Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Plâu - Triniaeth a Rheoli

 

Llygod a Llygod Mawr

Mae llygod a llygod mawr yn byw lle gallant ddod o hyd i fwyd, dwr a chysgod. Mewn tai, gallant fyw mewn croglofftydd, mewn ceudodau mewn waliau, mewn selerau ac o dan estyll. Y tu allan, byddant yn tyllu i mewn i domenni compost, cloddiau glaswellt ac o dan siediau. Mae llygod mawr hefyd yn byw mewn carthffosydd ac yn dda am ddringo a nofio.

Gall llygod a llygod mawr gario nifer o afiechydon gan gynnwys salmonela, tocsoplasmosis a chlefyd Weil (sy'n mynd i mewn i'r corff trwy friwiau neu gyswllt â dwr sydd wedi'i halogi). Gallant wneud difrod i eiddo hefyd trwy gnewian a thyllu.

Os gwelwch lygoden Ffrengig peidiwch â phanicio. Dim ond 'pasio heibio' y mae nifer o'r llygod mawr sy'n cael eu gweld mewn gerddi wrth iddynt chwilio am fwyd. Nid yw gweld un ohonynt yn golygu bod eich eiddo wedi'i heigio. Trwy ddarllen y wybodaeth ganlynol yn ofalus, dylech allu helpu i atal pla:

  • Gwnewch eich adeilad yn ddiogel rhag cnofilod: Gall llygod mawr wasgu trwy dwll 15mm a does ond angen twll 6mm ar lygoden i ddod i mewn i'ch eiddo a'ch ystafelloedd. Gwiriwch bob rhan o'ch ty a defnyddiwch sment, llanwydd neu rwyll wifrog i lenwi unrhyw fylchau sy'n fwy na hyn. Gwiriwch o gwmpas lle mae peipiau a gwifrau'n dod i mewn ac allan yn arbennig.
  • Byddwch yn ofalus wrth gael gwared ar eich sbwriel: Mae gwastraff y cartref sy'n cael ei adael mewn bagiau plastig yn ffynhonnell bwyd gwerthfawr nid yn unig i gnofilod ond i anifeiliaid eraill sy'n chwilota am fwyd megis llwynogod, cwn a chathod. Rhowch eich sbwriel mewn bin a sicrhewch eich bod yn ei roi allan i'w gasglu ar y diwrnod cywir. Os na fydd eich bin yn dal yr holl sbwriel, cadwch unrhyw sbwriel sydd dros ben mewn rhywle lle na all cnofilod gael mynediad ato tan eich diwrnod casglu. Fel arall, gellwch fynd ag ef i safle amwynderau dinesig. Cofiwch ailgylchu er mwyn lleihau eich gwastraff.
  • Cadwch eich gardd yn daclus: Mae tomenni o wastraff gardd yn lle delfrydol i lygod mawr nythu.
  • Gwiriwch gaeadau draeniau: Sicrhewch fod caeadau draeniau a'r ardaloedd o'u hamgylch yn sownd ac mewn cyflwr da. Cofiwch fod llygod mawr yn byw mewn carthffosydd a draeniau! Mae draeniau diffygiol yn caniatâu i lygod mawr ddianc o'r system garthffosiaeth.
  • Peidiwch â bwydo llygod mawr!: Trwy roi bwyd yn yr ardd i anifeiliaid ac adar gwyllt, gellwch hefyd ddarparu gwledd i lygod mawr! Dylech ailystyried faint o fwyd a'r dulliau bwydo yr ydych yn eu defnyddio cyn ailddechrau rhoi bwyd yn eich gardd, neu'n well fyth, peidiwch â rhoi bwyd allan o gwbl.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Morgrug

  • Gellwch reoli morgrug gan ddefnyddio nwyddau y gellir eu prynu dros y cownter mewn siopau crefftau'r cartref (DIY) er enghraifft. Y rhai gorau i'w defnyddio yw'r pecynnau llwch bendiocarb (0.5%). Dylech ddefnyddio'r rhain o gwmpas mynedfeydd nythod ac ar hyd rhediadau morgrug ac mewn agennau lle mae morgrug yn ymgynnull.
  • Seliwch unrhyw graciau neu dyllau amlwg sy'n cael eu defnyddio gan forgrug i ddod i mewn i'r ty. Defnyddiwch lanwydd cyffredinol neu forter/sment.
  • Cadw ty - glanhewch arwynebau a lloriau'n drylwyr gan ddefnyddio glanedyddion i gael gwared ar olion bwyd. Bydd morgrug ond yn dod i le mae bwyd ar gael ac ychydig iawn sydd ei angen arnynt i gadw i fynd. Sicrhewch eich bod yn glanhau unrhyw gorneli'n drylwyr ac yn cael gwared ar unrhyw weddillion ac olion bwyd.
  • Tu allan - nid oes llawer o bwynt rhoi unrhyw driniaeth y tu allan gan y bydd unrhyw law yn ei golchi i ffwrdd. Mae arllwys dwr berwedig i mewn i graciau ac agennau'n cael rhywfaint o effaith a dyma'r ateb gorau ond mwyaf byrdymor.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Cacwn

  • Cacwn yw un o'r grwpiau o bryfed y mae pobl yn eu casáu mwyaf, ond nid oes rhaid eu hofni gan na fydd cacwn yn pigo'n aml oni bai eu bod wedi'u cyffroi neu'n ofnus.
  • Maent yn fanteisiol yn y gwanwyn ac ar ddechrau'r haf pan fyddant yn bwydo pryfed i'w lindys. O ganol yr haf ymlaen mae'r cacwn gweithgar yn bwydo ar ffrwythau sy'n aeddfedu. Tua diwedd yr hydref maent yn casglu pryfed a bwydydd protein eraill i fwydo'r nythaid olaf.
  • Nid oes angen trin cacwn bob amser os nad ydynt yn niwsans gan y bydd y gytref fel arfer yn marw erbyn diwedd y tymor (hydref).
  • Gellwch drin cacwn a gwenyn eich hunan ond fe'ch cynghorir i fod yn ofalus iawn ac i drin nythod cacwn gyda'r nos neu'n gynnar yn y bore'n unig pan nad ydynt mor fywiog. Dylai'r nyth fod yn weladwy ac yn llai na maint pêl tennis.
  • Os na ellir gweld y nyth, gellwch chwistrellu'r mynediad â chwistrell neu bowdwr priodol, ond byddwch yn ofalus iawn os ydych yn gwneud hynny ar ben ysgol.
  • Os yw'r nyth yn fwy na maint pêl tennis, fel rheol bydd angen i reolwr plâu proffesiynol ddefnyddio triniaeth arbenigol i'w dinistrio.
  • Os byddwch yn defnyddio pryfladdwyr, dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus.

Ymdrin â phigiadau gan gacwn

  • Nid yw cacwn yn pigo fel arfer oni bai eu bod yn ofnus neu'n ceisio amddiffyn eu nythod. Bydd yr arfer hwn yn cynyddu wrth i'r pryfed ddod yn fwy llidiog pan fydd y tywydd yn dechrau oeri ac ar ôl iddynt amlyncu sudd ffrwythau goraeddfed a brag.
  • Achosir y pigiad wrth i gacwn fewnsaethu gwenwyn i gorff y dioddefwr. Gellir trin pigiadau cacwn â chlwtyn oer ac eli gwrth-histamin o fewn 20 munud ar ôl y pigiad.
  • Dylid rhwbio eli antiseptig addas ar y croen hefyd er mwyn atal unrhyw heintiad. Gall mwy nag un pigiad gael effaith gronnus beryglus, felly dylid bod yn ofalus iawn. Gofynnwch am gyngor meddygol cyn gynted ag sy'n bosibl.
  • Gall pigiadau pryfed yn y geg neu'r gwddf chwyddo gan arwain at fyctod. Sugnwch rew i leihau'r chwyddo a gofynnwch am gyngor meddygol ar unwaith.
  • Os nad yw cacwn yn achosi niwsans y cyngor gorau yw gadael llonydd iddynt. Cofiwch, byddant yn marw ar ôl y rhewoedd cyntaf yn y gaeaf ac mae'n anarferol i famgacynen sefydlu nyth newydd yn yr un lle'r flwyddyn ganlynol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Gwenyn

  • Nid ydym yn darparu gwasanaeth i ladd gwenyn, ond o bryd i'w gilydd, bydd pobl yn ffonio i ddweud bod ganddynt nyth ar eu heiddo.
  • Nid ydym yn argymell trin gwenyn gan nad ydynt yn bla nac yn fygythiad. Mewn gwirionedd, mae gwenyn bwm yn cael eu hamddiffyn yn ôl y gyfraith ac mae eu niferoedd yn lleihau.
  • Bydd achlysuron pan allai fod yn angenrheidiol dinistrio nyth, ond yn gyffredinol gwneir pob ymdrech i osgoi unrhyw driniaethau rheoli.
  • Mae gwenyn yn fuddiol gan eu bod yn peillio nifer o goed ffrwythau a phlanhigion eraill.
  • Yn gyffredinol, mae gwenyn yn ddiniwed ac fel arfer byddant ond yn pigo os cânt eu pryfocio'n ddifrifol. Ni all pigiadau rhai gwenyn, megis gwenyn meini, fynd trwy groen dynol.
  • Mae'n bosibl y bydd angen rheoli gwenyn meini o bryd i'w gilydd, ond yr ateb go iawn i'r problemau y maent yn eu hachosi yw ail-bwyntio bricwaith â morter caled da.
  • Mae gwenyn mêl yn cael eu hamddiffyn ac ni ellir eu dinistrio dan amgylchiadau arferol. Os ydych yn credu bod gennych nyth gwenyn mêl, cysylltwch â gwenynwr er mwyn iddynt ddod i'w symud.
  • Os oes gwir angen, bydd Swyddog Rheoli Plâu yn galw heibio i weld a ydynt yn risg i'ch iechyd ac os felly'n trin y gytref neu'n awgrymu ei bod yn cael ei symud. Codir tâl o £35 am y gwasanaeth hwn (yr un fath â chacwn) ond gall y cwsmer wneud cais am ad-daliad o £20 os na ddefnyddir unrhyw driniaeth.

Gwenynwr
Alan Francis (Yr Orsedd). Gall gasglu ar unrhyw adeg - nid yw'n codi tâl.
07905 742791
01978 364552
01244 570727

David Reimerf (Holt)
01978 855901

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Chwain

Mae chwain yn gyffredin iawn ac mae'n debyg y bydd pob ci a chath yn eu cario ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. Mae pob anifail anwes yn bendant mewn perygl o gael chwain, yn enwedig yn ystod yr haf, ac mewn amgylcheddau cynnes megis cartrefi sydd â gwres canolog.

Gan y gellir dod o hyd i chwaith ar anifeiliaid ac oddi arnynt yn ystod eu cyfnodau datblygu amrywiol, bydd rheolaeth lwyr yn cynnwys trin yr anifail anwes a'r ardal lle mae'n byw. Er mwyn cael y canlyniadau gorau, rhaid gwneud y canlynol:-

  • Dylid hwfro lloriau a dodrefn sydd wedi'u clustogi'n drylwyr i gael gwared ar wallt anifeiliaid, malurion organig, wyau chwain a chwilerod. Dylid rhoi sylw arbennig i ardaloedd lle mae anifeiliaid anwes yn cael crwydro ac yn gorffwys, megis o dan ddodrefn, o dan gadeiriau a chlustogau, mewn craciau ac agennau yn y llawr ac ar hyd waliau. Bydd bag yr hwfer yn cynnwys wyau a chwilerod, felly dylid ei waredu mewn bin gwastraff y tu allan i'r ty.
  • Dylid tynnu unrhyw ddillad, llieiniau a theganau oddi ar y llawr fel y gellir trin yr arwyneb cyfan.
  • Mae gwres yn lladd y pryf, ei wyau a'i chwilerod. Dylid golchi dillad a dillad gwely ar y tymheredd uchaf y mae'r defnydd yn ei ganiatáu er mwyn dinistrio unrhyw wyau a larfae a allai fod ynddynt. Fel arall, dylech eu sychu mewn peiriant am o leiaf awr.
  • Dylid ysgubo, glanhau neu hwfro unrhyw loriau concrid neu loriau sydd â theils.
  • Dylid trin unrhyw gwn neu gathod gyda phryfladdwr a argymhellir i gael gwared ar chwain - cysylltwch â'ch milfeddyg am y driniaeth fwyaf priodol ar gyfer eich anifail anwes.
  • Dylid dinistrio dillad gwely anifeiliaid anwes neu eu golchi mewn dwr poeth â sebon i ddinistrio unrhyw chwain.
  • Ar ôl y driniaeth, dylech geisio peidio â hwfro am gymaint o amser â phosibl - o leiaf 14 diwrnod.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Chwilod duon

Mae hylendid da yn hanfodol wrth reoli chwilod duon, ynghyd â chyfyngu mynediad at fwyd a dwr.

  • Dylid cadw bwyd mewn jariau storio aerglos a chlirio unrhyw friwsion neu wastraff ar unwaith. Mae'r un peth yn wir am wastraff y cartref - bydd biniau â chaeadau clec yn ddefnyddiol iawn wrth reoli plâu eraill megis morgrug a phryfed.
  • Gall chwilod duon fyw'n hirach ar ddwr yn unig yn hytrach nag ar fwyd yn unig felly mae'n hanfodol eich bod yn lleihau mynediad at gyflenwadau dwr er mwyn rheoli poblogaethau chwilod duon.
  • Trwsiwch unrhyw ollyngiadau a pheipiau diferol, darperwch awyriad mewn ardaloedd llaith, glanhewch unrhyw ddwr neu ddiodydd sy'n cael eu gollwng, peidiwch â gadael llestri i drochi yn y sinc dros nos a gwagwch bowlenni anifeiliaid anwes dros nos.
  • Y cam nesaf yw dechrau lleihau unrhyw lochesau posibl yn yr ardaloedd heigiog.
  • Tynnwch unrhyw annibendod lle y gallai chwilod duon fyw e.e. mae papur wal rhydd a theils sydd wedi torri a llyfrau coginio a phapurau rhydd yn lleoedd delfrydol. Dylid calcio, peintio neu selio unrhyw dyllau, craciau neu agennau, gan gofio y gall chwilen ddu Almaeneg ifanc fynd trwy dyllau sy'n llai nag 1mm. Cyn dechrau, dylid glanhau'r ardaloedd hyn i gael gwared ar unrhyw wyau, bwyd neu wastraff sydd wedi cronni.
  • Gellir glanhau unrhyw ddodrefn yr ydych yn amau sy'n darparu lloches i chwilod duon â glanhawr stêm os yw'n briodol.
  • Gall hwfro'n aml, yn enwedig mewn ardaloedd sydd o'r neilltu, sugno chwilod duon, eu hwyau a'r deunyddiau y maent yn eu bwyta. Gwagwch gynnwys yr hwfer i mewn i fag plastig a'i roi mewn bin y tu allan i'r ty.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pryfed arian

  • Mae'n well ganddynt ardaloedd sydd yr un tymheredd ag ystafelloedd cyffredin a lleithder cymharol uchel o 75% i fridio ac amlhau.
  • I'w rheoli mae angen eu hadnabod a'u harolygu a sychu'r ardal(oedd) heigiog i leithder cymharol sy'n llai na 65%.
  • Rhwystrwch unrhyw blâu posibl trwy selio craciau ac agennau â phwti neu drwy galcio.
  • Mae'n bosibl cael gwared arnynt trwy ddulliau corfforol megis hwfro.
  • Rhwystrwch bryfed arian trwy glirio mannau lle mae pren, bocsys cardbord, hen bapurau neu lyfrau'n cael eu storio a lle mae tystiolaeth o bryfed.
  • Gellwch drin pryfed arian â phryfladdwyr gan eu rhoi mewn mannau megis craciau, agennau, o dan silffoedd ac o gwmpas sinciau, byrddau sgertin, fframiau ffenestri a lle bynnag y mae peipiau'n mynd trwy waliau.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Chwilod carped

  • O bryd i'w gilydd byddant yn dodwy eu hwyau mewn nythod adar gwag mewn toeau, felly mae hwn yn un man y dylech ei wirio os oes gennych broblem, a dylech dynnu'r nyth yn ôl yr angen. Gall olion anifeiliaid a phryfed marw achosi plâu a dylech gwael gwared arnynt os byddwch yn dod o hyd iddynt.
  • Dylid cael gwared ar unrhyw ddeunyddiau heigiog a glanhau unrhyw fannau heigiog yn drylwyr, gan ganolbwyntio ar graciau ac agennau.
  • Dylech hwfro'n rheolaidd (yn enwedig mewn mannau o dan stôr-wresogyddion neu lle mae byrddau sgertin yn cysylltu â'i gilydd).
  • Os yw'r broblem yn parhau, chwistrellwch bryfladdwr sy'n addas i'w ddefnyddio dan do ar chwilod carped/pryfed ymlusgol. Dylid chwistrellu'r rhain ar estyll, mewn craciau ac unrhyw fylchau o gwmpas byrddau sgertin.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Chwilod plastr

  • Gall nifer sylweddol o bryfed bach du neu frown ymddangos mewn tai neu adeiladau newydd a thai neu adeiladau sydd wedi'u hadnewyddu. Gelwir y rhain yn 'chwilod plastr' ac maent yn perthyn i o leiaf dau deulu o chwilod.
  • Gellir cael gwared ar y pryfed hyn trwy sicrhau bod y ty neu'r adeilad wedi'i sychu. Wrth i chi ddechrau defnyddio gwres canolog, bydd eu niferoedd yn lleihau. Gellir defnyddio chwistrellwyr pryfladdwyr i reoli pryfed ymlusgol yn ôl yr angen.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pryfed clust

  • Dylid selio craciau ar y tu allan i adeiladau ac o gwmpas drysau a ffenestri er mwyn atal pryfed clust rhag dod i mewn. Os yw'r tyllau hyn yn fawr, dylid defnyddio sment cryf neu sêl fastig. Bydd gosod rhimynnau drafft ar ddrysau'n helpu i rwystro pryfed clust rhag dod i mewn.
  • Y tu allan, bydd cael gwared ar gasgliadau o ddail, chwyn, brics, pren a rwbel y tu allan i ddrysau a ffenestri'n helpu i gael gwared ar eu cuddfannau.
  • Trin â phryfladdwyr - Nid oes angen trin pryfed clust â chemegau yn y mwyafrif o achosion. Fodd bynnag, os nad yw tynnu llystyfiant a diddosi mynedfeydd yn goresgyn y broblem, gellwch ddefnyddio chwistrell neu lwch pryfed o gwmpas y tu allan i'r adeilad, mewn craciau ac agennau ac o gwmpas trothwy'r drws.
  • Gellwch brynu'r nwyddau hyn o ganolfannau garddio neu siopau nwyddau metel.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pryfed

  • Rhwystrwch fynediad gan ddefnyddio sgriniau pryfed - edrychwch am unrhyw agoriadau o gwmpas ffenestri a drysau a seliwch y rhain gyda llanwydd.
  • Edrychwch am unrhyw gasgliadau o sbwriel, baw anifeiliaid ac unrhyw wastraff arall sy'n darparu bwyd a mannau bridio a sicrhewch eich bod yn cael gwared arnynt.
  • Defnyddiwch chwistrell bryfed neu driniaeth arall y gellwch ei phrynu mewn siop.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Psosids a phlâu bwyd cadw eraill

  • Mae'r rhain yn blâu cyffredin ond diniwed sy'n cael eu canfod o gwmpas bwydydd powdrog sych, mewn mannau tywyll a llaith fel arfer megis plygiadau pecynnau mewn cypyrddau bwyd.
  • Nid ydynt yn ganlyniad o hylendid gwael ac maent yr un mor gyffredin mewn eiddo glân ag mewn eiddo llai glân.
  • Maent yn gysylltiedig â lleithder ac yn bwyta llwydni a achosir gan leithder.
  • Tynnwch a gwaredwch y bwyd sydd wedi'i effeithio ar unwaith.
  • Gwiriwch bopeth arall yn y cwpwrdd.
  • Bydd caniau a photeli'n iawn ond gwiriwch nad oes pryfed yn cuddio o dan y labeli.
  • Triniwch yr ardal sydd wedi'i heffeithio gyda phryfladdwr sy'n addas i'w ddefnyddio ger bwydydd.
  • Glanhewch unrhyw lwch a briwsion a sicrhewch fod y cwpwrdd yn sych.
  • Canfyddwch achos y lleithder a'i drin - sicrhewch fod yr ystafell yn cael ei hawyru.
  • Storiwch fwydydd sych mewn cynhwysyddion y gellir eu selio mewn man oer a sych.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pryfed lludw

