Cyrtiau Gôl Aml-ddefnydd
Mae'r cyrtiau gôl aml-ddefnydd yn enghraifft o offer hamdden ar gyfer pobl ifanc.
- Cyfunir y goliau aml-ddefnydd i ffurfio ardal chwarae sy'n addas ar gyfer gemau pêl-droed, pêl-fasged a chriced anffurfiol.
- Gellir llifoleuo'r Cyrtiau Gôl Aml-ddefnydd i gynyddu nifer yr oriau y gellir eu defnyddio yn ystod y gaeaf.
- Gall y cyrtiau ymgorffori llochesau neu gysgodfannau i alluogi i bobl ifanc ymgynnull, cymdeithasu a gwylio'r gemau.
- Caiff pob cyfleuster hamdden ei archwilio'n wythnosol am ddiffygion gan dîm cynnal a chadw arbennig.
- Darllennwch yr arwyddion diogelwch.
Mae cynlluniau llwyddiannus wedi'u rhoi ar waith yn:
- Solway Banks
- Lôn Price
- Parc Caia
- Mae cynlluniau newydd yn cynnwys Plas Madoc, Bangor Is-coed a Marchwiel
Parciau Sgrialu
- System o rampiau, neidiau, hanner peipiau a rheiliau sy'n addas ar gyfer sglefroliwyr, sgrialwyr a llwybrau BMX.
- Mae'r parciau wedi'u llunio ar y cyd â phobl ifanc er mwyn sicrhau a chyflawni'r mwynhad gorau posibl o gynllun y rampiau, ac i gydymdeimlo â'r amgylchedd lleol.
- Caiff pob cyfleuster hamdden ei archwilio'n wythnosol am ddiffygion gan dîm cynnal a chadw arbennig.
- Darllenwch yr arwyddion diogelwch a dewch â dillad diogelwch gyda chi, fel a gynghorir.
- Mae cynlluniau llwyddiannus wedi'u rhoi ar waith ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam e.e. Queensway, Parc Caia, Lôn Price, Solway Banks, Bradle, ac mae sawl cynllun newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Cysylltiadau
www.sk8m8.com - Cynlluniau ar gyfer lleoliadau parciau sgrialu a chyfleusterau BMX yn Wrecsam.
Dôl blodau gwyllt. Ardal ddynodedig a reolir er budd bywyd gwyllt fel un o ardaloedd 'tir glas trefol' Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Wrecsam. Plannwyd blodau gwyllt brodorol yn y glaswellt presennol i helpu i ddarparu cynefinoedd i bryfaid a ffawna arall, gan gynyddu bioamrywiaeth y parcdir
|