|
Nid yw Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn darparu cardiau 16+ mwyach. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Gellir gwneud cais am gardiau 18+ drwy ffonio 01978 292045.
Lansiwyd cerdyn Profi eich Oed Wrecsam ym mis Hydref 1999. Mae’r cynllun yn bartneriaeth sy’n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru a Choleg Iâl Wrecsam. Mae mwyafrif ysgolion uwchradd y fwrdeistref sirol yn cefnogi’r cynllun hefyd.
Daeth cynllun Wrecsam yn un o’r cynlluniau lleol cyntaf i ennill achrediad PASS (y Cynllun Safonau Profi eich Oed) ym mis Tachwedd 2003. Mae PASS yn cael ei gefnogi gan y llywodraeth a diwydiannau ac mae’n caniatáu i gynlluniau achrededig ddefnyddio hologram PASS ar eu cardiau. Mae’r hologram yn dweud wrth fanwerthwyr bod pob cerdyn yn brawf dibynadwy a chredadwy o oed rhywun.
Mae cardiau Wrecsam yn cael eu rhoi am ddim i bobl ifanc gymwys sy’n byw a gweithio yn Wrecsam.
I wybod mwy am gael cerdyn 16+ neu 18+, cysylltwch â’r Adran Safonau Masnach ar 01978 292045.
Mae cynlluniau PASS achrededig eraill yn cynnwys Citizencard, cerdyn “Prove It” y Portman Group a Validate.
Pam fo angen cynllun Profi eich Oed arnom?
Dyma amcanion y cynllun:
- Gostwng nifer y nwyddau a gyfyngir gan oedran sy’n cael eu gwerthu i blant dan oed yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam;
- Darparu cynllun profi oed dibynadwy i fanwerthwyr yr ardal sydd wedi cwyno’n aml nad ydynt yn gwybod oedran pobl ifanc sy’n gofyn am nwyddau a gyfyngir gan oed;
- Gostwng anhrefn yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n cynnwys pobl ifanc;
- Rhoi cyhoeddusrwydd a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n gysylltiedig â phobl ifanc dan oed yn prynu’r nwyddau hyn e.e. materion iechyd, anhrefn gyhoeddus, manteision masnachu annheg;
- Helpu asiantaethau gorfodi i weithredu yn erbyn yr ychydig fanwerthwyr sy’n mynnu gwerthu’r nwyddau hyn i bobl dan oed
Beth yw’r nwyddau a gyfyngir gan oed?
Mae’r nwyddau a gyfyngir gan oed y mae’r cynllun yn eu cynnwys fel a ganlyn:
- Alcohol 18+
- Cynnyrch baco 18+
- Tân gwyllt 18+
- Gludion 18+
- Tocynnau loteri 16+
- Cyllyll 18+
- Fideos sy’n dibynnu ar drwydded h.y. 15, 18
Sut mae’r cynllun yn gweithio?
Mae mwyafrif y cardiau’n cael eu cyhoeddi gan Coleg Iâl wrth i fyfyrwyr gofrestru. Mae cardiau newydd yn cael eu rhoi yn ystod y flwyddyn wrth i fyfyrwyr ddathlu eu pen-blwydd yn 18 oed.
Mae’r Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd yn cyhoeddi’r cardiau eraill mewn dwy ffordd:
- Ar y cyd ag ysgolion uwchradd. Mae hyn yn cynnwys tynnu llun digidol o ddisgyblion a sganio’r rhain ar gardiau. Mae’r cardiau’n cael eu rhoi i’r disgyblion wedyn pan fyddant yn cyrraedd yr oedran perthnasol.
- Ymgeiswyr unigol yn cysylltu â’r Safonau Masnach a dod i’r swyddfa i dynnu llun. Caiff hwn ei sganio wedyn ar ffurflen gais a fydd wedi ei llofnodi gan unigolyn cyfrifol. Ar ôl gwirio’r llofnod hwn, bydd ymgeiswyr yn cael cerdyn, fel arfer o fewn ychydig ddiwrnodau. Gofynnir i unigolion ddangos copïau o brawf o bwy ydynt hefyd, megis pasport, tystysgrif geni neu drwydded yrru.
Sut un yw’r cerdyn?
Mae’r cerdyn yn arddangos logo 16+ neu 18+ a fydd wedi ei argraffu ymlaen llaw ac sy’n gorchuddio cefn y cerdyn i gyd. Mae’r cerdyn yn debyg i gerdyn credyd plastig ac mae’n arddangos llun digidol, ynghyd ag enw’r deiliad ar y tu blaen.
Nid oes tâl am y cerdyn ac nid oes raid i unigolion ddarparu eu lluniau eu hunain.
Beth yw prynu ar brawf?
Mae prynu ar brawf yn rhan bwysig iawn o waith y Safonau Masnach. Rhaid i ni wirio bod manwerthwyr yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn peidio â gwerthu nwyddau a gyfyngir gan oed i unrhyw un dan y terfyn oed cyfreithiol. Rydym yn gwneud y gwiriadau hyn trwy ddefnyddio gwirfoddolwyr rhwng oedrannau penodol i brofi nwyddau 16+ a 18+.
Nwyddau 16+ - gwirfoddolwyr 13 i 14½ oed e.e. sigarets a chyllyll
Nwyddau 18+ - gwirfoddolwyr 15 i 16½ oed e.e. alcohol a thân gwyllt
Heb gymorth gwirfoddolwyr, buasem yn cael trafferth i wneud gwahaniaeth yn Wrecsam a helpu i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Sut wyf yn gwirfoddoli i brynu ar brawf?
Allech chi fod yn wirfoddolwr prynu ar brawf ?
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Allech chi fod yn wirfoddolwr prynu ar brawf ? Fersiwn Word 210kb 
Allech chi fod yn wirfoddolwr prynu ar brawf ? Fersiwn Word 164kb 
Allech chi fod yn wirfoddolwr prynu ar brawf ? Fersiwn Word 2.1Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
Gwybodaeth gyswllt
Os ydych yn gymwys i gael cerdyn ac am gael un, ffoniwch 01978 292045 neu anfonwch ebost at trading.standards@wrexham.gov.uk i drefnu tynnu llun.
|