|
17.10.05
Atafael ac erlyn nwyddau ffug
Ar 13eg Hydref 2005 yn Llys Ynadon Wrecsam, derbyniodd Claire Louise Hardy o 5 Regents Close, Vicars Cross, Caer ddedfryd Gorchymyn Cymunedol o 70 awr a Gorchymyn Adfer 12 mis am werthu a meddu ar DVDau ffug i’w gwerthu.
Bu i Swyddogion Safonau Masnach brynu ganddi fel arbrawf mewn sêl cist car ac yn ddiweddarach bu iddynt atafael mwy o DVDau o’i char a’i chartref. Bu i gyfrifiadur a ddrwgdybiwyd ei fod wedi ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu’r DVDau gael ei atafael hefyd. Gwnaeth y Llys orchymyn fforffedu a dinistrio ar gyfer yr eitemau a atafaelwyd gan gynnwys y cyfrifiadur. Gorchmynnwyd i Hardy dalu £200 tuag at gostau’r erlyniad hefyd.
Dywed y Prif Swyddog Tai a Diogelu’r Cyhoedd Andy Lewis "Mae Swyddogion Safonau Masnach yn Wrecsam wedi atafael nifer fawr o nwyddau ffug yn ystod y ddwy flynedd diwethaf a hwn yw’r achos diweddaraf i fynd gerbron y Llysoedd. Dylai pobl sy’n delio mewn nwyddau ffug fod yn ymwybodol fod perygl iddynt golli eu hoffer megis cyfrifiaduron a ddefnyddir i gynhyrchu’r nwyddau yn ogystal â chael eu herlyn. Mae ein swyddogion yn parhau i weithredu pan ganfyddir nwyddau ffug. Y penwythnos diwethaf bu i dros 350 o DVDau ffug gael eu hatafael o sêl cist car yn Wrecsam ac mae’r unigolyn oedd yn eu gwerthu ar y stondin nawr yn wynebu erlyniad."
Dylai unrhyw un sy'n meddwl eu bod wedi prynu nwyddau ffug gysylltu â Safonau Masnach ar 01978 297060.
|