Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Darparu Lluniaeth Hwyr y Nos

 

Deddf Drwyddedu 2003 Darparu Lluniaeth Hwyr y Nos

Rhaid i ddalwyr trwyddedau wneud cais amdrwydded newydd rhwng 7 Chwefror a 6 Awst 2005

Mae’r gyfraith yn newid!

Mae Deddf Drwyddedu 2003 wedi newid y gyfraith o ran gwerthu alcohol, darparu adloniant cyhoeddus a darparu lluniaeth hwyr y nos. Mae’r rhain i gyd yn dod yn weithgareddau trwyddedadwy o dan y Ddeddf Drwyddedu.

O Chwefror 2005 ymlaen, bydd trefn drwyddedu newydd yn cael ei chyflwyno’n raddol, ac yn y pendraw, bydd y Cynghorau Dosbarth (Awdurdodau Trwyddedu) yn rhoi un drwydded i adeiladau sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hyn. Erbyn oddeutu mis Tachwedd 2005 ni fydd yr Ynadon Trwyddedu bellach yn gysylltiedig â rhoi trwyddedau gwirodydd.

Yr hen gyfraith

Nes i’r Ddeddf Drwyddedu ddod i rym, roedd adeiladau a oedd yn darparu bwyd i gwsmeriaid:

  • a) rhwng 10.00 pm a 5.00 am,
  • b) lle y gallai’r cwsmeriaid fwyta wrth fyrddau a chadeiriau o fewn yr adeiladau ac
  • c) heb drwydded gwirodydd

yn gorfod cael trwydded o dan ddarpariaethau’r Ddeddf Tai Lluniaeth Hwyr y Nos 1969. Roedd y ddeddfwriaeth ychydig yn wahanol yn Llundain. Roedd gan bron i bob bwyty drwydded gwirodydd ac felly nid oedd y Ddeddf hon yn berthnasol iddynt. Nid oedd byrddau a chadeiriau yn y mwyafrif o siopau bwyd cynnes a oedd ar agor ar ôl 10.00 pm ac heb drwydded wirodydd, ac felly roddent hwythau’n osgoi’r angen i gael trwydded.

Felly, ychydig iawn o adeiladau yn Wrecsam oedd â thrwyddedau o dan y ddeddfwriaeth hon.

Y gyfraith newydd

O dan Ddeddf Drwyddedu 2003, rhaid i unrhyw un sy’n darparu lluniaeth hwyr y nos ddal trwydded adeiladau gan y Cyngor. Yn aml, bydd adeiladau o’r fath yn darparu alcohol hefyd (sydd hefyd yn weithgaredd trwyddedadwy) a byddai un Drwydded Adeiladau yn cael ei roi ar gyfer y ddau weithgaredd. Bydd angen Trwydded Bersonol ar unrhyw un sy’n gwerthu alcohol hefyd.

Nid oes raid i’r bwyd cynnes gael ei fwyta yn yr adeilad felly erbyn hyn mae’r drwydded yn berthnasol i siopau têc-awe hefyd.

Beth yw Lluniaeth Hwyr y Nos?

Mae unigolyn yn darparu lluniaeth hwyr y nos os:

  • cyflenwir bwyd cynnes neu ddiod gynnes
  • i aelodau o’r cyhoedd
  • rhwng 11.00 pm a 5.00 am
  • ar neu o unrhyw adeilad.

Mae “cynnes” yn golygu bod y bwyd wedi’i gynhesu a’i fod yn cael ei gyflenwi wedi’i gynhesu neu fod modd ei gynhesu yn yr adeilad ar ôl ei werthu. Eithriadau

Mae’r eithriadau canlynol yn berthnasol:

Os yw’r unigolyn sy’n cael ei gyflenwi â bwyd neu ddiod gynnes yn:

  • aelod o glwb cydnabyddedig;
  • aros mewn gwesty, llety gwely a brecwast, safle carafannau, ac ati am y noson;
  • weithiwr sy’n cael ei gyflenwi gan ei gyflogwr;
  • rhan o fasnach neu broffesiwn arbennig;
    neu
  • westai i unrhyw un o’r uchod.

Mae’r canlynol hefyd yn eithriadau:

  • diodydd cynnes sy’n cynnwys alcohol;
  • diodydd cynnes o beiriannau gwerthu;
  • bwyd neu ddiod gynnes a ddarperir am ddim;
  • cyflenwad o fwyd neu ddiod gynnes gan elusen gofrestredig ;
    neu
  • gyflenwad o fwyd a diod gynnes oddi ar gerbyd sydd heb ei barcio.

Mae eithriadau eraill yn bodoli yn ardal Llundain Fawr, ond nid yw hynny’n cynnwys unrhyw ran o ardal Wrecsam.

Mae hyn yn golygu y bydd angen trwydded ar unrhyw siop têc-awe neu fwyty sy’n cyflenwi bwyd neu ddiod gynnes ar ôl 11.00 pm.

Adeiladau sy’n cyflenwi alcohol

Bydd angen trwydded adeiladau o dan y Ddeddf er mwyn gwerthu neu gyflenwi alcohol hefyd. Bydd hyn, ynghyd â thrwydded adeiladau i gyflenwi bwyd a diod gynnes, yn ffurfio un drwydded.

A fydd angen trwydded arnaf?

Fel y disgrifir uchod, bydd angen i unrhyw fwyty sy’n cyflenwi bwyd cynnes ar ôl 11.00 pm sicrhau bod eu trwydded adeiladau yn cynnwys darparu lluniaeth hwyr y nos ar yr un drwydded sy’n eu caniatáu i gyflenwi neu werthu alcohol.

Bydd angen i siopau têc-awe bwyd cynnes sydd ar agor ar ôl 11pm gael trwyddedau, hyd yn oed os nad oedd trwydded ganddynt o dan yr hen ddeddfau. Mae hyn yn cynnwys siopau têc-awe Tsieineaidd, siopau cebab, siopau pizza, siopau pysgod a sglodion, tai cyri ac ati, hyd yn oed os ydynt yn siopau têc-awe yn unig neu p’un a oes ganddynt fyrddau a chadeiriau ai peidio. Erbyn hyn, mae’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i orsafoedd petrol a siopau eraill sy’n gwerthu bwyd y gellir ei gynhesu mewn popty microdon ar ôl ei werthu.

Digwyddiadau dros dro

Gall Rhybudd Digwyddiadau Dros Dro (TEN) gynnwys darparu lluniaeth hwyr y nos. Felly bydd cyflenwi byrgers, selsig neu gnau castan poeth, mewn digwyddiadau dros dro megis arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus ac ati, ar ôl 11 pm yn rhan o’r TEN. Mae taflen ar wahân ar gael ar gyfer Digwyddiadau Dros Dro.

Rheolaethau eraill

Nid yw trwydded adeiladau sy’n caniatáu i chi ddarparu Lluniaeth Hwyr y Nos yn golygu fod yr adeilad yn eithriedig oddi wrth reolaethau eraill megis Diogelwch Bwyd, Iechyd a Diogelwch yn y gwaith ac ati, diogelwch tân neu reolaethau llygredd sŵn ac mae’n rhaid i drefnwyr sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ddeddfwriaethau eraill.

Gwybodaeth bellach

Os hoffech gyngor pellach am weithgareddau trwyddedadwy, cysylltwch â ni.

Mae’r daflen hon yn darparu cyngor sy’n seiliedig ar wybodaeth a oedd ar gael pan ysgrifennwyd y daflen ac fe allai hon newid. Canllaw yn unig ydyw ac nid yw’n darparu cyngor cyfreithiol awdurdodol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r:

Adran Drwyddedu
Adeiladau’r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8ZE

Rhif ffôn: 01978 297022

Ebost: environmental@wrexham.gov.uk

Ffurflen ymholiadau cyffredinol ar lein

 
English
 

Cyswllt i

Trwyddedu
Gwybodaeth Gyswllt
Gwasanaethau Lleol Eraill
Rhifau Argyfwng / Defnyddiol
Cyfleusterau Ar Lein
Ymateb
Mynegai Gwasanaethau Amgylcheddol
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint