Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Tir Llygredig

 

Beth yw Llygru Tir?

Yn debyg i lawer o wledydd eraill, mae gan y Deyrnas Unedig etifeddiaeth o lygru tir yn deillio o weithgareddau dynol. Mae'r mwyafrif llethol o lygru tir yn un o ganlyniadau'r chwyldro diwydiannol ond, fodd bynnag, mae llygru yn dal i fodoli ers adeg y Rhufeiniaid ac mae "baw" o gloddfeydd plwm ac arian Rhufeinig i'w weld mewn llawer rhan o Ogledd Cymru.

Llun o Afon Llygredig

Gall llygru fod ar amryw ffurf, er enghraifft cemegion yn y pridd sy'n gallu effeithio yn eu tro ar blanhigion yn cael eu tyfu ar y tir a gollyngiadau i ddwr sy'n gallu gwneud y dwr yn anaddas i'w yfed.

Diffiniad Tir Llygredig (yn ôl Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 78A(2)) yw

"unrhyw dir sy'n ymddangos i'r awdurdod lleol sydd â'r tir yn ei ardal i fod yn y fath gyflwr, oherwydd sylweddau yn, ar neu o dan y tir, fel bod
a) niwed sylweddol yn cael ei achosi neu fod posibilrwydd sylweddol o niwed o'r fath gael ei achosi; neu
b) llygru dyfroedd rheoledig yn, neu yn debygol, o gael ei achosi."

Mae Rheoliadau Tir Llygredig (Cymru), 2001, o dan Ran IIA, yn amlinellu trefn newydd ar gyfer trin tir llygredig a bydd Adran Diogelu'r Cyhoedd yn ei orfodi yn Wrecsam. Y prif ddiben yw cael gwell cyfundrefn i ganfod ac adfer safleoedd lle mae llygru yn achosi perygl annerbyniol i iechyd dynol a/neu'r amgylchedd ehangach.

Asesu Perygl

O dan Ran IIA, bydd tir llygredig yn cael ei ddynodi gan ddefnyddio'r cysyniad asesu perygl '(difwynwr) ffynhonnell ? llwybr ? derbynnydd'. I benderfynu os oes perygl yn bod, rhaid dangos perthynas eglur rhwng y ffynhonnell, y llwybr a'r derbynnydd.

Er enghraifft:

  • Os oedd cemegion (ffynhonnell) yn bresennol o dan faes parcio concrid, ni fyddai pobl (derbynnydd) sy'n defnyddio'r maes parcio mewn perygl oddi wrth y cemegion oherwydd y byddai'r concrid yn gweithredu fel rhwystr amddiffynnol. I bob diben, ni fyddai llwybr yn bodoli.

  • Fodd bynnag, os oedd cemegion (ffynhonnell) yn bresennol mewn pridd a ddefnyddiwyd i dyfu llysiau, gallai pobl (derbynnydd) fyddai'n bwyta'r llysiau fod mewn perygl oherwydd y gallai'r llysiau (llwybr) fod yn llygredig. Byddai'r llysiau'n gweithredu fel llwybr yn trosglwyddo'r llygru o'r ffynhonnell i'r derbynnydd.

Addas i'w Ddefnyddio

Mae llawer o lygru tir wedi bod yn bresennol ers amser maith ac nid yw'n beryglus i bobl na'r amgylchedd. Felly nid yw adfer tir llygredig bob amser yn angenrheidiol. Mewn gwirionedd nid yw llygru tir yn creu problem heblaw pan: fydd y tir yn cael ei ddefnyddio at ddiben anaddas; a lle mae llygredd yn mudo ac yn effeithio'n sylweddol ar ddyfroedd rheoledig neu dir cyfagos a/neu dderbynyddion fel pobl ac anifeiliaid.

Talu am Ein Gorffennol

Mae'r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar holl awdurdodau lleol i archwilio tir yn eu hardaloedd i ganfod ac adfer safleoedd lle mae llygru yn achosi peryglon annerbyniol i iechyd dynol a/neu'r amgylchedd ehangach, gan ddefnyddio'r dull asesu perygl.

Llun o Afon Glanhau

Mae CBS Wrecsam yn cwblhau Strategaeth Archwilio ar hyn o bryd a fydd yn cael ei fabwysiadu'n ffurfiol yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn. Bydd y Strategaeth yn manylu ar y dulliau gweithredu a'r fframwaith i'w dilyn er mwyn canfod safleoedd Tir Llygredig yn nhrefn blaenoriaeth, a sicrhau eu bod yn cael eu hadfer i safon dderbyniol.

Adfer

Yn gyffredinol mae cyfrifoldeb dros dalu am adfer yn dilyn yr egwyddor 'llygrwr i dalu'. Yn y lle cyntaf, y rhai a achosodd neu a oddefodd yn fwriadol i'r sylwedd(au) llygrol fod yn, ar neu o dan y tir fydd y 'person(au) priodol' i wneud y gwaith adfer a thalu amdano (person(au) Dosbarth A).

Fodd bynnag, os nad oes modd dod o hyd i unrhyw berson o'r fath, bydd cyfrifoldeb fel arfer yn trosglwyddo i berchennog neu ddeiliad presennol y tir (person(au) Dosbarth B), ond mae nifer o eithriadau i'r cyfrifoldeb hwn. Lle bydd eithriad i berson(au) Dosbarth B bydd y safle yn dod yn Safle Amddifad a bydd y costau cysylltiedig yn cael eu dwyn gan CBS Wrecsam neu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (yn dibynnu ar y math o gysylltiad llygrol sy'n bodoli).

Y Gofrestr Gyhoeddus

Bydd CBS Wrecsam yn cadw Cofrestr, fydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn Adran Diogelu'r Cyhoedd, yn cynnwys manylion o safleoedd a ddynodwyd fel Tir Llygredig, Rhybuddion Adfer a Datganiadau.

Y Strategaeth Archwilio

Mae'r cyfnod ymgynghorol ar gyfer y sylwadau'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Dangosir amserlen fanwl ar gyfer gweithredu'r Strategaeth yn nhabl D y strategaeth ddrafft.

Gellir lawrlwytho copi drafft o'r Strategaeth drwy glicio yma:

PDF  Adobe Acrobat Document 1Mb 


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Cyfarwyddyd ar Ddatblygu Safleoedd A Allai Gynnwys Tir Halogedig

Paratôdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBS Wrecsam) y dogfennau hon i roi gwybodaeth a allai gynorthwyo gyda darparu ceisiadau cynllunio a/neu geisiadau rheoliadau adeiladu sy’n ymwneud â datblygu tir a allai fod yn halogedig.

Gall cemegau neu nwyon yn y pridd a/neu’r dwr, mewn adeiladau neu ddeunyddiau eraill ar y safle halogi’r tir. Mae safleoedd o’r fath yn debygol o fod yn safleoedd tir llwyd h.y. rhai a ddatblygwyd yn y gorffennol, i ddibenion masnachol neu ddiwydiannol yn aml.

O ganlyniad i’r gofynion i ddatblygu safleoedd tir llwyd mae’n bosibl y bydd rhai datblygiadau’n cael eu cyflawni ar safleoedd a allai fod yn halogedig. Mae’n hanfodol sicrhau bod halogiad posibl yn cael ei drin yn ddigonol pan newidir defnydd y tir, ac felly sicrhau bod y tir yn addas ar gyfer ei ddefnydd newydd ac nad yw’n peri unrhyw berygl i iechyd a diogelwch y bobl a ddaw i gysylltiad ag ef. Mae’n bosibl na fydd rhai mathau o ddatblygiadau (sef y mathau sy’n debygol o fod yn fwyaf sensitif e.e. tai) yn addas ar gyfer safleoedd gyda math penodol o halogiad. Mewn achosion o’r fath efallai byddai’n well datblygu’r safle ar gyfer defnydd gwahanol e.e. masnachol neu ddiwydiannol. Hyderwn y bydd y daflen hon, ynghyd â Chyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 22 – Datblygu Safleoedd gyda Thir Halogedig yn cyfrannu tuag at sicrhau y bydd y tir a ddatblygir yn parhau’n ddiogel.

Mae’r dogfennau hon yn amlygu math a maint yr ymchwiliadau sy’n rhaid eu cyflawni er mwyn sicrhau bod CBS Wrecsam yn cyflawni ei oblygiadau statudol o dan ddeddfwriaeth cynllunio, adeiladu ac iechyd amgylcheddol. At hyn, mae’r daflen hon yn rhoi eglurhad bras am y ‘cysylltiad’ rhwng y drefn gynllunio a’r drefn newydd ar gyfer tir halogedig o dan Rhan IIA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd, 1990 a Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001.

Cyfarwyddyd ar Ddatblygu Safleoedd A Allai Gynnwys Tir Halogedig

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

MS Word MS Word Document 114Kb | PDF  Adobe Acrobat Document 212Kb | Plain Text RTF Document447Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.



Gwybodaeth Bellach:

Cyfeiriad:
Adain Gwarchod yr Amgylchedd,
Adran Gwarchod y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron
Blwch SP 1297
Wrecsam
LL13 8ZE

Ffôn: 01978 292028
Ffacs:
01978 297003
Ebost
: environmental@wrexham.gov.uk

Ffurflen ymholiadau cyffredinol ar lein

 

 
English
 

Tir Llygredig

Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint