|
Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r amrywiaeth o wasanaethau y mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei ddarparu, yn ogystal â chysylltiadau i ffurflen
cwestiynau ar lein a ffurflen
barn a sylwadau ar lein.
Cyngor Busnes
Rydym yn darparu cyngor i fusnesau i'w helpu i gydymffurfio â'r gyfraith. Gellir cael rhestr gynhwysfawr o daflenni cyngor i fusnesau sy'n cwmpasu holl agweddau'r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei gorfodi o www.tradingstandards.gov.uk
Os hoffech ofyn cwestiwn penodol i ni, defnyddiwch y ffurflen gwestiynau ar-lein sydd ar gael ar y wefan hon.
yn ôl i'r brig
Cyswllt Defnyddwyr Cymru (CDW)
Mae CDW yn cynghori, cynorthwyo ac addysgu defnyddwyr i'w helpu i brynu'n ddoeth ac i weithredu ynghylch nwyddau a gwasanaethau diffygiol. Gellir cael rhestr gynhwysfawr o nodiadau cyfarwyddyd a thaflenni o www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk a www.tradingstandards.gov.uk.
CDW yw eich pwynt cyswllt dechreuol ar gyfer materion sy'n ymwneud â phrynu, fodd bynnag, os oes angen cymorth mwy manwl arnoch bydd CDW yn cyfeirio manylion eich cwyn at Is-adran Safonau Masnach Wrecsam fel y gall Swyddog Ymgynghorol neu Swyddog Gorfodi ymchwilio i'r mater.
1. Sut y mae Safonau Masnach yn ymchwilio i'ch cwyn
Ar ôl i'r CDW eich cyfeirio atom, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 2 ddiwrnod gwaith i gadarnhau bod y wybodaeth gennym. Os nad oes modd i ni gael gafael arnoch dros y ffôn byddwn yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi gysylltu â swyddog. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gallu ateb eich ymholiad ar unwaith a darparu cyngor cynhwysfawr i'ch helpu yng ngham nesaf eich ymholiad. Fel arall, efallai y bydd rhaid edrych ar eich dogfennau a'ch telerau a'ch amodau.
Efallai y cewch eich cynghori i gysylltu â sefydliad mwy addas sy'n fwy cymwys i helpu e.e. Energywatch ar gyfer problemau yn ymwneud â nwy a thrydan ac OFCOM ar gyfer ymholiadau biliau ffôn.
Efallai y byddwn yn cysylltu â'r masnachwr i geisio trafod i drefnu canlyniad derbyniol. Nid yw hyn yn bosibl ym mhob sefyllfa.
Efallai y bydd angen i chi gael cyngor arbenigwyr ar ryw adeg i gefnogi'ch cais. Byddech yn gyfrifol am dalu unrhyw dâl a godir gan yr arbenigwr.
Os na fydd trafodaethau â'r masnachwr yn llwyddo, efallai y byddwch yn penderfynu gweithredu trwy'r Llysoedd Sifil. Fel arfer, byddwn yn delio â cheisiadau am £5,000 neu lai ar y Llwybr Hawliadau Bach. Codir tâl am hyn a byddwch yn gyfrifol am ei dalu. Gallwn eich helpu a'ch cynghori wrth baratoi dogfennau i'r llys.
Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
2. Yr hyn y gallwch ei wneud i helpu
-
Dweud holl ffeithiau eich cwyn wrthym yn gwbl ddidwyll
-
Darparu unrhyw ddogfennau y gofynnwn amdanynt cyn gynted ag sy'n bosibl
-
Gwrando ar ein cyngor a gweithredu arno - rydym yn ceisio eich helpu
-
Gofyn i ni esbonio neu egluro unrhyw beth nad ydych yn sicr yn ei gylch
-
Derbyn y gall ymchwiliadau gymryd amser
-
Derbyn na allwn ddatrys y broblem i chi bob tro
-
Parchu ein staff sy'n gwneud gwaith anodd sy'n aml yn ymgecrus
3. Yr hyn na allwn ei wneud
-
Ymchwilio i broblemau sydd y tu allan i gwmpawd ein gwasanaeth neu broblemau y teimlwn sy'n anghyfiawn neu'n afresymol.
-
Canolbwyntio'n llwyr ar ymholiad neu gwyn unigol - rydym yn delio ag oddeutu 4,000 bob blwyddyn
-
Mynnu ymddiheuriad neu ad-daliad neu fynnu bod masnachwr yn datrys y mater i chi
-
Olrhain masnachwyr sy'n methu darparu cyfeiriadau llawn neu sydd wedi symud o'r ardal
-
Argymell masnachwyr unigol i chi
- Newid y gyfraith - rhaid i ni weithio o fewn y ddeddfwriaeth bresennol
4. Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Gweler hefyd Cwestiynau a Ofynnir yn Aml Safonau Masnach
5. Pecyn cefnogi defnyddwyr
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am nifer o faterion yn ymwneud â defnyddwyr megis:
- Prynu nwyddau a gwasanaethau
- Prynu yn defnyddio credyd
- Sicrwydd a gwarantau
- Pecynnau gwyliau
- Hawliau canslo a gwerthu wrth ddrws y ty
- Sut i gwyno wyneb yn wyneb ac yn ysgrifenedig
- Defnyddio arbenigwr
Pecyn Cefnogi Defnyddwyr
Efallai yr hoffech lawrlwytho'r pecyn cyfan (60 tudalen) neu dudalennau penodol i'ch helpu â'ch cwyn.
Pecyn Cefnogi Defnyddwyr - Fersiwn Word 331Kb
Pecyn Cefnogi Defnyddwyr - Fersiwn PDF 806Kb 
Pecyn Cefnogi Defnyddwyr - Fersiwn Testun Plaen 1.2Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
6. Cysylltwch â ni
Ffôn: 08454 04 05 05
Ebost: www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk
yn ôl i'r brig
Gwasanaeth Calibro
Rydym yn cynnig gwasanaeth calibro cynhwysfawr ar gyfer busnesau ac rydym yn cynnig calibradau ar sail cywirdeb M1 yn yr ystod 1mg - 25 kg.
yn ôl i'r brig
Trwyddedau a Ffurflenni Cais
Rydym yn gyfrifol am drwyddedu ar gyfer storio tân gwyllt, ffrwydradau, petrolewm (gan gynnwys cymysgeddau petrolewm), gwenwyn, a symud anifeiliaid (fel rhan o'r Drefn Trwyddedau Symud Anifeiliaid).
yn ôl i'r brig
Eich Cwestiynau
Rydym yn croesawu unrhyw gwestiynau gan ddefnyddwyr am y gwasanaeth a'r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei gorfodi. Fel arfer, dim ond preswylwyr a masnachwyr o Wrecsam y gallwn eu cynorthwyo.
Defnyddiwch Eich ffurflen gwestiynau ar-lein sydd ar gael ar y wefan hon.
yn ôl i'r brig
Eich Barn
Mae Safonau Masnach yn cyflawni amrywiaeth eang o dasgau i amddiffyn defnyddwyr ac i helpu busnesau. Hoffem wybod beth yw eich barn am ein gwasanaeth, ein mentrau diweddar a sut y dylem ddatblygu'r gwasanaeth.
I ddweud eich barn wrthym, defnyddiwch Eich ffurflen rhoi barn ar-lein sydd ar gael ar y wefan hon.
|