Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Trawsleoli Coed Ginkgo yn Wrecsam

 

Trawsleoli Coed Ginkgo yn Wrecsam

Yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig 2005, symudodd Is-Adran Coed Adran yr Amgylchedd Cyngor Wrecsam 10 o goed hanesyddol, Ginkgo biloba, o Ddôl Eryrod i Barc Acton.

Nid yw Ginkgos yn arbennig o gyffredin yn y DU a byddech yn eu gweld mewn gerddi ffurfiol neu arboreta fel arfer.  Maent yn frodorol i Tseina a chredwn eu bod wedi bod o gwmpas ers rhyw 200 miliwn o flynyddoedd sy’n eu gwneud yn rhai o’r mathau hynaf o goed yn y byd.

Taith Mewn Llumiau

Llun 1

Fel rhan o ailddatblygiad hen safle Asda, codwyd y coed Ginkgo o’r cylchoedd concrid lle plannwyd nhw yn (llun 1) yn ystod y 1990au cynnar

Llun 1
Llun 1

Llun 2

Mae gwreiddiau’r coed yn cael eu tocio er mwyn cael gwared ar unrhyw wreiddiau sydd wedi torri neu wedi eu difrodi a chânt eu lapio mewn hesian a basged (llun 2) i’w cadw’n gynnes a’u hatal rhag sychu allan.

Llun 2
Llun 2

Llun 3 a 3b

Cludir y coed mewn trelar i Barc Acton a chânt eu tynnu gan gerbyd arbenigol i leihau unrhyw ddifrod a chywasgiad i’r man glaswelltog ger y llyn lle caiff y coed eu plannu (llun 3 a 3b).

Llun 3
Llun 3
Llun 3b
Llun 3b

Llun 4, 5, 6 a 7

Mae tyllau’r coed yn cael eu palu â chymorth peiriant palu â thraciau er mwyn lleihau’r pridd sy’n crynhoi o gwmpas y tyllau (llun 4).  Caiff y coed eu codi a’u gosod yn y tyllau gan sling ar y peiriang palu sydd ynghlwm wrth yr offer codi coed (llun 5).  Unwaith yn y twll (llun 6), mae’r goeden yn cael ei hangori gan system angor danddaear a gynlluniwyd i’r pwrpas sy’n cael ei gyrru i mewn i’r ddaear (llun 7).

Llun 4
Llun 4
Llun 5
Llun 5
Llun 6
Llun 6
Llun 7
Llun 7

Llun 8 a 9

Mae pethau’n dechrau siapio wedyn .... (llun 8) ac yna’r diweddglo .... (llun 9).

Llun 8
Llun 8
Llun 9
Llun 9

 

 
English
 

Cyswllt i

Mynegai Gwasanaethau Amgylcheddol
Gwybodaeth Gyswllt
Gwasanaethau Lleol Eraill
Rhifau Argyfwng / Defnyddiol
Cyfleusterau Ar Lein
Ymateb
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint