|
Mae Swyddogion Safonau Masnach Wrecsam newydd alluogi erlyniad llwyddiannus arall am werthiant nwyddau ffug.
Plediodd Nyeem Aslam o 2 Clos y Ceiliog, Wrecsam yn euog yn Llys Ynadon Wrecsam i 7 trosedd yn erbyn y Ddeddf Marciau Masnach.
Roedd Swyddogion Safonau Masnach wedi'i ddarganfod â dillad ffug yn ei feddiant ar ei stondin, Origin Clothing ym Marchnad y Bobl, yn ei gartref ac yn ei fan.
Roedd yr eitemau'n cynnwys siwmperi a siacedi â labeli dylunwyr arnynt megis Fred Perry, Paul a Shark, Lacoste a Rockport. Cafodd cyfanswm o 634 o eitemau eu cymryd a'u fforffedu gan y tîm Safonau Masnach sy'n amcangyfrif bod gwerth y nwyddau ar y stryd fawr yn fwy na £15,000.
Rhoddwyd Gorchymyn Cosb Cymunedol o 140 awr i Mr Aslam ac fe'i gorchymynnwyd i dalu £1,000.
Dywedodd Andy Lewis, Prif Swyddog Tai a Diogelu'r Cyhoedd:
"Mae Swyddogion Safonau Masnach yn gweithio'n galed i amddiffyn y cyhoedd rhag nwyddau ffug. Mae gan aelodau'r cyhoedd hawl i brynu nwyddau cyfreithlon gan fasnachwyr cyfreithlon. Bydd swyddogion yn parhau i ymchwilio masnachwyr y maent yn credu sy'n ceisio twyllo'r cyhoedd i brynu nwyddau ffug sy'n aml yn is-safonol"
|