Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Arolygiadau Glanweithdra Bwyd

 

Wrecsam yn cyhoeddi canlyniadau arolygiadau glanweithdra bwyd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cyflwyno system sêr ar ei wefan sy'n caniatáu'r cyhoedd i weld canlyniadau arolygiadau glanweithdra bwyd a wnaed yn ardal Wrecsam yn ddiweddar.

Cronfa Ddata Glanweithdra Bwyd
Mae'r rhestr adeiladau gyfredol yn cyfeirio at archwiliadau a gynhaliwyd ers 1af Medi 2006 ac fe'i diweddarir yn rheolaidd.

Ar hyn o bryd, dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gan unrhyw un yr hawl i ofyn am wybodaeth am fannau bwyd a gweld unrhyw adroddiadau a anfonwyd.  Mae'r cynllun hwn yn caniatáu i unrhyw un weld y wybodaeth ond mewn ffordd sy'n haws ei deall.

Beth yw'r manteision?

I'r cyhoedd

Anela'r cynllun newydd at godi safonau glanweithdra bwyd i gwsmeriaid ac mae'n rhoi cyfle i'r cyhoedd wneud dewisiadau call am ble maent yn bwyta neu brynu bwyd, yn seiliedig ar ddiogelwch bwyd. 

I fusnesau

Mae'r cynllun yn hysbyseb dda am safonau uchel o lanweithdra a allai wella busnes a'u gwobrwyo am eu hymdrechion.  Mae sawl awdurdod lleol ledled y wlad yn cymryd rhan yn y cynllun sy'n cael ei alw'n "Sgorau ar Ddrysau" ar hyn o bryd.

Sut mae'r cynllun yn gweithio

Gofynnir i'r Cyngor arolygu'r holl fusnesau sy'n gweini, paratoi neu werthu bwyd a gwneir hyn gan swyddogion iechyd amgylcheddol a swyddogion diogelwch bwyd sy'n meddu ar y cymwysterau a'r awdurdod i wneud yr arolygiadau hyn.  Ar adeg yr arolygiad, asesir busnesau yn erbyn ystod o feini prawf gan gynnwys cydymffurfiad â deddfwriaeth glanweithdra bwyd.  Mae swyddogion yn asesu eu hyder mewn rheoli'r busnes hefyd.  Mae'r asesiad hwn yn arwain at sgôr a ddefnyddir i benderfynu pa mor aml y dylid arolygu'r eiddo.  Defnyddir y sgôr nawr i gyfrif marc sêr y cynllun hefyd.

Sylwer mai dim ond eiddo mawr neu eiddo sy'n trin neu sy'n paratoi bwyd risg uchel a fydd yn rhan o'r cynllun ac mae hyn yn eithrio siopau papur, canolfannau cymuned a thafarndai nad ydynt yn gwerthu bwyd felly.

Y system sgorio

Caiff pob busnes sgôr yn unol â'r tri phwynt canlynol:

Glanweithdra a diogelwch bwyd

Pa mor dda y caiff bwyd ei drin, glendid yr eiddo.

Strwythur 

Cyflwr y strwythur, trwsio, goleuadau, awyru, diogelu rhag plau.

Hyder yn y Rheolaeth

Tystiolaeth o system rheoli bwyd, hanes o gydymffurfiad, agwedd gyffredinol y rheolwyr. 

Mae'r sgôr yn arwain at roi un o'r marciau sêr canlynol:

5 seren = Safonau glanweithdra rhagorol.  Safonau uchel o gydymffurfiad â deddfwriaeth bwyd.  Hyder uchel yn y rheolwyr.  Gwobr glanweithdra bwyd aur.

4 seren = Safonau glanweithdra uchel iawn.  Lefel dda iawn o gydymffurfiad.  Hyder yn y rheolwyr.  Gwobr glanweithdra bwyd arian.

3 seren = Safonau da o lanweithdra.  Rhai mân-doriadau.  Record rhesymol o gydymffurfiad.  Gwobr glanweithdra bwyd efydd.

2 seren = Ychydig o beidio â chydymffurfio â materion glanweithdra.  Hyder boddhaol yn y rheolwyr.  Safonau'n cael eu cynnal.

1 seren = Angen mwy o ymdrech. Gwerthfawrogiad drwg o beryglon.

0 seren = Safonau isel yn gyffredinol. Gwerthfawrogiad prin o lanweithdra bwyd.

Os hoffai perchennog busnes bwyd wneud sylwadau ar y sgorau y maent wedi eu cael, mae 'hawl i ymateb' ar gael ar y wefan.  Gallai hyn fod yn ddefnyddiol os gwnaed gwaith gwella ar yr eiddo ers yr arolygiad diwethaf.  Fodd bynnag, bydd y marciau sêr yn dal i fodoli hyd nes yr arolygiad cynlluniedig nesaf.

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint