|
Mae Amlosgfa Pentrebychan ar gyrion Wrecsam ac fe'i hagorwyd yn 1966. Roedd y safle'n gartref i Neuadd Pentrebychan yn flaenorol. Credir i'r neuadd gyntaf ym Mhentrebychan gael ei hadeiladu ar ddechrau'r 17eg ganrif gan Hugh Meredith o Wrecsam. Bu i'r teulu olrhain eu hachau yn ôl i Bleddyn ap Cynfyn, Tywysog Powys. Disgrifiwyd y neuadd a'r stad ymhlith y rhai mwyaf helaeth yn yr ardal, ac mae nifer o'r enwau Cymraeg a roddwyd i leoedd o fewn y stad yn ystod cyfnod y Meredithiaid cynnar yn parhau hyd heddiw.
Mae'r amlosgfa'n cynnal 1600 o amlosgiadau bob blwyddyn, gyda 50% ohonynt o fwrdeistref Wrecsam a 50% o ardaloedd eraill. Mae tiroedd yr amlosgfa'n ymestyn i 40 erw ac yn cael eu cynnal a'u cadw fel coetiroedd lled naturiol (gan gynnwys tri phwll a nant Pentrebychan). Mae'r mathau o anifeiliaid sy'n byw yn nhiroedd yr amlosgfa'n cynnwys crehyrod, moch daear, boncathod, nadroedd, hwyaid a thylluanod. Mae'r tiroedd hefyd yn cynnwys un padog heb ei bori a gedwir fel dôl wyllt a choedardd. Mae rhan o Glawdd Offa'n mynd trwy diroedd yr amlosgfa.

Capel Amlosgfa
Rhan o'n gwasanaeth yw darparu ffocws ar gyfer atgofion pobl. Efallai na fydd gan bobl sy'n dewis cael eu hamlosgi'r un canolbwynt a ddarperir gan garreg bedd, ac yn gyffredinol gall pobl ddewis mynd â'r lludw gyda nhw neu ei wasgaru yn nhiroedd yr amlosgfa. Mae’r canlynol yn gyfieithiad o ddyfyniad o lythyr a ysgrifennwyd at Amlosgfa Pentrebychan sy’n crynhoi’r hyn y mae’r amlosgfa yn ceisio ei gyflawni:
"Daethom i ymweld â’r amlosgfa er cof am fy nhad, ac am y tro cyntaf, fe wnaethom gerdded i lawr i’r Pwll Lilïau. Cawsom ein plesio’n fawr gan safon y gwaith cynnal a chadw’n gyffredinol, ac o ganlyniad, gwnaed diwrnod trist yn ddiwrnod hapus i ni. Diolch."
Yn Amlosgfa Pentrebychan, rydym yn darparu amrywiaeth o ddewisiadau. Gall pobl ddewis gwasgaru lludw yn un o bedwar o'n gerddi:
-
Gardd Furiog - gardd ffurfiol o fewn waliau'r neuadd o'r 17eg ganrif.
-
Rhodfa'r Wisteria - gardd newydd, mae Rhodfa'r Wisteria wedi'i thirlunio mewn arddull gyfoes gan gynnwys gardd gerrig siâl mewn lawntiau tywarchen.
-
Pwll y Lilïau - yng nghanol y coetir wedi'i amgylchynnu gan goed urddasol ac aeddfedd a lawntiau lle y gwasgerir y lludw. Gellir gweld adar dwr a bywyd gwyllt arall ger Pwll y Lilïau yn y coetir cyfagos.
-
Dôl y Cennin Pedr - cymeriad anffurfiol gyda chennin pedr, clychau'r gog, eirlysiau a blodau gwyllt eraill yn tyfu'n helaeth.
Mae'r holl ludw'n cael ei wasgaru ar 'leiniau' sydd â rhifau ac y gellir eu hadnabod yn rhwydd.

Gardd Furiog

Rhodfa'r Wisteria

Pwll y Lilïau

Dôl y Cennin Pedr
Mae gan Amlosgfa Pentrebychan Lyfr Coffa hefyd. Mae hwn yn cael ei gadw mewn capel bychan ar flaen y prif adeilad. Mae'r capel ar agor bob diwrnod o'r flwyddyn, gan gynnwys dydd Nadolig. Mae croeso i bobl ddewis eu geiriau eu hunain a gallant weld eu cofnodion pa bryd bynnag y maent yn dymuno gwneud hynny. Gallant hefyd gael copi bychan o'r llyfr yn cynnwys eu harysgrif.
Y Llyfr Coffa
Yn olaf, cynhelir Gwasanaeth Coffa bob blwyddyn yn Amlosgfa Pentrebychan i goffáu ffrindiau a pherthnasau sydd wedi'u hamlosgi ym Mhentrebychan. Mae hwn yn wasanaeth eciwmenaidd a gynhelir ym mis Gorffennaf fel rheol.
Oriau Agor
Mae'r fynwent ar agor i'r cyhoedd yn ystod yr oriau canlynol:-
1 Ebrill - 31 Hydref
Ar Agor 10.00 am, Ar gau 6.00 pm.
1 Tachwedd to 31 Mawrth
Ar Agor 10.00 am, Ar gau 4.00 pm.
Gwybodaeth Bellach
Amlosgfa Pentrebychan
Pentrebychan
Wrecsam
LL14 4EP
Ffôn: 01978 840068
Ffacs: 01978 846211
Ebost: crematorium@wrexham.gov.uk
Cyfeiriad
Prif Swyddog Amgylchedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adran Amgylchedd
Adeiladau'r Goron
Wrecsam
LL13 8BZ
Cysylltiadau
www.bedandbreakfasts.co.uk.
|