|
03.07.06
Efallai ein bod wedi cael gwanwyn gwlyb ond peidiwch â chredu fod eich cartref yn llaith!
Mae’r cyhoedd yn cael eu hargymell i fod yn wyliadwrus os bydd contractwyr gwrth-leithder yn cysylltu â nhw i gynnig cynnal arolygon am ddim.
Mae Adran Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Wrecsam wedi clywed bod rhai trigolion hŷn o Wrecsam ac ardaloedd cyfagos wedi cael eu darbwyllo i dalu am waith gwrth-leithder yn eu cartrefi. Mae’r contractwyr yn defnyddio technegau gwerthu sy’n rhoi pwysau mawr ar bobl ac maent yn ceisio perswadio cwsmeriaid i arwyddo contract yn y fan a’r lle. Yn aml, maent yn datgan bod un o’u contractau wedi cael ei chanslo ac yn cynnig gostyngiadau am lofnod ar unwaith. Maent yn anwybyddu hawl y cwsmer i gael cyfnod o saith diwrnod i ystyried.
Mae Swyddogion Safonau Masnach yn rhoi’r cyngor canlynol:
- Os oes un o’r contractwyr hyn yn eich ffonio, ystyriwch yn ofalus p’un a ydych am iddynt ymweld â chi. Cofiwch - mae’n debyg y byddant yn ceisio rhoi pwysau mawr arnoch i brynu.
- Os ydych yn cytuno i’r contractwr ymweld â chi a’i fod yn dweud wrthych fod angen triniaeth ar eich tŷ, peidiwch ag arwyddo contract nes i chi gael cyfle i ymgynghori â chontractwyr eraill.
- Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin – yn aml gellwch weld neu arogli lleithder yn eich cartref. Os oes lleithder yn bodoli, yn aml mae achosion eraill heblaw lleithder sy’n codi yn gyfrifol am hyn, e.e. anwedd, ac nid oes angen gwario ar driniaethau drud i gael gwared ar y broblem.
- Os cynigir contract i chi, sicrhewch ei fod yn cynnwys manylion y gweithdrefnau canslo. Fel arfer, mae gennych hawl i gael cyfnod o saith diwrnod i ystyried y cynnig ar ôl i’r contractwr ffonio i drefnu ymweliad â chi neu anfon rhywun draw i ofyn a gaiff ymweld â chi.
- Mae methu â rhoi rhybudd canslo yn drosedd. Fel arfer, nid oes gennych hawl i ganslo os byddwch yn mynd at eich contractwr yn gyntaf.
- Os byddwch yn canslo contract o fewn y cyfnod ystyried mae gennych hawl i gael ad-daliad o unrhyw flaendal yr ydych wedi’i dalu, cyn belled a bo’r gwaith heb ei gyflawni eisoes. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd raid i chi dalu am waith sydd wedi’i gyflawni o fewn y cyfnod ystyried. I amddiffyn eich hawliau, fe’ch argymhellir i beidio â rhoi caniatâd i’r contractwyr ddechrau ar y gwaith ar unwaith.
- Peidiwch byth â thalu arian parod a pheidiwch â chredu popeth y mae’r gwerthwr yn ei ddweud wrthych. Gwiriwch unrhyw honiad bod y cwmni’n gysylltiedig â’r Cyngor neu’n gweithio i’r Llywodraeth. Ambell waith, nid yw honiadau fel hyn yn wir!
DEFNYDDIWCH EICH HAWL I GAEL CYFNOD YSTYRIED : PEIDIWCH Â CHANIATÁU I’R GWAITH DDECHRAU YN YSTOD Y CYFNOD YSTYRIED O SAITH DIWRNOD A GOFYNNWCH I RYWUN YR YDYCH YN YMDDIRIED YNDDYNT AM GYNGOR.
Dylai unrhyw un sy’n pryderu am alwadau ffôn neu ymweliadau gan y contractwyr hyn ffonio Adran Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 01978 296060.
|