Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Datganiad i'r Wasg

 

25.08.06

Ymarfer Prynu Cyllyll

Yn dilyn cyhoeddusrwydd cenedlaethol yn ddiweddar am droseddau treisgar sy’n cynnwys pobl ifanc yn defnyddio cyllyll, gwnaeth swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam brawf prynu ddoe i weld a oedd siopau yn Wrecsam yn gwrthod gwerthu cyllyll ac arfau llafnog i unigolion dan oed.

Mae’n anghyfreithlon i werthu cyllyll ac arfau llafnog eraill i unigolion dan 16 oed.  Ymwelwyd â 10 siop yn Wrecsam gan ddefnyddio prynwr gwirfoddol dan oed.  Gwrthodwyd gwerthu cyllyll ym mhob un o’r siopau.

Dywedodd y Prif Swyddog Tai a Diogelu’r Cyheodd, Andy Lewis: "Dw i’n falch bod y siopau lleol a brofwyd yn yr ymarfer hwn wedi cadw at y gyfraith.  Mae swyddogion safonau masnach Wrecsam yn gwneud cryn dipyn o ymdrech i hysbysu ac addysgu manwerthwyr o’r cyfreithiau sy’n perthyn i ystod o gynnyrch, gan gynnwys cyllyll, alcohol a sigarets.  Mae gan y Cyngor ei gynllun Profi Eich Oed ei hun a achredwyd yn genedlaethol.  Mae gan fwyafrif helaeth o bobl ifanc dros 16 oed yn Wrecsam gardiau adnabod.  Mae gan bob cerdyn hologram i brofi ei fod yn ddilys fel bod manwerthwyr yn gallu gofyn am brawf hunaniaeth gan unrhyw un y maent yn amau eu bod dan oed.  Er bod canlyniad yr ymarfer hwn yn galonogol iawn, bydd yr Adran yn parhau i wirio gwerthiannau o gyllyll a nwyddau cyfyngedig eraill".

Os ydych yn poeni am alwadau digymell neu os hoffech gyngor pellach, cysylltwch â’r Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Adran Safonau Masnach, Stryd Uchaf, Rhiwabon, Wrecsam LL14 6NH, rhif ffôn 01978 292045.

 
English
 

Cyswllt i

Safonau Masnach
Partneriaeth Diogelwch Cymumedo Wrecsam
Newyddion
Datganiad i'r wasg a rhybuddion nghylch cynnyrch
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint