Mae'r adran diogelwch bwyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi hylendid bwyd yn arwain at gymhwyster sy'n cael ei gydnabod ledled y wlad. Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd sy'n llunio ac yn hyrwyddo'r cyrsiau.
Gwybodaeth sylfaenol am hylendid bwyd i holl drinwyr bwyd
Mae'r cymwysterau'n cwmpasu'r pynciau canlynol:
Lluniwyd ar gyfer pawb sy'n gweithio ym myd arlwyo, gweithgynhyrchu neu adwerthu lle bydd bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio a'i drin.
Hyd y cwrs: 2 wythnos (3 awr yr wythnos)
Dull asesu: Arholiad dewis lluosog
I'r rhai'n gweithio yn holl fusnesau bwyd fel goruchwylwyr
Mae'r cymhwyster yn cwmpasu'r pynciau canlynol:
Hyd y cwrs: 10 wythnos (2 awr yr wythnos)
Dull asesu: Arholiad dewis lluosog
O berchenogion busnesau bwyd i hyfforddwyr, o reolwyr cynhyrchu i archwilwyr hylendid, mae'r cymwysterau penodol i sector hyn yn diwallu angen diwydiant am gymhwyster ymarferol safon uchel gydag achrediad allanol.
Mae'r cymwysterau'n cwmpasu'r pynciau canlynol:
Lluniwyd ar gyfer: rheolwyr a goruchwylwyr a phersonél hylendid uwch.
Hyd y cwrs: 14 Wythnos (3 awr yr wythnos)
Dull asesu : 2 aseiniad ysgrifenedig ac arholiad
Darllen Rhaglen y Cyrsiau a Prisiau ar lein, a threfnu mynd ar gwrs