Ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau - Calendr Garddio: Gwaith i'w Wneud Bob Mis

Ionawr

  • Ailgylchu eich coeden Nadolig.
  • Ystyried gadael rhan o’ch gardd yn ‘wyllt’ y flwyddyn hon, fel gwarchodfa i fywyd gwyllt - creu pentyrrau o goed ar gyfer creaduriaid asgwrn cefn, plannu hadau blodau gwyllt neu blannu coed i dyfu aeron ar gyfer adar.
    Tocio coed afalau a gellyg.
  • Dechrau cymell riwbob

Chwefror

  • Cymell cloron tatws i flaguro.
  • Gosod rhwyd dros gnydau llysiau i gadw’r adar oddi arnynt.
  • Rhannu bylbiau

Mawrth

  • Plannu tatws cynnar a sialóts.
  • Rhoi compost di fawn ffres ar botiau
  • Gwirio gwrychoedd cyn gwneud unrhyw waith cynnal a chadw - bydd adar yn nythu mewn gwrychoedd yn ystod y gwanwyn a gall unrhyw aflonyddwch arwain at adar yn gadael eu nythod, wyau neu gywion

Ebrill

  • Plannu hadau blodau blynyddol a pherlysiau.
  • Diogelu blodau ffrwythau rhag rhew hwyr.
  • Cadw chwyn dan reolaeth

Mai

  • Priddo o amgylch y tatws.
  • Plannu planhigion haf lliwgar ar ddiwedd mis Mai.
  • Ymchwilio i brynu casgen ddŵr i arbed dŵr

Mehefin

  • Tynnu tyfiant ochr ar blanhigion tomatos.
  • Cynaeafu letys, tatws cynnar ar radis.
  • Gosod basgedi crog a photiau

Gorffennaf

  • Cymryd gofal ychwanegol o’ch gardd ar gyfer Wrecsam yn ei Blodau!
  • Dyfrio tybiau wrth i’r dyddiau gynhesu – ond cofiwch ddyfrio yn y bore neu gyda’r nos i sicrhau ei fod fwyaf effeithiol.
  • Tynnu blodau marw oddi ar blanhigion

Awst

  • Casglu hadau o’ch hoff blanhigion i’w defnyddio’r flwyddyn nesaf.
  • Tocio wisteria.
  • Cynaeafu llysiau.
  • Codi a rhoi ymledwyr mefus mewn potiau i wreiddio.

Medi

  • Cynaeafu mafon yr hydref.
  • Glanhau’r fframiau oer yn barod i’w defnyddio.
  • Tocio gwrychoedd bythwyrdd.

Hydref

  • Casglu dail yr hydref i’w defnyddio mewn bin compost.
  • Rhannu coronau riwbob i’w symud neu eu rhannu â chyfeillion.
  • Tocio’r rhosod dringo

Tachwedd

  • Gwirio coelcerthi cyn eu tanio – bydd draenogod yn aml yn ceisio gaeafgysgu ynddynt. Defnyddiwch goes brws neu gribyn i godi gweddillion y goelcerth gan y gall ffyrch niweidio draenogod sy’n gaeafgysgu

Rhagfyr

  • Plannu unrhyw goed a llwyni collddail.
  • Cynaeafu cennin, pannas, bresych gaeaf ac ysgewyll.
  • Cadw bwydwyr a baddonau adar yn llawn

Ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau

yn ôl i'r brig