Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Datganiad i'r Wasg

 

09.11.05

Materion Safonau Masnach

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam wedi lansio newyddlen ar gyfer holl fusnesau ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae'r newyddlen, o'r enw Materion Safonau Masnach, yn ceisio rhoi gwybodaeth am ddeddfwriaeth a materion safonau masnach i fusnesau'r ardal a allai effeithio ar y cynnyrch maent yn eu cynhyrchu a'r gwasanaethau maent yn eu darparu.

Dywed Mr Andy Lewis, y Prif Swyddog Tai a Diogelu'r Cyhoedd "Yn amgylchedd manwerthu cymhleth heddiw, fel gwasanaeth rheoleiddio, mae'r Adran Diogelu'r Cyhoedd yn gwerthfawrogi yr anawsterau y bydd rhai busnesau - yn enwedig y mentrau bach a chanolig - yn eu cael wrth gadw i fyny â newidiadau mewn deddfwriaeth".

"Mae’r Llywodraeth yn awyddus i leihau biwrocratiaeth a’r baich deddfwriaethol ar bob sector busnes.  Wrth lansio’r newyddlen hon, mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach yn cydnabod yr angen parhaus i gysylltu â;r sector busnes yn yr ardal, eu cefnogi a’u cynghori ar faterion sy’n perthyn i ddeddfwriaeth."

Mae’r newyddlen hon ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam www.wrecsam.gov.uk dilynwch y cyswllt i'r Is-Adran Safonau Masnach.  Mae ar gael o swyddfa’r Safonau Masnach ar Ffordd Rhuthun hefyd.  Dylai unrhyw un sydd am gael copi ffonio’r swyddfa ar 01978 296060 neu anfon ebost at trading.standards@wrexham.gov.uk .

Casglodd Mr Lewis "Mae lansio'r newyddlen hon yn gam pwysig tuag at weithio mewn partneriaeth â chymunedau busnes yn Wrecsam a gall gyfrannu at ffyniant economaidd yr ardal."

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Kevin P Jones Uwch Swyddog Safonau Masnach– Masnach ar 01978 296060.

 
English
 

Cysyltiadau i

Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint