Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Safonau Masnachu Wrecsam Yn Sicrhau Addewid Ymrwymol Gan Gwmni Tramwyfeydd Lleol

 

Mae cyfarwyddwr cwmni tramwyfeydd lleol wedi rhoi addewid i Safonau Masnach Wrecsam i gyflenwi a gosod tramwyfeydd i gwsmeriaid mewn amser rhesymol. Mae'r cwmni Town and Country Driveways Limited o Bronington wedi rhoi addewid na fyddant yn torri rheoliadau Adran 14 Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982 yn y dyfodol ac y byddant yn cyflawni gwaith o fewn graddfa amser resymol a gytunir â chwsmeriaid. O dan ddarpariaethau'r Ddeddf Menter, os torrir yr addewid hwn gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gael gorchymyn llys yn erbyn y cwmni. Os methant ag ufuddhau i orchymyn llys o'r fath bydd hyn yn cael ei ystyried fel dirmyg llys ac fe allai arwain at ddirwy neu garchariad.

Cymerodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam y camau gweithredu uchod yn dilyn cwynion cenedlaethol am oedi hir yn y gwaith o gwblhau a gosod tramwyfeydd a hynny ar ôl i'r cwmni dderbyn blaendaliadau sylweddol. Roedd Town and Country Driveways Limited yn gwbl gydweithredol ag ymchwil Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a gobeithir y bydd y camau gweithredu hyn yn atal unrhyw broblemau pellach yn y dyfodol.

NODIADAU

  • Gofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am yr addewid o dan Ran 8 y Ddeddf Menter a ddaeth i rym ar 20 Mehefin 2003. Mae'r Ddeddf Menter yn gwella'r modd y diogelir defnyddwyr trwy roi grymoedd cryfach i orfodwyr i gael gorchmynion llys neu addewidion yn erbyn masnachwyr sy'n torri amrywiaeth o ddeddfwriaethau defnyddwyr; rheoli gweithgareddau megis hysbysebu camarweiniol, dangos prisiau camarweiniol; loterïau, gwerthu nwyddau a gwasanaethau, gwerthiant i rai dan oed, asiantaethau tai, hawliadau iechyd camarweiniol, disgrifiadau masnachol, arwerthiannau ffug, cyfnodrannu, amodau annheg mewn contractau defnyddwyr, gwerthu ar garreg y drws, gwerthu o bell, pecynnau teithio a chredyd defnyddwyr.

  • Ar gyfer dibenion Rhan 8 y Ddeddf Menter 2002, mae gweithred neu anwaith a wneir gan unigolyn yn ystod busnes sy'n torri contract o gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i ddefnyddiwr ac sy'n niweidio lles cyfunol defnyddwyr yn y DU, yn drosedd ddomestig.

  • Mae Adran 14 y Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982 yn rhagnodi, ar gyfer contract gan gyflenwr sy'n gweithredu mewn busnes i gyflenwi gwasanaeth, bod yr amser a gymerir i gyflawni'r gwasanaeth os nad yw wedi'i osod yn y contract, yn amod goblygedig y bydd y cyflenwr yn cyflawni'r gwasanaeth o fewn amser rhesymol.

Am wybodaeth bellach ffoniwch Kevin Jones yr Uwch Swyddog Safonau Masnach ar 01978 296060.

 
English
 

Cysyltiadau i

Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint