|
Croeso i’r ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni am chwistrelli/offer miniog
Os byddwch yn dod o hyd i chwistrell:
- PEIDIWCH Â’I CHYFFWRDD
- PEIDIWCH Â’I CHUDDIO – ond gallwch ei gourchuddio er mwyn lleihau’r posibilrwydd o anaf i rywun arall. Sicrhewch fod y gorchudd yn amlwg i unrhyw un arall a allai weld y nodwydd.
- PEIDIWCH Â GWAHANU’R NODWYDD A’R CHWISTRELL
- PEIDIWCH Â’I RHOI MEWN BIN SBWRIEL NA DRAEN NA’I RHOI I LAWR Y TOILED
Mae’r ffurflen hon ar gyfer rhoi gwybod i ni am fanc ailgylchu sy’n gorlifo’n unig. Os hoffech wneud ymholiad neu awgrym, gwnewch hynny gan ddefnydio ffurflen atborth y wefan.
Byddwn yn cael gwared ar wrthrychau miniog/chwistrelli oddi ar dir y Cyngor (gan gynnwys tir yr Adran Tai, mannau chwarae i blant a meysydd parcio) o fewn 2 awr.
Byddwn yn cysylltu â pherchnogion tir agored preifat i ofyn iddynt gael gwared ar offer miniog ac os na fyddant yn gwneud hynny byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y tirfeddiannwr lle bo hynny’n bosibl.
Os nad ydym yn gallu cael gwared ar yr offer miniog neu gael gafael ar berchennog y tir, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd o fewn 5 diwrnod gwaith.
Llenwch yr adrannau isod gan roi gwybodaeth yn y blychau priodol a phwyswch y botwm CYFLWYNO i anfon eich gwybodaeth
Mae’r rhannau sydd wedi’u marcio â * yn orfodol a rhaid i chi eu llenwi. Gofynnwn i chi lenwi’r rhannau hyn fel y gallwn gysylltu â chi os nad ydym yn gallu prosesu eich cais neu os nad yw’r wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi’n glir neu’n gyflawn.
Strydoedd o Fri
Gwybodaeth gyswllt bellach
Ffôn: 01978 298989
Ebost: cysylltwch@wrexham.gov.uk
|