Ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau 2010

Unwaith eto cawsom flwyddyn lwyddiannus iawn gan dderbyn gwobr Golch Arian y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol am ein hymgyrch Cymru yn ei Blodau2009, dim ond fymryn y tu ôl i Gasnewydd yng nghategori’r Dinasoedd. Cafodd y Waun hefyd gydnabyddiaeth fawr am waith y gymuned ar ei harddangosfeydd blodeuol a gwelliannau amgylcheddol gan dderbyn Golch Arian yng nghategori Tref Wledig Fechan. Gwnaeth ward wledig Llangollen yn dda iawn hefyd, gan ddod yn ail yn achlysur Cymuned Wrecsam yn ei Blodau.

Yn 2010 rydym yn gobeithio adeiladu ar y gamp hon, trwy eto annog pob rhan o’r gymuned i greu bwrdeistref lanach a gwyrddach yn Wrecsam, trwy welliannau parhaol i’r amgylchedd.

Yr haf hwn mae llwybr Wrecsam yn ei Blodau’n ymweliad â wardiau Llangollen Wledig, Cefn ac Offa cyn mynd i mewn i Ganol Tref Wrecsam. Bydd y beirniaid yn cael profiad o groesi ‘Safle Treftadaeth y Byd’ – Pont Ddŵr Pontcysyllte mewn cwch camlas ac ymweld â chymunedau Froncysyllte, Trefor a Garth. Ar ôl hyn, byddwn yn teithio trwy Acrefair a Chefn gan edrych ar y gwelliannau Treftadaeth i’r pentrefi a wnaed dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.

Bydd ardaloedd eraill o’r fwrdeistref nad ydynt ar y llwybr hefyd yn elwa ar ein hymdrechion. Bydd adrannau Cyngor Wrecsam yn gweithio’n agos gyda Chynghorau Cymuned a busnesau lleol ac, ynghyd â chyllid Cadw Cymru’n Daclus Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Tref Daclus) byddwn yn gwneud amryw welliannau i’r amgylchedd eleni.


Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar:

  • Sicrhau bod ein hamgylchedd yn wyrddach drwy arddangosiadau blodau, plannu prysgwydd a choed parhaol, tirlunio a chadwraeth natur.
  • Gwella glanweithdra drwy gael gwared ar sbwriel a graffiti, mynd i'r afael â fandaliaeth ac annog pawb i ailgylchu.
  • Annog siopau a busnesau i wella eu hadeiladau a chefnogi'r ymgyrch drwy noddi ac arddangosiadau blodau megis basgedi crog.
  • Annog trigolion i wella eu gerddi eu hunain.

yn ôl i'r brig

Oriel


Gwely blodau crwn y tu allan i Neuadd y Dref


Cennin Pedr mewn Planhigfa


Planhigion i'w plannu allan yn y Parciau


Pont yn Nôl yr Eryrod

Wrexham In Bloom Portfolio

Cymru yn ei Blodau Portffolio Wrecsam 2010

Cymru yn ei Blodau Portffolio Wrecsam 2010 - Fformat PDF 2.88Mb


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Cysylltiadau perthnasol

Mae ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau yn annog pawb i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol i’w hamgylchedd. Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ganfod mwy...

Rhandiroedd yn Wrecsam

Am fwy o wybodaeth am safleoedd rhandiroedd a gynhelir gan Adran Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

www.walesinbloom.org.uk

Darganfyddwch fwy am yr ymgyrch Cymru yn ei Blodau a gallwch weld enillwyr o’r gorffennol.

www.rhs.org.uk

Gallwch gael awgrymiadau arbenigol ar gyfer garddio, dod o hyd i leoedd i ymweld â nhw a chanfod mwy am waith y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.

www.bbc.co.uk/gardening

Defnyddiwch y cyfleuster ar-lein i ddod o hyd i blanhigion addas ar gyfer eich gardd, dysgwch o’r adran ‘Sut’ a dewch o hyd i ddigwyddiadau ‘gwyrdd’

www.bbc.co.uk/breathingplaces

Syniadau ac awgrymiadau ar gyfer dulliau garddio sy’n ffafriol i fywyd gwyllt a chreu cynefinoedd.

www.bbc.co.uk/earth/nature/uk/natureofbritain/

Darganfyddwch fwy am dirweddau, cynefinoedd a bywyd gwyllt Prydain.

www2.btcv.org.uk

www.groundwork.org.uk

Cyfleoedd gwirfoddol mewn cadwraeth a gwelliant amgylcheddol ledled y DU.

yn ôl i'r brig

Manylion gyswllt

Am ragor o fanylion am ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau:

Rhifau ffôn defnyddiol erail

Parc Gwledig Dyfroedd Alun: 01978 763140

Y Parciau: 01978 264150

Parc Gwledig Melin y Nant: 01978 752772

Parc Gwledig Tŷ Mawr: 01978 822780

Parc y Ponciau: 01978 844028

yn ôl i'r brig