Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cyngor am ailgylchu

 
Mae’r dudalen hon yn rhoi cyngor am ailgylchu a mentrau ailgylchu a ddarperir gan Wasanaethau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Pam lleihau sbwriel?

Mae llawer o bobl yn dechrau poeni am faint o sbwriel sy’n cael ei greu a’i daflu i ffwrdd gan wastraffu adnodd defnyddiol posibl.  Mae cartref arferol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn taflu bron i dunnell o wastraff bob blwyddyn, sy’n pwyso’r un faint â char Mini!  Mae cael gwared ar yr holl wastraff yr ydym yn ei gynhyrchu yn gostus i ni ac i’r amgylchedd.

Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam mae gennym fwy o gyfle nag erioed o’r blaen i adfer y gwastraff hwn.  Ein nod yw adfer 40% o’r gwastraff erbyn 2010.  Nid ailgylchu yw’r unig ffordd o ymdrin â’n sbwriel.  Mae angen i ni newid ein harferion a chreu llai o wastraff yn y lle cyntaf.

Mae gan Canllaw Michael ar Leihau Sbwrielrai awgrymiadau y gallwn roi cynnig arnynt er mwyn helpu i leihau faint o wastraff yr ydym yn ei greu yn y gwaith a gartref trwy wneud newidiadau syml i’n ffordd o fyw.

^ yn ôl i'r brig

Y teulu diwastraff

Erbyn hyn mae’r bin du 240 litr cyfarwydd yn cael ei wacáu bob yn ail wythnos.  Mae gan bob cartref sy’n rhan o’r cynllun Ailgylchu gyda Michael fin gwyrdd ychwanegol ar gyfer gwastraff o’r ardd y gellir ei gompostio, blwch ailgylchu gwyrdd ar gyfer poteli a jariau gwydr, poteli plastig a chaniau a sach werdd ar gyfer cylchgronau, papurau newydd a llythyrau sgrwtsh.  Mae’r blwch ailgylchu a’r sach yn cael eu casglu bob wythnos a’r biniau du a gwyrdd yn cael eu casglu bob yn ail.

  Beth am roi cynnig ar leihau eich sbwriel?
Dyma rai syniadau y gall bob un ohonom roi cynnig arnynt er mwyn helpu i leihau ein sbwriel:
  • Rhowch stop ar lythyrau sgrwtsh trwy gofrestru â’r Mailing Preference Service, DMA House, 70 Margaret Street, London, W1W 8SS, neu trwy ffonio 020 7291 3310.

  • Rhowch arwydd ar eich drws ffrynt os nad ydych am dderbyn hysbysebion a thaflenni/ papurau am ddim trwy’r drws.

  • Prynwch fwydydd parod sydd wedi’u pacio pan mae wirioneddol eu hangen yn arnoch unig a defnyddiwch nhw fel cyflenwad ‘wrth gefn’.

  • Rhowch gylchgronau i’ch ffrindiau pan fyddwch wedi’u darllen.  Ewch â nhw i’ch meddygfa neu ddeintyddfa leol (gofynnwch iddyn nhw’n gyntaf!).  Efallai y bydd cleifion eraill am eu darllen wrth iddynt aros.

  • Ceisiwch drwsio dodrefn neu offer os yn bosibl.  Rhowch gôt o baent newydd arnynt os ydych am roi gwedd newydd iddynt.

^ yn ôl i'r brig

Y baban diwastraff

Mae’r digwyddiad dedwydd hwn ac unigolyn bach newydd yn eich cartref yn golygu ambell i noswaith ddigwsg, peth pryder, costau a gwastraff ychwanegol!

Mae rhieni newydd am roi’r gorau i’w plentyn.  Efallai y gallech ystyried prynu offer ail-law o ansawdd dda i’ch baban a’u gwerthu pan fydd eich baban wedi tyfu allan ohonynt, neu efallai y byddwch am eu cadw ar gyfer eich plentyn nesaf.

  • Rhowch unrhyw ddillad, pramiau a chotiau nad ydych eu heisiau i ffrindiau sy’n feichiog neu gellwch roi eu benthyg iddynt.  Mae plant ifanc yn tyfu allan o’u cot cyntaf a’u dillad yn sydyn iawn.

  • Ystyriwch ddefnyddio gwasanaeth golchi clytiau neu golchwch eich clytiau go iawn eich hunain.  Cadwch glytiau tafladwy ar gyfer gwyliau neu deithiau.

