Arddangosfeydd a Digwyddiadau

Arddangosfeydd, gweithdai i blant, teithiau tywysedig, gweithgareddau teuluol, darlithiau… mae’na rhywbeth i bawb.

Ar gyfer holl weithgareddau plant, ffoniwch 01978 318 970 a chadw lle o flaen i fod yn siÿr.

Arddangosfeydd Dros Dro

Casgliad Lager Wrecsam
Ebrill 9fed – Hydref 31ain 2010

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Rhoddodd Lager Wrecsam y dref ar y map. Mae’r arddangosfa fach hon yn dangos arteffactau cysylltiedig â bragdy hanesyddol Lager Wrecsam a gaeodd yn 2000.

Prosiect Treftadaeth Gymunedol Wrecsam
Ebrill 9fed – Hydref 31ain 2010

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Cadw ar y blaen i’r gwaith datblygu sy’n digwydd yn eich amgueddfa leol. Mae’r arddangosfa hon yn cynnig cyfle i chi gyfrannu’ch syniadau ar beth ddylai gael ei arddangos yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.


Arddangosfeydd Parhaus

Diwydiant y Dyn Haearn: John Wilkinson, Cymru a’r Byd

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

John Wilkinson was a pioneer of the Industrial Revolution and Bersham was the site of his greatest achievements. In this exhibition you can find out about his inventions, why it all happened here and enjoy the many stories, both fact and fiction, involving Wilkinson and his workforce.

Miniog Fel Dur, Caled Fel Haearn: Stori Brymbo

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Roedd John Wilkinson yn arloeswr y Chwyldro Diwydiannol a’r Bers oedd safle ei lwyddiannau mwyaf. Yn yr arddangosfa hon gallwch ddod i wybod am ei ddyfeisiadau, pam y gwnaethant ddigwydd yn y fan hon a mwynhau sawl stori arall boed yn ffeithiol neu’n ffuglen am Wilkinson a’i weithlu.

yn ôl i'r brig


Digwyddiadau

Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-lein
Dydd Sadwrn 31 Gorffennaf, 10.30 y bore – 4 y prynhawn

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

Mae Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-lein yn brosiect i gasglu defnyddiau o bob rhan o Gymru sy’n ymwneud â phrofiadau’r Cymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a rhannu’r wybodaeth honno â’r cyhoedd.

Mae diddordeb gennym mewn unrhyw ddeunydd o’r cyfnod sy’n ymwneud â phrofiadau’r Cymry yn y Rhyfel Mawr – e.e. dyddiaduron, llythyrau neu ffotograffau – ac hefyd mewn straeon am y rhyfel a ddiogelwyd gan deuluoedd.

Os oes gennych unrhyw ddeunydd o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf yn eich atig, neu atgofion teuluol am brofiadau eich cyndeidiau, yna dewch i’w rhannu â ni.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y prosiect – www.rhyfelmawr.com

Trefnir Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-lein gan Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd, ac fe’i hariannir gan JISC.

Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-lein

Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-lein - Fersiwn PDF 3.5Mb

Hanes Byw!!
Dydd Sul 1af Awst 2010 canol dydd – 4.00pm

Lleoliad: Gwaith Haearn Y Bers

Bydd gÿyl flynyddol hanes byw Wrecsam yng Ngwaith Haearn y Bers yn cynnwys grÿp lleol ailgreu hanes Rhufeunig, Teithiau Rhufeinig; ceir a beiciau modur hen, o dras a chlasurol, diddanwyr teuluol a llawer mwy. Pris: Oedolion £2, Consesiynau £1.50 a Phlant 50c.

Mwy am Hanes Byw!! – Gŵyl hanes byw ddiweddaraf Wrecsam – dydd Sul 1af Awst 2010

yn ôl i'r brig


Gwasanaethau Treftadaeth Wrecsam Rhaglen

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y ffornat isod:

Gwasanaethau Treftadaeth Wrecsam Rhaglen 2010 - Fersiwn PDF 1.2Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

yn ôl i'r brig