Rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae pob adran yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i sicrhau bod cynlluniau wrth gefn mewn grym ar gyfer argyfyngau ac y gellir eu gweithredu’n gyflym iawn mewn achos o’r ffliw adar.
Gellir galw ar y Gwasanaeth Safonau Masnach fel is-adran gorfodaeth yr awdurdod, i ymgymryd â nifer o rolau mewn achos o’r ffliw adar, gan gynnwys:
- Gorfodi mesurau atal amrywiol, gan gynnwys cyfyngiadau’n gysylltiedig â heidiau o adar.
- Gorfodi deddfwriaeth mewn achos o’r afiechyd.
- Gorfodi cyfyngiadau symud a bod yn gysylltiedig â thrwyddedu symudiadau.
- Tynnu sylw at ardaloedd a gyfyngir.
- Y posibilrwydd o gau llwybrau cerdded yn seiliedig ar asesiadau risg milfeddygol.
- Dyletswyddau glanhau a diheintio.
- Casglu gwybodaeth am berchnogion adar a darparu cyfarwyddyd.
- Gweithio gyda phartneriaid eraill sy’n rheoli afiechydon.
- Sicrhau bod dofednod yn cael eu cadw dan orchudd.
Bydd y Gwasanaeth yn cysylltu’n agos â’r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol, Llywodraeth Cynulliad Cymru a DEFRA sef yr awdurdod arweiniol.
Adar gwyllt marw
Os ydych yn credu eich bod wedi dod ar draws adar gwyllt sydd wedi marw mewn modd anghyffredin, synnwyr y fawd yw:
- un neu fwy o elyrch neu adar gwyllt/dyfrol
- 3 neu fwy o adar o’r un rhywogaeth
- pump neu fwy o adar o’r un rhywogaeth
cysylltwch â llinell gymorth DEFRA ar 08459 335577. Pan ydych yn cysylltu â’r llinell gymorth hon, sicrhewch fod gennych gymaint ag sy’n bosibl o wybodaeth wrth law fel y gellir cynnal asesiad dechreuol. Byddwch yn amyneddgar, gall y llinell fod yn brysur iawn ar adegau.
Yn gyffredinol, nid yw aderyn gardd marw yn broblem a dylid gwaredu’r rhain ar unwaith yn y ffordd arferol.
Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’r llinell gymorth am gyngor.
Ffynonellau cyngor a gwybodaeth
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw faterion lleol a datblygiadau sy’n gysylltiedig â’r ffliw adar. Fodd bynnag, oherwydd y gall y sefyllfa newid yn gyflym rydym wedi darparu cyswllt i’r ffynonellau gwybodaeth canlynol.
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Y Ffliw Adar
Y Ffliw Adar - Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig)
Cyngor am deithio (Y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad)
Diogelu Iechyd (Yr Asiantaeth Amddiffyn Iechyd)
Pamdemig dynol (Yr Adran Iechyd)
Diogelwch bwyd (Yr Asiantaeth Safonau Bwyd)
Gwybodaeth am gofrestru haid o dros 50 o ddofednod (Defra)
|