  • Diddosi - Dylid selio craciau ac agennau ar y tu allan i'r adeilad ac o gwmpas drysau a ffenestri er mwyn rhwystro pryfed lludw rhag dod i mewn. Os yw'r tyllau hyn yn fawr dylid eu selio â sment cryf neu sêl fastig. Bydd gosod rhimynnau drafft ar ddrysau'n helpu i rwystro pryfed lludw rhag dod i mewn.
  • Glanhau - Gellir rheoli pryfed lludw trwy lanhau'n rheolaidd gan gynnwys hwfro o gwmpas ymylon y llawr a ddylai helpu i gael gwared arnynt. Ni ddylent ailymddangos oni bai bod y gwaith diddosi'n annigonol.
  • Tu allan - Bydd cael gwared ar gasgliadau o ddail, chwyn, brics, pren a rwbel y tu allan i ddrysau a ffenestri'n helpu i gael gwared ar eu cuddfannau. Mae'n well peidio â chadw potiau planhigion nac addurniadau'n agos at y ty. Os ydych am eu cadw'n agos at y ty, argymhellir eich bod yn glanhau oddi tanynt ac o dan fatiau'n rheolaidd.
  • Gellir trin pryfed lludw â phryfladdwyr sy'n addas ar gyfer pryfed ymlusgol, ond oni bai eich bod yn cwblhau gwaith diddosi, bydd mwy o bryfed lludw'n ymddangos. Bydd rhoi pryfladdwyr gweddillol o gwmpas ymylon waliau yn lleihau'r boblogaeth yn sydyn.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Llwynogod

  • Nid yw'r Cyngor yn darparu gwasanaeth i gael gwared ar lwynogod - efallai y gall cwmnïau rheoli plâu preifat eich helpu.
  • Mae'r gyfraith yn ein hatal rhag defnyddio unrhyw wenwynau neu ddulliau rheoli creulon eraill. Os yw llwynogod yn achosi niwsans, gellir defnyddio dulliau hynaws i'w rhwystro.
  • Peidiwch â rhoi ffynhonnell bwyd iddynt:
    Rhowch sbwriel mewn biniau tan y diwrnod casglu, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Sicrhewch fod gan y biniau gaeadau a'u bod wedi'u rhoi arnynt yn gywir, neu adeiladwch ryw fath o rwystr.
  • Tynnwch unrhyw ffynonellau bwyd posibl, megis sborion bwyd, o domenni compost.
  • Peidiwch â rhoi llawer o fwyd allan i'r adar. Defnyddiwch ymborthwr adar arbennig a pheidiwch â gadael bwyd ar lawr.
  • Peidiwch â bwydo cwn a chathod y tu allan.
  • Sicrhewch fod anifeiliaid anwes bychain neu ieir yn cael eu cadw mewn cutiau cryf neu gaeadleoedd na all llwynogod dyllu i mewn iddynt.
  • Peidiwch â rhoi tiriogaeth iddynt:
    Rhwystrwch lwynogod rhag dod i mewn i'ch gardd trwy sicrhau nad oes unrhyw dyllau yn y ffensys.
  • Dylech roi gwybod i'r RSPCA (Royal Society for the Prevention of Cruelty to Animals) os gwelwch lwynog wedi'i anafu ar 08705 555999.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Ystlumod

  • Mae ystlumod yn rhywogaeth a amddiffynnir dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'n drosedd i ladd, difrodi neu rwystro mynediad at glwyd ystlumod a gallech gael dirwy o hyd at £1000 am bob ystlum unigol os cewch eich euogfarnu. Dylid cysylltu â'r Swyddog Rhywogaethau yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru am gymorth ar 0845 1306229.
  • Mae'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod yn gweithredu llinell gymorth genedlaethol. Sefydlwyd y llinell hon i ddarparu gwybodaeth am ystlumod. Ffoniwch 0845 1300 228 (cyfradd leol).

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Llau gwely

Beth yw llau gwely?

Mae llau gwely'n bryfed bach heb adenydd sy'n bwydo ar waed anifeiliaid gwaed cynnes.

Mae llau gwely sydd newydd ddeor tua maint hedyn pabi ac mae oedolion yn mesur tua ¼ modfedd. Wrth edrych i lawr arnynt maent yn siâp hirgrwn ond maent yn fflat o'r top i'r gwaelod.

Mae eu lliw yn amrywio o bron â bod yn wyn (ar ôl iddynt fwrw croen) neu felynddu golau i frown tywyll neu oren llosg. Gallai gwaed yr unigolyn cynhaliol ymddangos fel màs coch tywyll neu ddu yng nghorff y lleuen. Gan nad ydynt yn datblygu adenydd, ni all llau gwely hedfan. Pan gânt eu haflonyddu, maent yn chwilio am gysgod mewn craciau ac agennau tywyll. O bryd i'w gilydd gallech ddod o hyd i groen llau gwely. Er bod hynny'n cadarnhau bod llau gwely wedi bod yno yn y gorffennol, nid yw'n cadarnhau eu bod yn parhau i fod yn bla yn eich ty. Gan hynny, edrychwch yn ofalus am lau gwely byw sy'n ymlusgo. Gan y gellir dod o hyd i nifer o fathau eraill o lau brown bychain, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod wedi adnabod y llau'n gywir.

A yw llau gwely'n achosi niwed neu'n lledaenu afiechydon?

Mae llau gwely'n chwilio am bobl ac anifeiliaid gyda'r nos yn gyffredinol pan font yn cysgu ac yn bwydo trwy dyllu'r croen. Wrth fwyta, maent yn mewnsaethu rhywfaint o'u poer i'r croen i ymddwyn fel gwrthgeulydd. Mae cael eu brathu'n fynych gan lau gwely yn ystod cyfnod o ychydig wythnosau'n achosi pobl i gael eu sensiteiddio i boer y llau hyn; yna gallai unrhyw frathiadau eraill arwain at adweithiau alergaidd ysgafn i ddwys. Mae'r anaf a achosir gan frathiadau llau gwely'n debyg i'r anafiadau a achosir gan nifer o wahanol fathau o bryfed sy'n yfed gwaed, megis mosgitos a chwain. Mae felly'n anodd iawn dweud yn union pa bryfyn sydd wedi eich brathu o edrych ar y brathiad. Dylid ymgynghori â'ch meddyg i ddiystyru achosion eraill am yr anaf ac i gael triniaeth yn ôl yr angen. Dylech geisio peidio â chrafu'r brathiadau gan y gallai hyn waethygu'r boen a'r cosi ac arwain at heintiad eilaidd. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod llau gwely'n trosglwyddo unrhyw glefydau heintus.

