Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Datganiad i'r Wasg

 

16.08.06

Y Gofrestr Etholiadol

Ydych chi’n cael llwyth o bost a galwadau telewerthu dieisiau? Hoffech chi gael llai ohonynt?

Mae’r cyngor yn cadw dwy gofrestr etholiadol; mae’r cyntaf yn gyfrinachol ac fe’i defnyddir ar gyfer dibenion etholiadol ac mae’r ail yn gofrestr olygedig  sydd ar gael i’r cyhoedd yn unol â’r gyfraith.

Mae cwmnïau marchnata yn prynu copïau o’r gofrestr olygedig i gael eich manylion er mwyn cysylltu â chi.

OND

Gellwch ddewis peidio â chynnwys eich manylion ar y gofrestr sydd ar gael i’r cyhoedd trwy ysgrifennu at:

Cofrestru Etholiadol,
Tŷ Dewi Sant,
Ffordd Rhosddu,
Wrecsam, LL11 1NF.

Ar hyn o bryd, mae’r gofrestr yn cael ei diweddaru.  Rydym wedi anfon ffurflen gofrestru at bob cartref yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n cynnwys blwch i roi tic ynddo os nad ydych am i’ch manylion gael eu cynnwys ar y gofrestr sydd ar gael i’r cyhoedd (y gofrestr olygedig).  Os ydych eisoes wedi dychwelyd eich ffurflen heb roi tic yn y blwch, gellwch ddefnyddio’r llythyr atodedig.  Dylid dychwelyd hwn erbyn dydd Gwener Tachwedd 2006.

Mae gennych hawl i amddiffyn eich manylion.  Defnyddiwch y cyfle hwn.

Efallai y byddwch hefyd am gofrestru â’r gwasanaethau dewis post a dewis galwadau ffôn.  Mae gan y sefydliadau hyn gofrestrau sy’n lleihau’r post dieisiau sy’n cael eu hanfon atoch neu alwadau ffôn telewerthu dieisiau am ddim.

Gellir cysylltu â’r gwasanaeth dewis postio ar:

The Mailing Preference Service,
Freepost 22,
London,
W1E 7EZ
neu www.mpsonline.org.uk

Gellir cysylltu â’r gwasanaeth dewis galwadau ffôn ar:

The Telephone Preference Service,
DMA House,
70 Margaret Street,
London, W1W 8SS
Neu 0845 070 0707
neu, www.tpsonline.org.uk

Dylai unrhyw un sy’n pryderu am alwadau ffôn neu ymweliadau gan y contractwyr hyn ffonio Adran Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 01978 296060.

 
English
 

Cysyltiadau i

Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint