|
Mae Adran Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i erlyn Kevin Howe am werthu a bod â nwyddau ffug yn ei feddiant.
Plediodd Mr Howe, o Heol Pedr, Gwersyllt yn euog yn Llys Ynadon Wrecsam i werthu a bod â dros 1,000 o DVDau, cyfrifiadur a nwyddau cysylltiedig yn ei feddiant. Roedd gwerth posibl y nwyddau ar y stryd fawr dros £5,000. Cafodd ddedfryd ohiriedig o 6 mis a dywedwyd wrtho am dalu £425 o gostau erlyniad.
Daethpwyd â'r erlyniad gerbron gan Adran Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi iddo gael ei weld mewn sêl cist car fawr yn y Rhyl ac fe archwiliwyd ei gartref yn dilyn hynny.
Dywedodd Andy Lewis, Prif Swyddog Diogelu'r Cyhoedd Wrecsam:
"Mae dedfryd Mr Howe yn adlewyrchu pa mor ddifrifol y mae'r llysoedd yn ystyried materion yn ymwneud â nwyddau ffug. Credwn y dylai pobl sy'n ystyried prynu a gwerthu eitemau o'r fath fod yn ymwybodol o bwerau'r llysoedd mewn perthynas â throseddau o'r fath. Mae gan aelodau'r cyhoedd yr hawl i brynu nwyddau cyfreithlon gan fasnachwyr cyfreithlon. Bydd Swyddogion Safonau Masnach yn parhau i ymchwilio masnachwyr y maent yn credu sy'n ceisio twyllo'r cyhoedd i brynu nwyddau sy'n amlwg yn ffug."
Dylai unrhyw un sy'n meddwl eu bod wedi prynu nwyddau ffug gysylltu â Safonau Masnach ar 01978 297060.
|