  • Prynwch lai o bethau ymolchi i’ch baban.  Mae dŵr a sebon mwyn yn hen ddigon da ac yn well i groen eich baban.

  • Defnyddiwch wasanaeth hurio ar gyfer eitemau fel diheintydd a chot teithio.

  • Gwneud eich bwyd eich hunan ar gyfer eich baban yn lle prynu jariau a thuniau.  Mae bwydydd parod yn well ar gyfer gwyliau a theithiau.

  • Bydd eich Ymwelydd Iechyd yn cadarnhau bod bwydo o’r fron yn well i fabanod.  Mae ar gael ar unwaith ac mae’n rhad ac am ddim.  Nid oes raid i chi ddiheintio poteli na chymysgu fformwla llaeth.  Mae’n 99% diwastraff.

    Am fwy o wybodaeth ac anogaeth cysylltwch â’ch Cwnsler Bwydo o’r Fron.

Mwy am glytiau go iawn

^ yn ôl i'r brig

Siopwr diwastraff

Mae siopa’n rhoi llawer o gyfleoedd i chi ddefnyddio eich pŵer prynu i ddewis nwyddau diwastraff.

  • Gellir prynu nifer o nwyddau’n rhydd e.e. llysiau, ffrwythau, nwyddau crefftau’r cartref a deunyddiau papur.

  • Prynwch nwyddau crynodedig a’u gwanedu i’ch siwtio chi.  Chwiliwch am nwyddau mewn pecynnau y gellir eu hail-lenwi.

  • Ceisiwch osgoi prynu pethau glanhau a luniwyd at bwrpas arbennig.  Dewiswch ddeunyddiau amlbwrpas yn lle.

  • Prynwch nwyddau sy’n cynnwys deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu megis papur cegin a phapur toiled.  Edrychwch ar y labeli i weld faint o’u cynnwys sydd wedi’i ailgylchu.

  • Peidiwch â phrynu mwy nag sydd ei angen arnoch.

  • Ystyriwch brynu eitemau sydd â llai o ddeunyddiau pacio.  Prynwch eich cig o’r adran fwtsiera neu’r delicatessen neu gan eich cigydd lleol.  Beth am roi cynnig ar brynu ffrwythau a llysiau gan eich siop ffrwythau/llysiau leol?  Prynwch gan eich siopau lleol – efallai y byddwch yn mwynhau.

  • Dewiswch nwyddau sydd wedi’u pacio mewn deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu.

  • Ailddefnyddiwch fagiau plastig y tro nesaf yr ydych yn siopa.  Meddyliwch am ffyrdd eraill o’u defnyddio.  Maent yn ddefnyddiol iawn fel bagiau bin.

^ yn ôl i'r brig

Y gegin ddiwastraff

Nid y deunyddiau pacio yr ydym yn eu taflu i ffwrdd yn unig yw gwastraff.  Mae nifer ohonom yn gwastraffu bwyd sy’n costio arian ac yn cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd.

  • Swmp-brynwch a rhewch rai pethau i’w defnyddio eto.

  • Ceisiwch beidio â gwastraffu bwyd yr ydych wedi’i baratoi.  Gwnewch risolau, tatws wedi’u ffrio neu stwnsh tatws a llysiau gyda thatws sydd gennych dros ben a briwsion.

  • Cofiwch gompostio eich pilion llysiau gartref.

Ni fydd pob un o’r uchod yn siwtio ffordd o fyw pawb ond pe gallai pob un ohonom roi cynnig ar ychydig ohonynt gallem leihau faint o wastraff yr ydym yn ei gynhyrchu’n sylweddol.

^ yn ôl i'r brig


Canllaw i'ch Gwasanaeth Casglu Gwastraff Newydd

Map Lleoliad Ailgylchu Lleol

Gwastraff

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Ffurflen Ailgyflenwi Sachau Ailgylchu Ar Lein


Gwybodaeth Gyswllt

Ffôn: 01978 292044

Ebost: environmental@wrexham.gov.uk

Ffurflen ymholiadau cyffredinol ar lein

Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Gwasanaethau Amgylcheddol
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

 
English
 

Cyswllt i

Mynegai Gwasanaethau Amgylcheddol
Gwybodaeth Gyswllt
Gwasanaethau Lleol Eraill
Rhifau Argyfwng / Defnyddiol
Cyfleusterau Ar Lein
Ymateb
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint