer oedolion a phlant. AM DDIM.

Ar y cyd â Chelfyddydau Hynafol.

Y Darlun Mawr

Dydd Sadwrn 11eg Hydref 2008, 11am – 3pm

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Dewch i ganfod eich ochr artistig. Galwch heibio’r amgueddfa a gadewch i’ch dychymyg grwydro. Bydd yr artist lleol Andy Leigh, wrth law i helpu plant ac oedolion. AM DDIM.

Llwybr yr Hynafiaid

25ain Hydref – 1af Tachwedd 2008

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Dilynwch y llwybr o amgylch arddangosfa Adeiladwyr y Beddrodau. Addas ar gyfer plant 7-11 oed. AM DDIM.

Storïau Arswyd

Dydd Gwener 31ain Hydref 2008, 6.00 - 7.00pm

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Gwrandewch ar y storïau arswyd yn y Canolfan Dreftadaeth sydd ag ysbryd. Bydd gwobrau am y wisg Noson Galan Gaeaf orau. Addas ar gyfer plant sy’n 5-11 oed. AM DDIM.

Y Meddwl sy’n Cyfrif

1af – 23ain Rhagfyr 2008

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Gweithgaredd yn yr oriel ar gyfer plant – lluniwch eich cerdyn Nadolig eich hun wedi ei ysbrydoli gan ffenestri lliw Wrecsam. AM DDIM

Arian Arbenigwyr

4ydd– 19eg Ebrill 2009 (Hefyd ar gael ar 23ain – 31ain Mai 2009)

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Rhowch gynnig ar wneud arian, ysbrydolwyd gan John Wilkinson. Addas ar gyfer plant 5-11 oed. AM DDIM

Storïau o’r Dyfnderoedd

15fed Ebrill 2009, 10.30am – 12.30pm

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Ydych chi’n mwynhau adrodd storïau? Ydych chi’n hoff o ddefnyddio eich dychymyg? Cymerwch ran yn y gweithdy ysgrifennu creadigol hwn ar gyfer plant 7-11 oed. Lleoedd yn gyfyngedig - Rhaid neilltuo lle. AM DDIM.

Deinasoriaid yn eich Gardd

Mai 5ed – Gorffennaf 5ed 2009

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

A chwithau’n meddwl bod deinasoriaid yn ddiflanedig - meddyliwch eto. Maent yn byw yn eich gardd. Mae’r arddangosfa deithiol hon o Adran Ddaearegol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn archwilio’r cysylltiadau rhwng deinasoriaid ac adar cyfoes.

Ar y cyd ag Amgueddfa Cymru

Llwyau Caru i Gariadon

Dydd Sadwrn 24ain Ionawr 2009, 11.00am-12.30pm & 1.30pm-2.30pm

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Bydd Ted McKay yn arddangos y grefft draddodiadol o wneud llwyau caru ac yn esbonio’r symbolau y tu ôl i bob llwy.

Hwyl â Ffosilau

14eg – 21ain Chwefror 2009

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Llwybr i blant yn archwilio planhigion a ffosilau yn yr arddangosfa ‘O Lo i Garnasiwn.’ Addas ar gyfer plant 7-11 oed. AM DDIM.

Ffosilau Ffantastig

Dydd Mercher 18fed Chwefror 2009, 10.30am – 1.00pm

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Digwyddiad arbennig i bawb sy’n hoff o ffosilau. Dewch â’ch ffosilau draw i gael eu nodi a’u dangos i bobl eraill. AM DDIM.

Chwedlau o Gymru

Dydd Iau 19eg Chwefror 2009, 10.30am – 12noon

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Adrodd storïau i blant 7-11 oed wedi ei ysbrydoli gan chwedlau a hanes Cymru. AM DDIM.

Hwyl â Ffosilau

4ydd - 18fed Ebrill 2009

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Llwybr i blant fforio planhigion a ffosilau yn arddangosfa ‘O lo i Garnasiwns’. Addas ar gyfer plant 7-11. AM DDIM.

Bocsys wyau gWYch

Dydd Mawrth 7fed Ebrill 2009, 10.30am – 12noon

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Gwnewch focs wyau arbennig ar gyfer unigolyn arbennig iawn! Addas ar gyfer plant 7-11 oed. Cost: £1

Cerrig Milltir: Duwiau a Dynion

Dydd Iau 16eg Ebrill 2009, 10.30am – 12.30pm

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Gwneud mosaic mewn gweithdy celf a ysbrydolwyd gan y Rhufeiniaid. Addas ar gyfer 7 – 11 oed. Cost: £2

Dinomodelau

5ed – 30ain Mai 2009

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Lluniwch fodelau eich hunan o ddeinasoriaid a ysbrydolir gan arddangosfa ‘Deinasoriaid yn eich Gardd.’ Addas ar gyfer plant 6-12. AM DDIM. Croesewir cyfraniadau.

Dilyn y Deinasoriaid

5ed Mai – Gorffennaf 5ed 2009

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Dewch i gasglu eich copi arbennig o lyfryn gweithgareddau deinasoriaid i blant. Mae’n llawn ffeithiau, posau a phethau i’w gwneud. AM DDIM. Croesewir cyfraniadau.

Rhufeiniaid a’i Rhyfeddod

Dydd Sadwrn 30ain Mai 2009, 11.00am – 3.00pm

Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam

Mae’r lleng Rhufeinig yn dod i Wrecsam ond ni fyddant yn cymryd carcharorion. Dewch i’r amgueddfa am eich bywyd.

Ar y cyd â Romans Tours Ltd a Deva Victrix, y gymdeithas ail-berfformiadau Rhufeinig o Gaer.

Glowyr a Goreuyddion

16eg Gorffennaf –31ain Awst 2009

Lleoliad: Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Newydd ar gyfer 2009: Daw Pyllau Plwm y Mwynglawdd yn fyw gyda’n gweithgareddau ymarferol newydd i ymwelwyr iau. Gofynnwch am fanylion yn y ganolfan ymwelwyr.

Y Dyfeisiwr Medrus

Dydd Sul 26ain Gorffennaf 2009, 11.00 – 12.30pm

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Newidiodd John Wilkinson, y dyfeisiwr a oedd yn hurt am haearn hanes gyda’i ddyfeisiadau. Roedd ganddo hefyd fywyd preifat cyffrous. Dysgwch am ei stori yn y daith dywysedig newydd hon o amylch ei waith dur. Edrychwch allan am ymddangosiadau gan Mrs Wilkinson ac Anne, ei feistres! Lleoedd cyfyngedig. Oedolion yn unig. Mae’r daith yn dechrau yn y Ganolfen Dreftadaeth. AM DDIM.

Hanes Byw!

Dydd Sul 2il Awst 2009

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Edrychwch allan am ddigwyddiad hanes byw Wrecsam i’r teulu cyfan.

Storïau Arswyd

Dydd Sadwrn 31ain Hydref 2009, 6.00 - 7.00pm

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Gwrandewch ar storïau arswyd mewn Canolfan Dreftadaeth sydd ag ysbryd. Bydd gwobrau am y wisg Noson Galan Gaeaf orau. Addas ar gyfer plant sy’n 5-11 oed. AM DDIM.

For all children’s events, please phone 01978 317 970 and book ahead to guarantee a place

Ar gyfer pob digwyddiad i blant, ffoniwch 01978 317 970 i neilltuo o flaen llaw a sicrhau lle.

- Amgueddfa Wrecsam

Look out for changes in the galleries: new displays on the themes of 'Home Life' and 'Work Life'

Cadwch olwg allan am newidiadau yn yr orielau: arddangosfeydd newydd ar y themâu 'Bywyd yn y Cartref' a 'Bywyd yn y Gwaith'.

- Amgueddfa Wrecsam

Er ein bod wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod y wybodaeth sydd yn y raglen hon yn gywir adeg ei gyhoeddiad, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fod yn gyfrifol am unrhyw newidiadau, camgymeriadau neu esgeulustra

Digwyddiadau i Blant

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint