Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Datganiad i'r Wasg

 

25 Hydref 2007

Tân Gwyllt - Côd Cymydog Da

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn lansio côd cymydog da cyn 5 Tachwedd.  Amcan y côd yw annog pobl i ddefnyddio tân gwyllt yn gyfrifol ac ystyried trigolion eraill, yn enwedig yr henoed a phobl hawdd eu niweidio.  Mae’r côd yn amlinellu sut i ddefnyddio tân gwyllt yn ddiogel, e.e. prynu tân gwyllt sydd ag effaith weledol yn hytrach na sŵn, gorffen arddangosiadau cyn 11pm a phrynu tân gwyllt oddi wrth werthwyr dibynadwy sy’n cydymffurfio â Safonau Prydeinig a defnyddio tân gwyllt mewn man sy’n addas ar eu cyfer.

Bydd cydlynwyr gwarchod cymdogaethau a swyddogion cefnogaeth gymunedol yr heddlu’n dosbarthu copïau o’r côd hwn a bydd ar gael ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn archfarchnadoedd, swyddfeydd post, swyddfeydd ystad a llyfrgelloedd.

Dywedodd Andy Lewis, y Prif Swyddog Tai a Diogelu’r Cyhoedd, "Mae’r Bartneriaeth yn awyddus i bobl barhau i fwynhau tân gwyllt.  Rydym wedi datblygu’r côd hwn i helpu i atal tân gwyllt ac arddangosiadau rhag tarfu ar fwynhad trigolion eraill, yn enwedig pobl hawdd eu niweidio, megis pobl ddall, pobl sydd â nam gweld, yr henoed neu drigolion ag anifeiliaid anwes a phlant bach.  Trwy ddilyn hwn a’r Côd Diogelwch Tân Gwyllt, gobeithiwn sicrhau y bydd pawb yn cael noson tân gwyllt ddiogel".

Côd Cymydog Da - Hwyl Tân Gwyllt gyda Chydwybod

Mae’r copi o’r côd neu gyngor cyffredinol am werthu, defnyddio a storio tân gwyllt ar gael gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Adran Safonau Masnach, Stryd Uchaf, Rhiwabon, Wrecsam LL14 6NH, rhif ffôn 01978 292045.

 
English
 

Cyswllt i

Safonau Masnach
Partneriaeth Diogelwch Cymumedo Wrecsam
Newyddion
Datganiad i'r wasg a rhybuddion nghylch cynnyrch
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint