Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Ffair Fictoraidd i nodi 150 mlynedd ers caniatáu statws bwrdeistref i Wrecsam

 

Ffair Fictoraidd ar ddydd Sadwrn 23ain Mehefin 2007

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dathlu 150 mlynedd ers derbyn Siarter Brenhinol a greoedd bwrdeistref Wrecsam drwy gynnal Ffair Fictoraidd ar ddydd Sadwrn 23ain Mehefin 2007.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys ystod eang o weithgareddau a fyddai wedi bod yn boblogaidd yn oes Fictoria.  Bydd sgwrs â chymeriad Fictoraidd, cyfle i roi cynnig ar grefft Fictoraidd megis decoupage, a gwylio sioe hudlusernau.

Bydd awyrgylch garddwest Fictoraidd yn cael ei ail-greu ar Llwyn Isaf, gyda pherfformiadau o safle’r seindorf drwy’r dydd, pabell luniaeth a gemau Fictoraidd traddodiadol i’r plant chwarae.  Gellwch hefyd weld atgynhyrchiad o falwn aer poeth Montgolfier er mwyn darganfod am pa mor galed oedd hedfan yn oes Fictoria.

Yn ogystal ag adloniant ac arddangosfeydd bydd amryw o stondinau marchnad ar Sgwâr y Frenhines yn gwerthu bwyd a chrefftau.

Bydd Hysbys y BBC hefyd yn bresennol i gofnodi profiadau pobl o’r digwyddiad a gellwch ganfod mwy am hanes eich ardal gan un o’r llu o grwpiau hanes lleol yn y Fwrdeistref Sirol.

Dywedodd Alan Watkin, Prif Swyddog Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant "Gobeithiwn y daw llawer o bobl i’r dref ar y diwrnod arbennig hwn i Wrecsam.  Rydym wedi neilltuo bob math o gymeriadau ac atyniadau diddorol felly bydd digon i’w weld a’i wneud - gellwch wylio sioe Pwnsh a Jiwdi , profi eich sgiliau wrth daflu cnau cocos, eistedd ar gefn beic peni-ffarddin a chael tynnu eich llun arno (os ydych yn ddigon ystwyth i ddringo i’r set), gwylio crefftwyr Fictoraidd wrth eu gwaith a llawer, llawer mwy."

Cynhelir y Ffair Fictoraidd rhwng 11am a 4pm ddydd Sadwrn 23ain Mehefin a bydd yn cael ei agor yn swyddogol am 11am gan Faer Anrhydeddus Wrecsam, y Cynghorydd Mrs Joan Lowe.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Hazel Hawarden, Swyddog Diwylliant a Threftadaeth yr Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant ar 01978 297440 neu Kay Rickard, Cydlynydd y Tîm Digwyddiadau, Adran Datblygiad Economaidd ar 2929536 tourism@wrexham.gov.uk.

Digwyddiadau eraill yn y rhaglen i ddathlu 150 mlynedd

  • Ymunwch â’r gwasanaeth dinesig a gynhelir yn Eglwys Blwyf San Silyn am 3pm ddydd Sul 24 Mehefin.
  • ‘Newid Oes, Newid Lle’, arddangosfa gan Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n dangos sut mae bywyd wedi newid dros y 150 mlynedd ers i Wrecsam ddod yn fwrdeistref. Ar agor o 23 Ebrill i 7 Gorffennaf: 10.00am i 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 10.30am i 3.00pm ar ddydd Sadwrn. Mynediad am ddim.
  • ‘Cadwyni Aur’, gweithgaredd gwyliau i blant sy’n 5-9 oed i wneud cadwyn aur fawr. 10.30am hyd 12 canol dydd yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cost £2 y plentyn.

Cefndir Hanesyddol

Cafodd y Siarter Brenhinol i greu bwrdeistref Wrecsam ei ganiatáu ar 13eg Mai a daeth i rym ar 23ain Medi 1857. Roedd y fwrdeistref newydd yn cynnwys pob trefgordd, gan gynnwys Llys Wrecsam ac Abad Wrecsam yn ogystal â rhan fechan o Eclusham Isaf.  Cynhaliwyd etholiadau ar 5 Tachwedd a bu i’r cyngor newydd gyfarfod gyntaf ar 9 Tachwedd.  Bu i’r 12 cynghorydd a’r pedwar henadur ethol Thomas Edgworth yn faer.

Ar 1 Ebrill 1935 ymestynnwyd ffiniau’r fwrdeistref i gynnwys Acton, Stansty, a rhannau o blwyfi Gwersyllt, Broughton a’r Bers.

David Higgins, Rhingyll y Byrllysg. Higgins oedd y byrllysgwr cyntaf a benodwyd yng Nghyngor y Fwrdeistref. Ef oedd Arolygydd Niwsans cyntaf y Cyngor hefyd (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y 19eg ganrif) a'r Arolygydd Lletyau Cyffredin cyntaf.


Rhoddodd Cyngor y Fwrdeistref Ryddid y Fwrdeistref am y tro cyntaf yn 1906. Yn draddodiadol, rhoddwyd Rhyddid y Fwrdeistref i'r rheiny a oedd wedi gwasanaethu'r Fwrdeistref yn dda. Yn 1923, rhoddodd y Cyngor y rhyddid i David Lloyd George, cyn Brif Weinidog a Changhellor y Trysorlys.


Cyfunwyd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a Chyngor Dosbarth Gwledig Wrecsam yn 1974 i greu Cyngor Bwrdeistref Maelor Wrecsam ac yn 1996 crëwyd y Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam presennol.

Maeryddiaeth | Amgueddfa Wrecsam

 
English
 

Cyswllt i

Beth Sy'n Digwydd
Digwyddiadau Canol Tref Wrecsam
Ymweld a Wrecsam
Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint