Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Beth sydd yn eich bin sbwriel?

 

Yn genedlaethol, mae gwastraff y cartref yn cynnwys nifer o wahanol ddeunyddiau.  Mae'r tablau canlynol yn dangos sut y gall trigolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam gael gwared ar y deunyddiau hyn trwy'r cynllun Ailgylchu gyda Michael.  (Cymerwyd y canrannau gwastraff o wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig [DEFRA]).

Mae'r tablau'n dangos pa mor hawdd yw ailgylchu bron i hanner y gwastraff o'ch cartref trwy ddefnyddio'r cynllun Ailgylchu gyda Michael a hyd at 82% o wastraff os byddwch yn compostio gartref ac yn defnyddio canolfannau ailgylchu hefyd.  Mae cyfleusterau ailgylchu gwell yn golygu bod llai o wastraff yn cael ei daflu i ffwrdd a bod casglu biniau du bob yn ail wythnos yn hen ddigon ar gyfer gwastraff teulu.

Tabl 1. Preswylwyr sy’n defnyddio’r blwch/sach werdd a’r bin gwastraff gwyrdd yn unig

Deunydd gwastraff Blwch/ sach werdd Bin gwyrdd Bin du Cyfanswm cronnus ailgylchadwy
Gwastraff gerddi   20%   20%
Papur 11%     31%
Cardbord     7%  
Gwastraff o'r gegin (ond y gellir ei gompostio)     17%  
Gwastraff cyffredinol amrywiol     9%  
Gwydr 7%     38%
Metel gwastraff/nwyddau gwyn (gellir ailgylchu hen offer trydanol ac electronig mewn canolfannau ailgylchu gwastraff o'r cartref)     5%  
Pren     5%  
Plastig trwchus 4%     42%
Ffilm plastig     3%  
Tecstilau     3%  
Pecynnau metel 3%     45%
Clytiau     2%  
Pridd     3%  
Cyfanswm: 25% 20% 55% 45%

Tabl 2. Preswylwyr sy’n defnyddio blwch/sach werdd, bin gwastraff gwyrdd, compostio gartref ac yn dod i safleoedd ailgylchu

Deunydd gwastraff Blwch/ sach werdd Bin gwyrdd Bin du Yn ailgylchadwy mewn safleoedd neu y gellir ei gompostio gartref Cyfanswm cronnus ailgylchadwy
Gwastraff gerddi   20%     20%
Papur 11%       31%
Cardbord       7% 38%
Gwastraff o'r gegin (ond y gellir ei gompostio)       17% 55%
Gwastraff cyffredinol amrywiol     9%    
Gwydr 7%       62%
Metel gwastraff/nwyddau gwyn (gellir ailgylchu hen offer trydanol ac electronig mewn canolfannau ailgylchu gwastraff o'r cartref)       5% 67%
Pren       5% 72%
Plastig trwchus 4%       76%
Ffilm plastig     4%    
Tecstilau       3% 79%
Pecynnau metel 3%       82%
Clytiau     2%    
Pridd     3%    
Cyfanswm:     18%   82%

Acronymau a ddefnyddir yn y tablau uchod

Offer gwastraff trydanol ac electronig (WEEE)

Canolfannau ailgylchu 

Defnyddiwch y Canolfannau Ailgylchu Cymunedol i ailgylchu cardbord gan gynnwys bocsys grawnfwydydd, cyfeirlyfr ffôn Yellow Pages a phapur lapio.  Dewch o hyd i'ch canolfan ailgylchu cymunedol agosaf.

Casgliadau wythnosol

Gall trigolion ailgylchu o leiaf 45% o'r gwastraff o'u cartrefi trwy ddefnyddio'r cynllun Ailgylchu gyda Michael.  Mae'r blychau gwyrdd sy'n cynnwys deunyddiau sych y gellir eu hailgylchu fel caniau bwyd a diod wedi'u golchi a'u gwasgu, poteli plastig a chynhwysyddion gwydr yn cael eu casglu bob wythnos ynghyd â'r sachau gwyrdd y gellir eu hailddefnyddio sy'n cynnwys papurau newydd, cylchgronau, llyfrau ffôn gwyn a llythyrau sgrwtsh.

Bydd y biniau du ar gyfer gwastraff cyffredinol yn cael eu casglu bob yn ail wythnos ynghyd â'r biniau gwyrdd ar gyfer gwastraff gerddi.  Felly, bydd pob tŷ sy'n rhan o'r cynllun Ailgylchu gyda Michael yn cael dau gasgliad bob wythnos – y blychau ailgylchu ac un bin, naill ai'r un du neu'r un gwyrdd.

Gall trigolion sy'n compostio gartref ac yn defnyddio canolfannau ailgylchu yn ogystal â'u casgliadau oddi ar y pafin ailgylchu HYD AT 82% o'r gwastraff o'u cartrefi.

Mae cyfleusterau ailgylchu gwell yn golygu bod llai o wastraff yn cael ei daflu i ffwrdd a bod casglu biniau du bob yn ail wythnos yn hen ddigon ar gyfer gwastraff teulu.

Cyswllt

Llinell Gymorth Ailgylchu: 01978 292085
Ebost: recycling@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Ailgylchu
Canllaw i'ch Gwasanaeth Casglu Gwastraff Newydd
Deunyddiau Y Gellir Eu Hailgylchu
Rhai Syniadau
Beth sydd yn eich bin sbwriel?
Gwybodaeth Mwy
Calendr
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint