|
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth
ar Fynwent Wrecsam, a reolir gan Wasanaethau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam.
Gweler hefyd Cwestiynau
a Ofynnir Amlaf ar Farwolaeth
Mynwent Wrecam - Hanes Byr
Agorwyd y fynwent ar gyfer claddedigaethau ym mis Ebrill 1876.
Cynlluniwyd y fynwent gan Yeo Strachan, Syrfëwr Bwrdeistref Wrecsam
ar y pryd. Yn wreiddiol mewn 10 erw yn union y tu cefn i gapel y fynwent,
cynlluniwyd y fynwent fel 'mynwent gardd' i bobl y Fwrdeistref ei mwynhau.
Mae'r rhan fwyaf o'r cynllun gwreiddiol wedi goroesi ac yn cynnwys llawer
o'r coed a blannwyd gan Strachan.
Dros y blynyddoedd, mae ffiniau'r fynwent wedi eu hymestyn. Yn gyntaf
i'r llinell o Boplys Lombardi, sy'n gwahanu'r rhannau hyn a'r mannau claddu
glaswelltog presennol, ac yn ddiweddarach i'r ffin bresennol yn amgáu'r
ardaloedd sydd wedi eu defnyddio o'r 1970au ymlaen.
Dyluniwyd capel a phorthordy mynediad y fynwent gan y pensaer William
Turner, cyn-Faer y Fwrdeistref. Mae nifer o nodweddion y fynwent, gan
gynnwys y capel, porthordy'r fynwent a'r gatiau mynediad pilerog, yn adeiladau
a ddynodwyd fel rhai Rhestredig Graddfa II.
Mae meini coffa'r beddau a leolir yn y rhannau Fictoraidd gwreiddiol
hefyd wedi eu Rhestru fel rhai o ddiddordeb pensaernïol.
yn ôl i'r brig
Oriau Agor
Mae'r fynwent ar agor i'r cyhoedd yn ystod yr oriau canlynol:-
1 Ebrill - 31 Hydref
Ar Agor 10.00 am, Ar gau 6.00 pm.
1 Tachwedd to 31 Mawrth
Ar Agor 10.00 am, Ar gau 4.00 pm.
yn ôl i'r brig
Cerbydau
Caiff ymwelwyr barcio cerbydau ar y blaengwrt o flaen capel y fynwent
yn ystod oriau agor.
Ar wahân i gerbydau sy'n rhan o orymdaith angladd, ni chaniateir
cerbydau yn y fynwent ei hun, oni cheir caniatâd yr awdurdod.
Ac eithrio adegau pan gynhelir neu pan ddisgwylir cynhebrwng angladd ar y safle, caniateir mynediad i 5 cerbyd sy’n arddangos ‘Cerdyn Glas” a gydnabyddir gan yr UE fan bellaf.
Gofynnir i yrwyr pob cerbyd gadw at gyflymder nad yw’n uwch na 5 m.y.a.
yn ôl i'r brig
Yswiriant Cerbydau
Dylai gyrwyr cerbydau fod yn ymwybodol na fydd eu cwmni yswiriant, efallai,
yn darparu yswiriant tra bo'r cerbyd ar dir y cyngor.
yn ôl i'r brig
Trefnu Angladd
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y sawl sy'n trefnu angladd anwylyd yn
gwneud hynny trwy ddefnyddio gwasanaethau Trefnwr Angladdau proffesiynol.
Serch hynny, bydd Goruchwyliwr y Fynwent (gweler gwybodaeth
ar gysylltu), yn falch o gynorthwyo a chynghori'r sawl sydd eisiau
gwneud trefniadau preifat.
yn ôl i'r brig
Hawliau Claddu
Gellir prynu 'Hawl Neilltuedig i Gladdu' gan yr awdurdod fel rhan o'r
trefniadau angladd, neu gellir prynu llain ymlaen llaw i'w ddefnyddio
yn y dyfodol. Mae'r Hawl i Gladdu yn parhau am 99 blwyddyn o'r dyddiad
prynu.
Mae Hawliau Claddu ar gyfer y mathau canlynol o leiniau ar gael:-
-
Llain bedd maint llawn, i gladdu hyd at 3 pherson
-
Llain Olion ar ôl Amlosgi, i gladdu hyd at 4 casged
-
Llain Baban, ar gyfer claddu un plentyn bychan
Gellir parhau i ddefnyddio llain maint llawn, ar ôl defnyddio'r
lle ar gyfer y claddedigaethau, ar gyfer claddu olion sydd wedi eu hamlosgi.
Mae prynu Hawl Neilltuedig i Gladdu yn cynnwys Hawl i Osod Maen Coffa
ar y bedd (yn ddarostyngedig i reolau meini coffa yr awdurdod).
Mae'r awdurdod hefyd yn darparu claddedigaethau am ddim mewn bedd 'cyhoeddus'
ar gyfer oedolion a phlant. Lleolir beddau 'cyhoeddus' plant mewn rhan
o'r fynwent sydd wedi ei dynodi yn benodol ar gyfer claddu plant.
yn ôl i'r brig
Meini Coffa
Mae llawer o'r meini coffa yn rhannau hyn y fynwent yn enghreifftiau
da o grefft y saer maen, ac yn cynnwys cerfwaith ac addurniadau hardd.
Yn y rhannau newydd, glaswelltog, nid yw'r awdurdod yn pennu unrhyw gyfyngiad
ar y dyluniad ar wahân i'r uchder cyffredinol a thrwch y garreg.
Mae maen coffa o garreg naturiol yn goffadwriaeth a fydd, os caiff ei
osod a'i gynnal yn briodol, yn goroesi am nifer o genedlaethau.
Dylid gwneud a gosod meini coffa gan saer maen proffesiynol, sy'n medru
gwarantu ei waith/gwaith. Argymhellir bod perchnogion beddau yn yswirio
eu meini coffa yn erbyn lladrad, colled neu niwed.
Unwaith y caiff ei osod, dylid archwilio a glanhau'r maen coffa o leiaf
unwaith y flwyddyn. Efallai y bydd angen talu sylw i arysgrifiadau bob
rhyw 4 neu 5 mlynedd. Argymhellir bod perchnogion yn cyflogi cyflenwr
meini coffa i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw a glanhau.
yn ôl i'r brig
Meini Coffa - Cyfrifoldeb Perchnogion
Mae gan berchnogion beddau gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw faen coffa
neu eitem arall a roddir ar y bedd yn cydymffurfio gyda rheolau meini
coffa y cyngor, ac nad yw'n achosi perygl.
Yn benodol, ni ddylai perchnogion meini coffa ddefnyddio cynwysyddion
gwydr neu borslen, sy'n medru torri, nac amgáu wyneb y bedd gyda
phethau a allai achosi i bobl faglu megis ffens plastig neu bren.
Os ystyrir bod cofeb neu eitem arall ar fedd, oherwydd ei gyflwr, y deunydd
a ddefnyddiwyd, neu sut mae wedi ei adeiladu, yn cynrychioli perygl, mae
gan y cyngor gyfrifoldeb dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, i leihau'r
perygl hwnnw.
Yn anffodus, mae hyn yn aml yn golygu bod rhaid symud yr eitem neu osod
y maen coffa i lawr ar wyneb y bedd, lle bydd yn llai peryglus. Bydd yr
awdurdod bob amser yn ceisio cysylltu gyda pherchnogion beddau i'w hysbysu
o'r hyn a wnaed a pham. Oherwydd hyn, gofynnir i berchnogion hysbysu'r
Awdurdod os byddant yn newid cyfeiriad.
yn ôl i'r brig
Ymchwil Hanes Teulu
Cedwir cofnod cyfrifiadurol o'r holl gladdedigaethau o 1876 hyd heddiw
yn swyddfa'r fynwent ac, yn ystod oriau gwaith arferol, bydd staff y fynwent
yn ceisio cynorthwyo ymwelwyr sy'n ceisio cael hyd i feddau penodol.
I ddibenion ymchwil manylach, gellir archwilio cofnodion a chofrestri
gwreiddiol trwy drefnu gyda'r Goruchwyliwr ymlaen llaw.
Gellir hefyd gweld copi o'r cofnodion claddu cyfrifiadurol ar gyfer y
cyfnod 1876 i 1989 yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd hefyd
yn rhedeg uned hanes teulu i gynorthwyo pobl sy'n ceisio canfod ffynonellau
gwybodaeth ar enedigaethau a marwolaethau.
yn ôl i'r brig
Beddau Rhyfel
Mae dwy gofeb yn coffáu dinasyddion Wrecsam a fu farw o anafiadau
tra'n gwasanaethu gyda lluoedd arfog Prydain a'r Gymanwlad. Hefyd, mae
adran benodol a gynhelir ar ran Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, yn
cynnwys beddau personél y lluoedd arfog unigol wedi eu marcio.
At hyn, mae cofeb a leolir ger y fynedfa i'r fynwent yn coffáu'r
nifer o filwyr o wlad Pwyl sydd wedi eu claddu yn y fynwent ac a ymladdodd
gyda'r lluoedd Prydeinig yn yr Ail Ryfel Byd.
yn ôl i'r brig
Cynnal a Chadw'r Fynwent - Sut medrwch
chi chwarae rhan
Nid yw'r awdurdod eisiau pennu cyfyngiadau di-angen ar ddefnyddwyr y
fynwent. Serch hynny, gofynnwn i berchnogion beddau ac ymwelwyr gadw at
y rheolau canlynol, er budd pawb:-
-
Dodwch holl sbwriel, ac unrhyw hen dorchau a blodau yn y biniau a
ddarperir.
-
Cofiwch bod holl rannau glaswelltog y fynwent yn cynnwys beddau -
hyd yn oed os nad oes maen coffa - felly peidiwch â gadael i
anifeiliaid anwes grwydro'n rhydd neu faeddu'r fynwent.
-
Mae llawer o'r meini coffa yn hen ac efallai angen eu hatgyweirio.
Peidiwch â gadael i blant gerdded ar a dringo'r cerrig beddau.
-
Parchwch anghenion ymwelwyr eraill. Peidiwch â gwneud swn di-angen.
yn ôl i'r brig
Gwybodaeth ar Gysylltu
Darpariaethau Mynwent, Trefnu Angladdau ac ati
Cofrestrydd Mynwentydd & Amlosgfa
Mynwent Wrecsam
Pentrebychan
Wrecsam Ffôn: (01978) 840068
LL14 4EP Ffacs: (01978) 846211
e-bost:crematorium@wrexham.gov.uk
Mae'r awdurdod yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer gwella'r
fynwent, a gwasanaethau mynwent y cyngor. Cysylltwch gyda'r uchod.
yn ôl i'r brig
Swyddfa'r Fynwent
Lleolir y swyddfa ar lawr cyntaf Porthordy'r Fynwent ger prif gatiau'r
fynwent ar Ffordd Rhiwabon, Wrecsam.
Ffôn: (01978) 263159
Os nad yw'r staff ar gael i dderbyn eich galwad, neu os ydych yn ffonio
y tu allan i oriau arferol, bydd peiriant ateb yn derbyn eich neges. Os
gadewch eich enw a'ch rhif ffôn, bydd rhywun yn cysylltu gyda chi
cyn gynted ag y bo modd.
Gofynnir i ymwelwyr nodi bod tenantiaid preifat yn byw ym Mhorthordy'r
Fynwent, ger y brif fynedfa ar Ffordd Rhiwabon, ac nid ydynt yn cael eu
cyflogi gan wasanaeth y fynwent. Os gwelwch yn dda peidiwch â'u
haflonyddu, oni fo argyfwng.
Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth gyffredinol
Prif Swyddog yr Amgylchedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adran yr Amgylchedd
Adeiladau’r Goron
Wrecsam
LL13 8BZ
Cysylltiadau
www.bedandbreakfasts.co.uk
|