Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Difa Plâu

 

Gwybodaeth bwysig i bobl sy’n defnyddio Gwasanaeth Difa Plâu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

O 1 Ebrill 2008 ymlaen, bydd y costau diwygiedig canlynol yn gymwys. Cysylltwch â’r Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd ar 01978 298989 am fwy o fanylion.



Llygod mawr

Eiddo Domestig Tenantiaid y Cyngor Eiddo masnachol
£10.50 Am ddim Gweler isod

Mae’r gost yn cynnwys arolwg cychwynnol, triniaeth a hyd at 2 ymweliad pellach.

Llygod

Eiddo Domestig Tenantiaid y Cyngor Eiddo masnachol
£16.00 Am ddim Gweler isod
Mae’r gost yn cynnwys arolwg cychwynnol, triniaeth (hyd at 4 blwch ag abwyd) a hyd at 2 ymweliad pellach.

Chwilod du (Arolwg a 2 driniaeth chwistrellu**)

Eiddo Domestig Tenantiaid y Cyngor Eiddo masnachol
£16.00 £8.00 Gweler isod
**Bydd yr ail driniaeth yn cael ei darparu os yw’r cais yn cael ei wneud o fewn 8 wythnos (56 diwrnod) o’r driniaeth gyntaf yn unig.

Chwain (Arolwg a 2 driniaeth chwistrellu**)

Eiddo Domestig Tenantiaid y Cyngor Eiddo masnachol
£31.50 £16.00 Gweler isod
**Bydd yr ail driniaeth yn cael ei darparu os yw’r cais yn cael ei wneud o fewn 8 wythnos (56 diwrnod) o’r driniaeth gyntaf yn unig.

Llau gwely

Eiddo Domestig Tenantiaid y Cyngor Eiddo masnachol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys gwasanaeth archwilio a chynghori am ddim ar gyfer llau gwely. Ffoniwch 01978 298989 i drefnu i swydog difa plâu ddod i’ch gweld.

Dylai tenantiaid preifat roi gwybod i’r landlord am broblemau â llau gwely. Os nad yw’r landlord yn fodlon eu trin, dylech gysylltu â ni gan roi manylion y landlord a gwnawn ni gysylltu ag ef/hi yn uniongyrchol.

Gweler isod

Cacwn

Eiddo Domestig Tenantiaid y Cyngor Eiddo masnachol
£36.50
Os yw SDP yn ymweld â chi a ddim yn cwblhau triniaeth am unrhyw reswm, gallwch wneud cais am ad-daliad o £20.
£16.00 Gweler isod
Os oes angen aildrin y nyth wreiddiol o fewn 8 wythnos (56 diwrnod) ar ôl y driniaeth gyntaf, ni fyddwn yn codi unrhyw dâl pellach. Byddwn yn codi’r pris llawn am nythod newydd/gwahanol.

Plâu eraill

Mae triniaeth ar gyfer y plâu canlynol yn dibynnu ar y galw ar y gwasanaeth ac amgylchiadau’r pla. Ar adegau prysur, byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i’r plâu uchod.

Morgrug; pryfed arian; chwilod carped; chwilod plastr; pryfed clust; pryfed; psosidiaid a phlâu bwyd cadw eraill; pryfed lludw.

Eiddo Domestig Tenantiaid y Cyngor Eiddo masnachol

£31.50
Arolwg ac 1 triniaeth chwistrellu

Gweler isod

Eithriadau

Nid oes unrhyw eithriadau i’r costau uchod.

Eiddo masnachol

Cyfradd Safonol Cyfradd Contract

£56 yr awr (lleiafswm o 1 awr).

Rydym yn codi £28 am bob hanner awr dros 1 awr.

A chostau deunyddiau.

£46 yr awr (lleiafswm o 1 awr)

Rydym yn codi £23 am bob hanner awr dros 1 awr.

A chostau deunyddiau

Gwybodaeth Cyswllt

Cyngor Wrecsam
Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd
Stryd Fawr
Rhiwabon
Wrecsam
LL14 6NH

Ffôn: 01978 298989
E-bost: cysylltwch@wrexham.gov.uk

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

 
English
 

Cyswllt i

Gwasanaethau Amgylcheddol
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint