Pa ddiwrnod yw fy Niwrnod Bin?
Croeso i'r dudalen lle gallwch ddod o hyd i'ch diwrnod bin, os ydych yn un o drigolion Wrecsam neu yn gwsmer gwastraff masnachol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Bydd y canlyniadau’n cael eu harddangos ar fap, ac yn dangos pa ddiwrnod o’r wythnos y mae eich biniau a chynhwysion ailgylchu’n cael eu gwagio (gweler yr allwedd isod).
Ddim yn siŵr o’ch cod post?
Os nad ydych yn gwybod eich cod post, cliciwch yma i ddod o hyd i’ch eiddo.
Allwedd i'ch diwrnod casglu bin newydd
gwyrdd = dydd Llun
glas= dydd Mawrth
pinc= dydd Mercher
gwyrddlas= dydd Iau
coch = dydd Gwener.
Pa Galendr?
I gael hyd i’r calendr sy’n gymwys i chi, bydd rhaid ichi glicio ar eich eiddo gan ddefnyddio’r offeryn Cael Gwybodaeth , o’r bar offer (a leolir uwchben y map). Bydd manylion eich diwrnod casglu, a pha galendr sy’n gymwys yn cael eu harddangos ar ochr y map. Mae mwy o gyfarwyddiadau ar gael wrth glicio ar y tab help.
Mae Wrecsam yn casglu gwastraff gardd (mewn biniau gwyrdd) a gwastraff dros ben (mewn biniau llwyd, glas neu farŵn) bob yn ail wythnos.
Mae’r calendrau’n dangos pa wythnos sy’n wythnos gwastraff dros ben (a ddangosir yn binc ar y calendr) a pha wythnos yw wythnos casglu gwastraff gardd (a ddangosir mewn gwyrdd). Mae’r calendrau’n tynnu sylw hefyd at drefniadau casglu a ail-drefnwyd at gyfnodau gwyliau banc (gydag ymyl melyn).
Mwy o Wybodaeth
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Strydoedd o Fri 01978 298989, cysylltwch@wrexham.gov.uk
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
|