|
Mae'r
dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ar wasanaeth Iechyd a Diogelwch Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n rhan o Adran Gwarchod y Cyhoedd.
Nod y gwasanaeth Iechyd a Diogelwch yw gwarchod iechyd a diogelwch a
lles gweithwyr, a diogelu eraill, yn enwedig y cyhoedd, a all fod mewn
perygl oherwydd gweithgareddau gwaith.
Gweler hefyd Gwybodaeth Safonau Iechyd a Diogelwch wrth Weithio
Mae'r prif gyfrifoldeb am sicrhau iechyd a diogelwch
yn y gweithle yn perthyn i'r sawl sy'n creu'r risg, ac mae angen i gyflogwyr,
yn arbennig, wneud trefniadau addas a digonol i reoli iechyd a diogelwch.
Mae swyddogion yn yr adain yn gyfrifol am orfodi darpariaethau Deddf
Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 ym mhob eiddo lle mae gan y
Cyngor gyfrifoldebau gorfodi. Mae'r eiddo yn cynnwys warysau a stordai,
swyddfeydd a siopau, canolfannau garddio a chartrefi gofal preswyl. Mae
rhestr lawn o'r eiddo a gaiff eu gorfodi gan yr Awdurdod Lleol i'w chael
yn y Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi) 1998.
Mae'r gweithgareddau a ymgymerir gan y swyddogion fel a ganlyn:-
-
Archwilio damweiniau a cheisio rhwystro ail-ddigwyddiad
-
Archwilio eiddo yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfio gyda deddfwriaeth
iechyd a diogelwch. Mae hyn yn digwydd dan system sy'n seiliedig ar
flaenoriaeth. Mae amlder ymweliadau yn dibynnu ar fath a maint eiddo,
y gwaith a ymgymerir a hanes iechyd a diogelwch yr eiddo.
-
Archwilio a datrys cwynion yn ymwneud ag amodau gweithle.
-
Hybu ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch i gyflogwyr a gweithwyr trwy
roddi gwybodaeth, cyngor a chwarae rhan mewn ymgyrchoedd cenedlaethol.
-
Cofrestru a thrwyddedu sefydliadau tyllu'r croen a thatwio.
-
Rhoi cyngor i fusnesau. Rydym yn ateb cwestiynau gan berchnogion
busnes sydd angen gwybodaeth sylfaenol ar iechyd a diogelwch yn y
gwaith. Yn aml, medrwn wneud hyn ar y ffôn a/neu anfon taflenni
esboniadol.
-
Rhoi cyngor i weithwyr. Efallai y bydd angen i weithwyr sy'n dioddef
problemau iechyd a diogelwch yn y gwaith neu sydd â phryderon
neu gwestiynau, drafod eu sefyllfa gyda rhywun y tu allan i'r gwaith.
Medrwn gynnig cyngor a/neu ddelio gyda'r ymholiad fel cwyn. Os yw
Swyddog yn archwilio, ni ddatgelir enw'r achwynnydd.
yn ôl i'r brig
Taflenni Cyngor Iechyd a Diogelwch
Mae'r Taflenni Cyngor ar Iechyd a Diogelwch ar y wefan hon yn rhoi ystod
eang o wybodaeth ar Iechyd a Diogelwch Busnes, sydd ar gael i'w darllen
ar lein, neu eu llwytho i'ch cyfrifiadur ar ffurf Microsoft Word, Adobe
Acrobat PDF neu destun plaen.
Cyswllt i'r Taflenni Cyngor Iechyd a Diogelwch
yn ôl i'r brig
Gwybodaeth Gyswllt
Os ydych eisiau unrhyw wybodaeth bellach ar ein gwasanaethau, yna
cysylltwch gyda ni:
Ffôn: 01978 292040
Ffacs: 01978 297003
Ebost environmental@wrexham.gov.uk | Ffurflen
ymholiadau cyffredinol ar lein
Cyfeiriad:
Adran Gwarchod y Gyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron
Blwch SP 1297
Wrecsam
LL13 8ZE
Cysylltiadau Defnyddiol Perthynol:
Gwefan Gweithredwyr Iechyd a Diogelwch
Gwefan Canolfan Gyswllt os oes
Digwyddiad
|