Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Datganiad i'r Wasg

 

16.08.06

A ydych yn ddigon effro heb larwm?

Mae Swyddogion Safonau Masnach yn Wrecsam yn annog deiliaid tai i feddwl ddwywaith os ydynt yn cael galwad ffôn annisgwyl yn cynnig cyfle iddynt brynu larwm ddiogelwch am bris gostyngol.

Maent yn cynghori deiliaid tai i:

"Gofynnwch i chi eich hun a all y cwmni o ddifrif gynnig system sy’n costio £1500 a £450 (am ei osod) am £199?  A oes raid i gwsmeriaid sy’n manteisio ar y cynnig arwyddo cytundeb i gael gwaith cynnal a chadw neu fonitro drud, gyda lleiafswm cyfnod o 3 blynedd?"

Os byddwch yn derbyn galwad yn cynnig arddangosiad am ddim, dylech:

  • Gofio bod gennych gyfnod o saith diwrnod i ystyried er mwyn cael cyfle i gymharu’r cynnyrch a’r pris a’i drafod â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo.  Mynnwch gael dyfynbris ysgrifenedig manwl.  Mynnwch ddefnyddio’r cyfnod o saith diwrnod i ystyried.
  • Peidiwch â chytuno i gael unrhyw waith wedi’i wneud o fewn y cyfnod o saith diwrnod.  Gallai eich hawl i ganslo’r gwaith ostwng os ydych yn cytuno i’r gwaith gael ei wneud.
  • Peidiwch â thalu arian parod - gellwch ddilyn trywydd siec.
  • Ystyriwch p’un a oes angen y cynnyrch arnoch.  Os oes, defnyddiwch gwmnïau cyfrifol a pharchus.  Gofynnwch i’ch teulu a’ch ffrindiau am argymhellion.

Arhoswch mewn rheolaeth - peidiwch â gadael i fasnachwyr ar garreg eich drws benderfynu sut ddylech wario eich arian.

Os ydych yn poeni am alwadau digymell neu os hoffech gyngor pellach, cysylltwch â’r Is-adran Safonau Masnach yn Adran Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 01978 296060.

 
English
 

Cysyltiadau i

Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint