|
02.11.05
Cyfraith Tân Gwyllt Newydd Yn Helpu Safonau Masnach
Mae swyddogion safonau masnach yn Wrecsam yn dathlu pen-blwydd y cynllwyn powdwr gwn yn 400 oed gyda phwerau newydd i lansio ymgyrch gref yn erbyn gwerthu tân gwyllt yn anghyfreithlon.
Mae Andy Lewis, y Prif Swyddog Tai a Diogelu’r Cyhoedd yn gofyn am help y cyhoedd i ddatgelu gwybodaeth am unrhyw un sy’n gwerthu tân gwyll yn anghyfreithlon drwy ffonio Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam ar 01978 296060 neu drwy ffonio Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 04 05 06.
Dyma’r noson tân gwyllt gyntaf i’r gwasanaethau safonau masnach gael defnyddio’r pwerau newydd a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn dilyn ymgyrch gan y Sefydliad Safonau Masnach a chefnogwyr eraill am reoliadau mwy grymus ynghylch gwerthu tân gwyllt.
Mae’r pwerau hyn yn anelu at ddiddymu gwerthu tân gwyllt yn anghyfreithlon ac sy’n aml yn gysylltiedig a’u defnyddio’n wrthgymdeithasol. Mae hefyd yn cyflwyno rheolau newydd o ran defnyddio tân gwyllt a chadw tân gwyllt i fasnachwyr.
Mae’r pwerau newydd yn cwmpasu’r tân gwyllt sy’n cael eu gwerthu i’r cyhoedd ac yn cynnwys:
Erbyn hyn gall manwerthwyr werthu tân gwyllt yn ystod cyfnod penodedig yn unig - os ydynt am werthu y tu allan i’r cyfnodau hyn, bydd angen trwydded a chyfleusterau arbennig i gadw’r tân gwyllt. (gweler y nodiadau i olygyddion).
Cyrffyw tân gwyllt - gwaherddir defnyddio tân gwyllt gan y cyhoedd rhwng 11pm a 7am ac eithrio 5 Tachwedd a 31 Rhagfyr /1 Ionawr (gweler y nodiadau i olygyddion).
Gwaherddir unrhyw un dan 18 oed rhag arddangos a meddu ar dân gwyllt gardd ac arddangosiadol mewn mannau cyhoeddus.
Gwaherddir tân gwyllt swnllyd iawn (mwy na 120 desibel).
Rhaid i fasnachwyr nawr ddangos trwydded neu dystysgrifau i gadw tân gwyllt wrth brynu mwy na 50kg o stoc tân gwyllt.
Rhaid i fasnachwyr ddangos rhybuddion yn eu siopau ynghylch gwerthu tân gwyllt i unigolion dan oed a meddu ar dân gwyllt yn gyhoeddus.
Gall safonau masnach wrthod ceisiadau am drwyddedau os yw’r eiddo neu’r ymgeisydd yn anaddas - gallai hyn er enghraifft ystyried unrhyw gollfarn flaenorol am werthu i unigolion dan oed neu gyfleusterau storio amhriodol.
Mae'r rheolaethau mewnforio newydd yn helpu i olrhain sut y dosberthir tân gwyllt.
Dywedodd Mr Lewis "Rydym wedi bod yn gofyn am y pwerau hyn am gryn amser. Mae eu cyflwyno yn ategu at y safonau diogelwch presennol ar gyfer tân gwyllt a’r gyfraith sy’n gwahardd gwerthu tân gwyllt i unrhyw un dan 18 oed."
Ychwanegodd "Dylai unrhyw un sy’n amau iddynt weld unrhyw beth sy’n anghyfreithlon megis gwerthu tân gwyllt i unigolion dan oed, gwerthu tân gwyllt yn anghyfreithlon neu gadw tân gwyllt mewn mannau amhriodol gysylltu â Safonau Masnach Wrecsam ar 01978 296060 neu ffonio Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 04 05 06
"Gyda chymorth y cyhoedd, gallwn yn awr ddilyn trywydd unrhyw un sy’n parhau i werthu tân gwyllt yn anghyfreithlon yn arbennig i’r rheini dan 18 oed drwy’r economi du, gwerthwyr ar y stryd, gwerthwyr mewn tafarndai ac arwerthiannau cist car yn fwy effeithiol a’u herlyn.
"Mae cyswllt uniongyrchol rhwng gwerthiant anghyfreithlon a defnydd gwrthgymdeithasol o dân gwyllt yn arbennig yn hwyr y nos, ac mae hynny’n boendod i gymaint o gymunedau lleol.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu ar unrhyw achosion sy’n ymwneud â defnyddio tân gwyllt yn wrthgymdeithasol, megis tanio tân gwyllt yn y stryd neu yn ystod yr adegau cyrffyw.
Dywedodd Mr Lewis i gloi "Rydym am i bobl fwynhau noson tân gwyllt ond o ystyried y 1,160 o anafiadau a achoswyd gan dân gwyllt yn y DU yn ystod cyfnod y tân gwyllt yn 2004 mae’r angen am ddiogelwch â thân gwyllt o’r dechrau un wrth i’r cwsmer ei brynu yn amlwg mor bwysig ag erioed."
Nodiadau i’r golygyddion:
Yn unol â Deddfwriaethau Tân Gwyllt 2004 a Rheoliadau Cynhyrchu a Storio Ffrwydron 2005:
Ni all unrhyw unigolyn ddefnyddio tân gwyllt i oedolion rhwng 11pm a 7am, ac eithrio:
- Rhwng 11pm a hanner nos ar 5 Tachwedd
- Rhwng11pm ar 31 Rhagfyr a 1am ar 1 Ionawr
- Diwrnod cyntaf Blwyddyn Newydd y Tsieineaid o 11pm i 1am y diwrnod canlynol
- Diwrnod cyntaf y Diwali, o 11pm i 1am y diwrnod canlynol
Caniateir gwerthu tân gwyllt rhwng y dyddiadau canlynol yn unig:
- 15 Hydref i 10 Tachwedd
- 26 Rhagfyr i 31 Rhagfyr
- Diwrnod cyntaf Blwyddyn Newydd y Tsieineaid a tri diwrnod cyn hyn
- Diwrnod Diwali a’r tri diwrnod cyn hynny
Mae angen i unrhyw un sy’n gwerthu tân gwyllt yn ystod y cyfnodau hyn gofrestru ac os yw’r masnachwr yn dymuno gwerthu ar adegau ychwanegol i’r cyfnodau hyn, bydd angen trwydded arbennig.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Kevin P Jones Uwch Swyddog Safonau Masnach– Masnach ar 01978 296060.
|