Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Rhoi Sgipiau ar y Ffordd Fawr Gyhoeddus

 

Llun o sgipGweithdrefnau i Gwmnïau sy'n dymuno rhoi Sgipiau ar y Ffordd Fawr Gyhoeddus.

Yn unol ag Adran 139 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mae'n rhaid i unrhyw gwmni sy'n dymuno rhoi sgip ar ffordd fawr gyhoeddus, llwybr troed, maes parcio neu unrhyw dir arall sy'n berchen i'r priffyrdd gofnodi eu bwriad yn gyntaf â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel yr Awdurdod Priffyrdd. I wneud hyn mae'n rhaid iddynt wneud cais am ffurflen i gofrestru trwydded sydd ar gael gan Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd, C.B.S.W, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL13 7TH . Er mwyn cymeradwyo'r cais bydd rhaid derbyn tystiolaeth ddilys o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sydd o leiaf £5 miliwn.

Unwaith y caniateir y drwydded, gall y Cwmni Sgipiau yna wneud cais unigol i leoli sgipiau ar y ffordd fawr, a gellir gwneud hynny dros y ffôn. Bydd Swyddog Cynnal a Chadw Priffyrdd yna'n archwilio'r safle ac yna gwneir penderfyniad p'un ai i roi caniatâd a pha ofynion diogelwch ychwanegol sy'n angenrheidiol (h.y. goleuadau, conau, arwyddion ayb). Cost pob trwydded caniatâd fydd £15. Y mwyafswm cyfnod am unrhyw drwydded caniatâd unigol yw mis, ac ar ôl hynny. Byddai angen i'r cwmni ail gyflwyno cais a bydd cost ychwanegol o £15.

Yn unol ag Adran 139 o Ddeddf Priffyrdd 1980, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cadw'r hawl i wrthod caniatâd neu wneud cais i symud unrhyw sgip a ystyrir i fod yn beryglus.

Am wybodaeth bellach, cysyllter â'r Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd ar 01978 298989 neu ar yr ebost highwaymaintenance@wrexham.gov.uk

Ffurflen Gofrestru Trwydded Sgip

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Ffurflen Gofrestru Trwydded Sgip - Fersiwn MS Word 33Kb 33Kb

Ffurflen Gofrestru Trwydded Sgip - Fersiwn PDF 77Kb

Ffurflen Gofrestru Trwydded Sgip - Fersiwn Testun Plaen 28Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 
English
 

Cyswllt i

Trwyddedu
Busnes a Diwydiant


Lawrlwytho'r ffurflen i gofrestru trwydded
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint