|
Mae'r
dudalen hon yn rhoi manylion y gwasanaethau ailgylchu a ddarperir gan
Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ar gyfartaledd, mae pob cartref yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam yn cynhyrchu mwy na thunnell o wastraff bob blwyddyn.
Mae lleihau gwastraff a gwneud ymdrech i ailgylchu yn bwysig, oherwydd
ei fod yn rhwystro deunyddiau rhag mynd i safleoedd tirlenwi, yn lleihau
llygredd ac yn arbed adnoddau naturiol ac ynni.
Mae caniau alwminiwm yn esiampl - mae ailgylchu caniau yn defnyddio dim
ond 5% o'r ynni a gymer i gynhyrchu caniau o ddefnyddiau amrwd.
Dyma
beth fedrwch chi ei wneud:
-
Lleihau faint o wastraff sydd angen ei waredu - prynwch nwyddau gyda
llai o becynnu a dechrau gwrteithio eich gwastraff gardd a chegin.
-
Ail-ddefnyddio pethau - megis poteli, bagiau plastig a chynwysyddion
plastig.
-
Ailgylchu pethau - defnyddiwch eich cyfleusterau ailgylchu lleol.
-
Trwsio pethau - peidiwch â phrynu pethau newydd bob amser -
yn aml mae modd eu trwsio.
Cyswllt i gyngor pellach ar ailgylchu
Cyswllt i gynllun peilot 'Ailgylchu
gyda Michael'
Cyswyllt i Clytiau Go-Iawn
Cyswllt i restr o Safleoedd Ailgylchu yn
ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyswllt i wybodaeth ar wastraff
Cyswllt i Beth sydd yn eich bin sbwriel?
^ yn ôl i'r brig
Gwybodaeth Gyswllt
Ffôn: 01978 298989
Ebost: contact-us@wrexham.gov.uk
Cwlbhau'r ffurflen ymholiadau cyffredinol
ar lein
Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
|