|
Gweithredu'n Lleol Er Mwyn Sicrhau Na Werthir Cynhyrchion Yr Effeithir Arnynt Gan Lifyn Sudan I.
Gweithredodd yr Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd ar unwaith er mwyn sicrhau na werthir unrhyw gynnyrch yr effeithir arno yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam o ganlyniad i rybudd diweddar yr Asiantaeth Safonau Bwyd ynghylch halogi llawer o fwydydd yn anfwriadol gyda'r llifyn anghyfreithlon Sudan I a ddarganfuwyd mewn llwyth o bowdwr tsili a ddefnyddir i wneud Saws Caerwrangon.
Dywedodd Andy Lewis y Prif Swyddog Tai a Diogelu'r Cyhoedd "Mae'r rhestr o gynhyrchion yn parhau i dyfu ac enwau brand yr archfarchnad sy'n cael eu heffeithio'n bennaf. Ar hyn o bryd mae Swyddogion Safonau Bwyd yn ymweld â'r holl archfarchnadoedd, cyfanwerthwyr a'r manwerthwyr amrywiol er mwyn sicrhau bod y cwmnïau hyn yn gweithredu'n briodol fel nad ydynt yn gwerthu'r nwyddau hyn."
Aeth Mr Lewis ymlaen i ddweud " Byddwn yn cysylltu â'r holl manwerthwyr bwyd ac arlwywyr eraill gan gynnwys y fasnach drwyddedu drwy lythyr i'w rhybuddio am y broblem ac er mwyn rhoi rhestr ddiweddaraf iddynt o'r holl fwydydd yr effeithir arnynt oherwydd nodwyd bod llawer o frandiau nad ydynt yn enwau brand wedi'u heffeithio a'u bod yn cael eu gwerthu yn y siopau hyn neu'n cael eu cynnwys yn eu cynhyrchion hwy.
Gorffennodd Mr Lewis drwy ddweud " Wrth fabwysiadu'r ymagwedd hon yn lleol rydym yn cefnogi blaengaredd cenedlaethol yr Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn sicrhau na werthir y nwyddau dan sylw."
Gellir cael mwy o wybodaeth am halogiad Sudan I drwy fynd i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd www.food.gov.uk.
Am wybodaeth bellach ffoniwch Kevin Jones yr Uwch Swyddog Safonau Masnach ar 01978 296060.
|