|
Cynlluniwyd y cyngor canlynol i roi
dealltwriaeth sylfaenol o asbestos a defnyddiau sy’n cynnwys asbestos.
Mae’n fan cychwyn i’r rhai hynny sydd â chwestiwn am
asbestos, un ai deiliad ty neu fusnes. Mae’r tudalennau canlynol
yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau pellach a manylion o gyhoeddiadau
sy’n cynnwys cyfarwyddyd cynhwysfawr ar bynciau o weithio gydag
asbestos i ddeddfwriaeth.
Beth yw asbestos?
Mae asbestos yn air a ddefnyddir ar gyfer grwp o fwnau sy’n digwydd
yn naturiol, sydd â golwg crisial ffeibrog. Mae tri math o asbestos
wedi cael eu defnyddio’n fasnachol ar gyfer amryw gynnyrch –
asbestos glas, asbestos brown ac asbestos gwyn.
Mae pob math yn beryglus gan fod y ffeibrau’n torri i lawr i ffurfio
nodwyddau mân iawn y gellir eu hanadlu i mewn i’r ysgyfaint.
Gall y mathau gwahanol o asbestos amrywio o ran lliw ac ni ellir gwahaniaethu
rhyngddynt yn ôl eu lliw yn unig. Mae angen dadansoddiad labordy
bob tro.
yn ôl i'r brig
Pam fo asbestos yn beryglus?
Gall anadlu aer sy’n cynnwys ffeibrau asbestos arwain at glefydau
sy’n gysylltiedig ag asbestos, canser yr ysgyfaint a leinin y fron
yn bennaf. Clefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos yw’r lladdwyr
iechyd galwedigaethol mwyaf yn y DU gyda 3,000 o bobl yn marw bob blwyddyn,
25% o’r rhain wedi gweithio ym meysydd adeiladu a chynnal a chadw
ac wedi gweithio, yn ddiarwybod, gyda defnyddiau a oedd yn cynnwys asbestos.
yn ôl i'r brig
Pwy sydd mewn perygl?
Mae nawr yn anghyfreithlon defnyddio asbestos wrth adeiladu neu ailwampio
eiddo, ond defnyddiwyd miloedd o dunnelli yn y gorffennol a bydd llawer
ohono yn dal i fod mewn lle. Cyn belled ag y bo’r asbestos mewn
cyflwr da ac na fydd yn cael ei symud na’i ddifrodi, nid oes perygl.
Fodd bynnag, os caiff ei symud neu ei ddifrodi, gall fod yn beryglus oherwydd
gallai’r ffeibrau nodwyddog gael eu rhyddhau i’r aer a chael
eu hanadlu i mewn.
Gall unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â’r ffeibrau fod
mewn perygl. Y rhai sydd mewn perygl fwyaf yw’r rhai sy’n
symud yr asbestos, unrhyw un y mae ei waith yn cynnwys drilio, llifio
neu dorri i mewn i ddefnydd eiddo. Mae’r dystiolaeth wyddonol o
ran graddau o berygl yn aneglur ond gwyddom po fwyaf yr asbestos sy’n
cael ei anadlu i mewn, y mwyaf yw’r perygl i iechyd.
yn ôl i'r brig
Ble mae asbestos mewn adeilad?
Gellir darganfod asbestos unrhyw le mewn adeilad. Yn gyffredinol, mae’r
cynnyrch sy’n cynnwys canran uchel o asbestos (hyd at 90%) yn fwy
bregus, megis ynyswyr pibelli neu foileri. Mae’r cynnyrch sy’n
cynnwys canrannau isel o asbestos (10-15%) megis toeau sment asbestos,
yn gryfach. Yn y rhain, mae’r ffeibrau’n cael eu gosod yn
y sment a byddant yn cael eu rhyddhau dim ond os yw’r defnydd yn
cael ei ddifrodi’n wael, ei dorri, ei ddrilio neu ei daenu, ayb.
Rydych fwyaf tebygol o ddod ar draws asbestos yn y defnyddiau isod:
-
asbestos wedi ei chwistrellu a phecynnu rhydd – a ddefnyddir
i atal tân mewn tai gwag
-
ynysiad wedi ei fowldio neu ei gyn-ffurfio – a ddefnyddir
i insiwleiddio pibelli a boileri
-
asbestos wedi ei chwistrellu – a ddefnyddir i atal tân
mewn pibelli, paneli, gwaith dur, rhaniadau, byrddau a phaneli nenfwd
-
byrddau insiwleiddio a ddefnyddir i atal tân, insiwleiddio,
rhaniadau a phibelli
-
rhai teiliau nenfwd
-
cynnyrch papur a ddefnyddir i insiwleiddio cyfarpar trydanol. Defnyddiwyd
papur asbestos fel arwyneb atal tân hefyd
-
sment asbestos a ellir ei wasgu i haenau gwastad neu rychog, landeri,
pibelli dwr a thanciau dwr
-
rhai arwynebau
-
peth defnydd to bitwmen
-
teiliau llawr finyl neu thermoplastig
Dechreuwyd defnyddio asbestos yn fasnachol yn y DU oddeutu diwedd y 1800au
a chynyddodd yn raddol tan 1939. Yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd,
defnyddiwyd llawer o asbestos, yn enwedig ar gyfer adeiladau newydd yn
y 1950au, 60au a’r 70au. Defnyddiwyd cynnyrch asbestos yn rheolaidd
hefyd wrth ailwampio hen adeiladau. Ers y 1980au hwyr, daeth ei ddefnydd
i ben yn raddol a gorfodwyd gwaharddiad llwyr yn 1999.
|