Lle mae dod o hyd i lau gwely?

Mae llau gwely'n fwyaf niferus mewn ystafelloedd lle mae pobl yn cysgu ac yn gyffredinol maent yn cuddio ger y gwely neu ddodrefn arall lle mae pobl yn cysgu. Maent yn fwy bywiog gyda'r nos ond pan fyddant eisiau bwyd byddant yn mentro allan yn ystod y dydd i ddod o hyd i gorff cynhaliol. Mae eu cyrff fflat yn eu caniatáu i guddio mewn craciau ac agennau o gwmpas yr ystafell ac mewn dodrefn. Mae eu hoff guddfannau'n cynnwys ffrâm y gwely, y matras a'r sbring bocs. Mae llanastr o gwmpas yr ystafell yn cynnig lleoedd ychwanegol i'r llau guddio ac yn ei gwneud yn anoddach i gael gwared arnynt unwaith iddynt ymgartrefu.

Sut mae llau gwely'n heidio i mewn i gartref?

Gan fod llau gwely'n cuddio mewn agennau bychain, gallant 'deithio'n gudd' a dod i mewn i gartref mewn bagiau, dodrefn, dillad, clustogau, bocsys a gwrthrychau eraill wrth iddynt gael eu symud rhwng fflatiau, tai a gwestai. Mae mwy o berygl i ddodrefn ail law lochesu llau gwely a'u hwyau, yn arbennig fframiau gwely a matresi. Gan hynny, dylech archwilio ac ystyried hanes unrhyw ddodrefn ail law'n ofalus iawn cyn ei brynu. Gan y gall llau gwely fyw am fisoedd lawer heb fwyta (hyd at 18 mis), gallant fod yn byw mewn fflatiau neu dai sy'n ymddangos yn 'wag' ac yn 'lân'. Gall llau gwely grwydro rhwng tai cyfagos trwy wagleoedd mewn waliau a thyllau ar gyfer gwifrau a pheipiau. Mewn rhai achosion, gall ystlumod ac/neu adar gludo a chynnal llau gwely a'u perthnasau agos (llau ystlumod a llau adar).

Sut ydych chi'n gwybod os oes pla yn eich cartref?

Mae llau gwely'n heigio cyfran fechan iawn o gartrefi'n unig, ond dylech dybio bod gennych bla os bydd rhywun yn cwyno am gael eu brathu gyda'r nos. Dylid archwilio'r ystafell wely a mannau cysgu eraill yn ofalus am lau gwely ac arwyddion ohonynt. Efallai y bydd plygiadau a chrychiadau yn y dillad gwely a semau a chudynnau matresi a sbringiau bocs yn gartref i lau gwely neu eu hwyau. Gallant guddio mewn pletiau yn y llenni, dan ddarnau o bapur wal rhydd ger y gwely, yng nghorneli desgiau a dreseri, mewn tyllau mewn dodrefn gwiail, y tu ôl i gilfwâu ac mewn dillad golch neu eitemau eraill ar y llawr neu o gwmpas yr ystafell hefyd. O bryd i'w gilydd, byddwch yn gallu gweld smotiau ymgarthol brown tywyll neu goch nodweddiadol ar y dillad gwely, y matras neu ar y waliau ger y gwely.

Beth ddylwn ei wneud os byddaf yn dod o hyd i lau gwely?

Os ydych yn tybio bod gennych lau gwely dylech gysylltu â'r Adran Diogelu'r Cyhoedd ar 01978 292040. Bydd Swyddog Rheoli Plâu yn galw heibio i gwblhau asesiad cychwynnol. Os bydd yn dod o hyd i unrhyw bryfed, bydd y rhain yn cael eu hanfon at entomolegydd cymwys i'w henwi. Unwaith i ni gadarnhau beth yw'r pryfyn, dylid llunio cynllun gofalus i gael gwared ar y llau gwely mewn modd sy'n debygol o lwyddo wrth gyfyngu unrhyw gostau a datguddiad diangen at bryfladdwyr. Peidiwch â chael gwared ar unrhyw ddodrefn a pheidiwch â thrin y llau nes bod gennych gynllun.

Dylai tenantiaid preifat adrodd am broblemau efo llau gwely i'w landlord. Os nad yw'r landlord yn fodlon trin y broblem, dylai'r tenant gysylltu â ni a rhoi manylion yn landlord i ni. Byddwn yn cysylltu â'r landlord yn uniongyrchol wedyn.

Beth allaf ei wneud i reoli llau gwely?

Ni fydd trin cartref â phryfladdwyr yn unig yn cael gwared ar lau gwely. Mae angen ymagwedd gynlluniedig tuag at reoli llau gwely sy'n cynnwys glanhau a gwneud addasiadau i ystafelloedd yn ogystal â'u trin â phryfladdwyr.

Chwiliwch am olion llau gwely. Archwiliwch ffrâm y gwely, y matras a dodrefn eraill am olion llau gwely a'u hwyau. Er y gall llau marw, croen llau a smotiau gwaed awgrymu bod gennych bla yn y gorffennol, nid ydynt yn cadarnhau eu bod yn dal i fod yno. Chwiliwch am lau byw (yn ymlusgo) a sicrhewch mai llau gwely ydynt cyn ystyried eu trin.

Lleihewch unrhyw lanastr er mwyn cael gwared ar leoedd i lau gwely guddio.

Glanhewch yr ystafelloedd lle mae'r pla yn ofalus yn ogystal â'r ystafelloedd eraill yn y ty. Sgrwbiwch yr arwynebau heigiog â brws caled i symud yr wyau a defnyddiwch hwfer grymus i dynnu llau gwely o graciau ac agennau. Bydd tynnu fframiau gwely'n ddarnau hefyd yn datguddio mwy o guddfannau. Tynnwch ddroriau allan o ddesgiau a dreseri a throwch unrhyw ddodrefn drosodd os yw hynny'n bosibl, er mwyn archwilio a glanhau unrhyw guddfannau posibl.

Gellir gorchuddio matresi a sbringiau bocs yn barhaol mewn bagiau matras arbennig. Unwaith i chi osod y bagiau hyn, gwiriwch nhw i sicrhau nad ydynt wedi'u difrodi. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw dyllau neu rwygiadau, seliwch y rhain â thâp. Bydd unrhyw lau sydd wedi'u trapio yn y bagiau hyn yn marw yn y pen draw.

Er mwyn helpu i rwystro llau gwely rhag ymlusgo i mewn i'ch gwely, tynnwch y ffrâm oddi wrth y wal, lapiwch y dillad gwely i mewn yn glud fel nad ydynt yn cyffwrdd y llawr a rhowch goesau'r gwely mewn dysglau o olew llysiau. Calciwch a seliwch unrhyw dyllau lle mae pibellau a gwifrau'n mynd trwy waliau a lloriau a llenwch unrhyw graciau o gwmpas byrddau sgertin a chilfwâu i leihau unrhyw lochesau pellach.

Goblygiadau cyfreithiol?

Mae gan landlordiaid a pherchnogion tai rwymedigaethau cyfreithiol i ddarparu llety diogel a chyfanheddol i denantiaid. Gallai rhai plâu, gan gynnwys llau gwely, ffurfio cyflwr annerbyniol. Mae gan denantiaid rwymedigaeth i gydymffurfio â pherchnogion a landlordiaid. Mae hyn yn cynnwys paratoi'r eiddo fel y gall y Swyddog Rheoli Plâu archwilio'r ystafelloedd a'u trin yn ôl yr angen.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cydnabod yr anawsterau o ran trin eiddo sydd â phla llau gwely. Heb driniaeth, neu heb driniaeth effeithiol, bydd y pla'n tyfu ac yn lledaenu gan effeithio ar nifer o bobl a chartrefi eraill. Gan hynny, mae'r Cyngor wedi mabwysiadu strategaeth i sicrhau bod cartrefi sy'n cael eu heffeithio gan lau gwely'n cael eu trin yn effeithiol. Mae'r strategaeth hyn yn cynnwys defnyddio'r holl ddulliau a ddisgrifir yn y daflen hon er mwyn sicrhau bod triniaeth effeithiol yn cael ei defnyddio'n fuan.

Os ydych yn berchen ar gartref, dylech gysylltu â rheolwr plâu trwyddedig sy'n wybodus ac yn brofiadol mewn rheoli plâu llau gwely. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnig gwasanaeth archwilio a chynghori am ddim ar gyfer llau gwely. Ffoniwch 01978 292040 i drefnu i Swyddog Rheoli Plâu ymweld â chi.

Dylai tenantiaid preifat adrodd am broblemau efo llau gwely i'w landlord. Os nad yw'r landlord yn fodlon trin y broblem, dylai'r tenant gysylltu â ni a rhoi manylion yn landlord i ni. Byddwn yn cysylltu â'r landlord yn uniongyrchol wedyn.

Cofiwch fod angen cynllunio'n ofalus i drin pla'n llwyddiannus. Peidiwch â disgwyl i bryfladdwr yn unig ddatrys y broblem. Dylech ddisgwyl i weithredwr rheoli plâu ofyn i chi baratoi'r eiddo'n drylwyr cyn defnyddio unrhyw driniaeth (gweler - Trin llau gwely - Beth ddylech chi ei wneud).

Mae'n bwysig cofio eich bod yn talu am y driniaeth ac nid y canlyniad a gallai gymryd sawl triniaeth i gael gwared ar y pla'n gyfan gwbl.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Trin llau gwely - Beth ddylech chi ei wneud - BB3

Os ydych yn canfod pla llau gwely yn eich cartref, dylech dalu swyddog rheoli plâu proffesiynol i drin y broblem. Fodd bynnag, mae nifer o bethau y dylech eu gwneud cyn dechrau unrhyw driniaeth.

Cyn i'ch cartref gael ei drin, rhaid i chi:

  • Hwfro unrhyw loriau a dodrefn sydd wedi'u clustogi'n drylwyr i gael gwared ar unrhyw weddillion, wyau, chwilerod ac ati, yn enwedig mewn ystafelloedd gwely a mannau eraill lle mae pobl yn cysgu. Byddwch yn ofalus wrth gael gwared ar fag yr hwfer. Rhowch y bag mewn 2 fag plastig cyn ei roi mewn bin y tu allan i'r ty.
  • Ysgubwch a golchwch neu hwfrwch unrhyw loriau caled.
  • Gwagwch gypyrddau dillad, droriau ac ati a golchwch y dillad oddi ynddynt ar y tymheredd uchaf posibl.
  • Tynnwch y dillad gwely a'u golchi ar y tymheredd uchaf y mae'r defnydd yn ei ganiat´u (gwiriwch ganllawiau'r gwneuthurwyr).
  • D.S. Dylid rhoi dillad a dillad gwely mewn bagiau bin yn yr ystafell dan sylw cyn eu cludo i'r peiriant golchi fel nad yw'r pryfed yn disgyn oddi arnynt wrth eu cludo.
  • Fel arall, dylech roi'r holl ddillad a dillad gwely mewn peiriant sychu dillad am o leiaf awr ar dymheredd uchel.
  • Tynnwch bopeth oddi ar y llawr (llyfrau, teganau, cylchgronau ac ati) fel bod modd trin cymaint o'r ystafell â phosibl. Tynnwch ddodrefn oddi wrth y waliau fel bod modd trin y tu ôl iddynt hefyd.
  • Dyllid tynnu gwlâu ac unrhyw lochesau eraill yn ddarnau lle bynnag y bo hynny'n bosibl er mwyn eu trin yn drylwyr. Gyda gwlâu cwpwrdd, dylid tynnu'r ffabrig sy'n gorchuddio gwaelod y gwely.
  • Ni ddylai plant nac anifeiliaid anwes fod yn bresennol pan fydd yr ystafell(oedd) yn cael ei thrin/eu trin. Symudwch neu gorchuddiwch danciau pysgod ac unrhyw becynnau bwyd sydd wedi'u hagor.
  • Lle bynnag y bo'n bosibl, yr unig eitemau a ddylai fod yn yr ystafell wrth iddi gael ei thrin yw'r gwely, y matras a'r dodrefn gwag.

Ar ôl y driniaeth

Cadwch allan o'r eiddo nes i'r pryfladdwr sychu. Dylech ddisgwyl i hyn gymryd 2 - 3 awr.

Os nad yw'n bosibl i chi adael y ty dylech gadw draw o'r ystafell(oedd) sydd wedi'i thrin/wedi'u trin lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Efallai y byddwch yn gweld llau gwely ychydig ddyddiau ar ôl y driniaeth. Mae hyn am fod yr wyau'n deor. Bydd y pryfed yn marw unwaith iddynt ddod i gysylltiad â'r pryfladdwr. Peidiwch â hwfro am o leiaf 3 wythnos ar ôl y driniaeth. Yr hiraf yr ydych yn gadael yr ystafell(oedd) heb ei/eu hwfro, y mwyaf llwyddiannus y bydd y driniaeth.

Cofiwch - Peidiwch â hwfro am gymaint o amser â phosibl ar ôl y driniaeth - o leiaf 3 wythnos, ond hyd at 6 wythnos yn ddelfrydol.

Rheolaeth yn y dyfodol

Mae safonau uchel o lanweithdra a thacluso yn annhebygol o reoli pla. Fodd bynnag, trwy gadw'r ty'n lân, byddwch yn gallu gweld llau gwely ynghynt gan ei gwneud yn haws i chi eu rheoli a lleihau'r siawns o gael pla taenedig. Mae nifer o bethau y gellwch eu gwneud i helpu i rwystro llau gwely rhag ail-heigio'r ty.

  • Newidiwch y dillad gwely o leiaf unwaith yr wythnos a'u golchi ar y tymheredd uchaf a ganiateir gan y defnydd (gwiriwch ganllawiau'r gwneuthurwyr).
  • Hwfrwch y ty o leiaf unwaith yr wythnos, gan roi sylw arbennig i fannau o amgylch y gwely a dodrefn.
  • Gall tymheredd effeithio ar weithgarwch llau gwely, felly cadwch ystafelloedd yn oer braf, yn enwedig gyda'r nos, trwy droi'r gwres i lawr neu i ffwrdd neu agor ffenestr.
  • Edrychwch am dyllau yn y llawr a'r waliau lle gallai'r llau guddio. Seliwch fylchau mewn dodrefn, estyll a chraciau mewn papur wal a lleoedd eraill lle gallai'r llau guddio yn ystod y dydd.
  • Os ydych yn symud i mewn i'r eiddo am y tro cyntaf: -
    Gwiriwch yr ystafelloedd yn ofalus cyn i chi symud i mewn iddynt - edrychwch o gwmpas ymylon y carpedi ac yn y plygiadau ar ymyl y matras yn arbennig.
    Ystyriwch brynu matras newydd.
    Ystyriwch lanhau'r carpedi â glanhawr stêm.
  • Os ydych yn teithio, gwiriwch yr ystafell yr ydych yn aros ynddi'n ofalus.
  • Ar ôl i chi ddychwelyd adref, gwiriwch eich bagiau am unrhyw bryfed a allai fod wedi 'teithio'n gudd'.

Mae cyngor ar gael yn rhad am ddim gan Wasanaeth Rheoli Plâu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Os oes gennych unrhyw amheuon neu bryderon am lau gwely nawr neu yn y dyfodol, mae pob croeso i chi gysylltu â ni.

Gwybodaeth Cyswllt

Cyngor Wrecsam
Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd
Stryd Fawr
Rhiwabon
Wrecsam
LL14 6NH

Ffôn: 01978 298989
E-bost: cysylltwch@wrexham.gov.uk

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint