Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Parc y Ponciau

 

Cais llwyddiannus i Gronfa Treftadaeth y Loteri

Mae’r gwaith ailwampio ym Mharc y Ponciau, a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Cymuned Rhos, Cyngor Wrecsam a Chyfeillion Parc y Ponciau wedi dechrau fis Gorffennaf 2008.

Bydd y gwaith yn cymryd tua 3 mis i’w gwblhau gyda phlannu llwyni a choed yn dilyn wedyn rhwng yr hydref a gwanwyn 2009.  O bryd i’w gilydd ni fydd rhannau o’r parciau ar agor i’r cyhoedd.  Bydd Cyngor Wrecsam yn gwneud ei orau i gadw’r ymyrraeth hwn i’w leiafswm, gan gadw y trac BMX ac Ardal Chwarae’r Plant ar agor bob tro y bydd hynny’n bosibl.  Yr un modd gwneir pob ymdrech i gyda hawl tramwy’r cyhoedd o Stryt y Bedyddwyr i Stryt Pedr ar agor.  Rhoddir rhybudd pellach os bydd yn angenrheidiol cau y llwybr hwn. 

Gellir gweld cynlluniau datblygu’r parc yn Swyddfa Cyngor Cymuned Rhos, Y Stiwt a Phafiliwn y Parc.

Mae’r Cyngor yn diolch i chi am eich cydweithrediad tra bo’r gwaith hwn yn digwydd.   

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r grŵp cymunedol Cyfeillion Parc y Ponciau gadarnhad o £504,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yng ngwanwyn 2007.

Defnyddir arian y Loteri i ailwampio Parc y Ponciau’n llwyr, yn ôl i ysblander ei ddyddiau gorau yn y 1950au.

Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Llwybrau troed gwell a mynediad i bawb
  • Teledu Cylch Cyfyng
  • Golau stryd
  • Ailwampio’r cyrtiau tennis a chyfleusterau gemau pêl
  • Ailwampio ardaloedd y lawnt fowlio
  • Meinciau a biniau sbwriel
  • Plannu gwell
  • Bandstand wedi’i ailwampio
  • Agor golygfeydd o’r ardaloedd cyfagos
  • Creu ardal natur
  • Arwyddion parc gwell

Rhaglen Gwaith Trin Coed

Er mwyn agor a gwella’r golygfeydd o’r parc rhaid gwneud gwaith trin coed hanfodol i gael gwared â choed gwael neu afiach yn y parc.

Rhaglen Gwaith Trin Coed

Lawrlwythwch y daflen gwaith trin coed drwy ddefnyddio’r ddolen hon:

Rhaglen Gwaith Trin Coed - Fersiwn PDF 466Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Rhaglen y gwaith ailwampio

Mae’r gwaith ar y siafftiau pyllau a phrif waith ailwampio’r parc yn dechrau yng ngwanwyn 2008. Bydd y gwaith yn cymryd tua 4 mis, gyda phlannu’r llwyni a’r coed yn digwydd yn yr hydref.

Grŵp cymunedol Cyfeillion Parc y Ponciau

Mae’r grŵp Cyfeillion Parc y Ponciau wrthi’n trefnu gweithgareddau codi arian i hyrwyddo’r parc, a hefyd yn parhau i gefnogi ailddatblygiad y parc.

Mae’r grŵp Cyfeillion yn dal i chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig.  Os hoffech chi ymuno â’r grŵp Cyfeillion, neu gael gwybod mwy am eu gweithgareddau, ffoniwch Wendy Owens (01978 840007).

Prosiect Artist mewn Lleoliad

Wedi’i ariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chywaith Cymru Artwork Wales, bu’r Prosiect Artist mewn Lleoliad ymlaen yn hydref 2006 a haf 2007. 

Mae’r cerfluniau carreg a gynhyrchwyd yn cynrychioli mewnbwn gan gymunedau Ponciau a Rhos, ac yn adlewyrchu storïau lleol a hanes sy’n gysylltiedig â’r ardal.

Yn ystod y prosiect gweithiodd y cerflunydd carreg, Anthony Lysycia, gyda thros 300 o bobl o bob oed i greu cerrig wedi’u cerfio gan y gymuned.  .

Mae’r cerfluniau cerrig i’w gosod ger tri mynediad allweddol i’r parc.
Gosodwyd cerfluniau ‘Clwb Bowlio Rhos’ a ‘Cerddoriaeth a Mwyngloddio’ ym mis Awst, gyda gosod cerfluniau’r Mynediad y Dathlu wedi’i drefnu ar gyfer gwanwyn/haf 2008 yn ystod y gwaith ailwampio.

Cyfleusterau’r Parc

Trac BMX Parc Ponciau

Bowlio Lawnt Gefngrom

Mae Pafiliwn Bowlio Rhos ar y safle ac mae’n gyfleuster poblogaidd iawn.

Gobeithiwn barhau i ehangu’r ddarpariaeth bowlio, a chroesawu aelodau newydd o unrhyw lefel, drwy hyfforddi a chystadlaethau agored. Os oes gennych ddiddordeb yn y Clwb Bowlio, ffoniwch Phil Lloyd, Ysgrifennydd y Clwb, 01978 841632.

Cwrt Tennis ac Ardal Gemau Pêl

Wedi’u hailwampio, bydd y cyrtiau yn cynnig sesiynau hyfforddi a chyfleoedd i’r cyhoedd ac ymwelwyr chwarae gemau.

Meysydd Pêl-droed

Mae’r caeau’n cael eu defnyddio’n helaeth, mae yna bafiliwn ac ystafell newid ar y safle ar gyfer gemau wedi’u trefnu.

Ardal Chwarae’r Plant

Mae’r ardal chwarae wedi’i gynllunio ar gyfer plant bach a phlant oed cynradd ac wedi’i ffensio i gadw cŵn allan. Ynddo mae siglenni plant bach, chwyrligwgan, symudion ar sbring, ffrâm ddringo Nexus, bar sy’n cylchdroi, fframiau dringo ar gyfer plant bach ac oed cynradd a llithrennau. Darperir siglenni oed cynradd cyn hir

Bandstand

Unwaith y bydd wedi’i ailwampio bydd to symudadwy ar y bandstand a chyflenwad trydan er mwyn cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau cerddorol a theatrig..

Cylch yr Orsedd

Mae’r cylch o gerrig sy’n sefyll yn dathlu’r ffaith bod y parc wedi’i ddefnyddio yn faes eisteddfod ym 1961.

cefnogwyd gan y loteri genedlaethol trwy gronfa dreftadaeth loteri

Teithiau Cerdded o Amgylch Wrecsam - Haf/Hydref 2008

Ymunwch ag arweinydd teithiau cerdded hyfforddedig am deithiau anffurfiol o amgylch Ponciau, Rhos, Johnstown a Phenycae.

Bydd pob taith yn dechrau a gorffen ger Pafiliwn Bowlio Rhos gan gymryd tua hanner awr.

Bydd y teithiau rhwydd hyn yn rhoi blas o fudd a mwynhad cymdeithasol cerdded ac maent yn agored i ‘r cyhoedd o bob oed.  Bydd arweinydd cerdded ar y blaen ac yn y cefn.  Felly, does dim ots beth yw’ch cyflymder, fyddwch chi ddim ar ben eich hun.  

Dewch ac ymunwch â’r cerddwyr newydd bob dydd Llun gan ddod yn heini, yn iach a chyfarfod pobl newydd a dysgu ychydig mwy am yr ardal. 

Dyddiadau’r teithiau cerdded

  • Dydd Llun 28ain Gorffennaf: 10.00am Pafiliwn Bowlio Rhos
  • Dydd Llun 4ydd Awst: 10.00am Pafiliwn Bowlio Rhos
  • Dydd Llun 18fed Awst: 10.00am Pafiliwn Bowlio Rhos
  • Dydd Llun 1af Medi: 10.00am Pafiliwn Bowlio Rhos
  • Dydd Llun 15fed Medi: 10.00am Pafiliwn Bowlio Rhos

Cynghorir cerddwyr i wisgo esgidiau cadarn fflat beth bynnag fo’r tywydd gan nad yw flip flops neu sandalau agored yn addas bob amser ar gyfer llwybrau mwdlyd neu welltog.

Am fwy o fanylion am y teithiau cysylltwch â Natalie Edwards ar (01978) 757524.

 
English
 

Cyswllt i

Parc Acton
Parc Bellevue
Parc Ponciau
Parc Brynkinalt
Grin Fowlio
Caeau Pêl Droed
Cyfleusterau Parc
Caeau Chwarae
Cyfleusterau Caeau Chwarae
Y Ddarpariaeth Chwarae Ieuenctid
Cyrtiau Tennis

Mynegai i'r Gwasanaethau Amgylcheddol
Gwybodaeth Cyswllt
Gwasanaethau Lleol Arall
Ymateb Gwefan
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint